Cefndir

Amcanion (o Reolau Sefydlu  ‘Cymdeithas Llafar Bro’, 1970)
Darparu deunydd darllen addas yn y Gymraeg, ar ffurf newyddion, hanesion ac erthyglau o ddiddordeb lleol i drigolion Blaenau Ffestiniog, Tanygrisiau, Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd, a thrwy hynny hybu mwy o ddarllen Cymraeg ymysg pobl ifainc ac oedolion y cylch.
Cynnig gwasanaeth yn hytrach na gwneud elw fydd y nod.


Rhifyn cynta' -Hydref 1975


Ymddangosodd gwpled Sion Gwyndaf efo'r brif bennawd ers y cychwyn cyntaf hyd heddiw:
Ieuanc a hen ddarlleno
O leufer brwd 'Lafar Bro'.

                                              'Bathodyn' cyntaf Llafar Bro
Yn rhifyn 52, mis Mawrth 1980 ymddangosodd hwn gyntaf, pan oedd y papur yn costio 10 ceiniog, ac yn 12 tudalen ar gyfartaledd. 
Dafydd Roberts oedd wedi'i gynllunio. Mae'n ymddangos ar dudalen 2 hyd heddiw


Cadwyd y pennawd a'r logo yr un fath am ddeunaw mlynedd, tan rhifyn 250, ym mis Mawrth 1998. Erbyn hynny, 25c oedd pris Llafar Bro.

Erbyn Ionawr 2015, roedd y cynnydd ym mhrisiau argraffu'r papur wedi gorfodi codi'r pris i 50 ceiniog, ar ôl bod yn 40c am bum mlynedd. Er hyn, mae Llafar Bro yn parhau'n un o bapurau bro rhataf Cymru yn sicr; os nad y rhata'. Dim ond hanner can ceiniog am 20 tudalen yn llawn erthyglau a newyddion a lluniau a chyfarchion.

Rhifyn Medi 2017



Ers rhifyn Mehefin 2019, argraffwyd Llafar Bro mewn lliw llawn. Er y gost ychwanegol, credwn ei fod yn gwneud byd o wahaniaeth i ddiwyg ein papur bro. Be' ydych chi'n feddwl?
 
Rhifyn Medi 2020
 

 
Mae'r gymdeithas yn dal i gyhoeddi 11 rhifyn y flwyddyn, a'r cwbl yn gwbl wirfoddol. Mae tua 40 o bobl yn cyfrannu bob mis, fel gohebyddion, aelodau'r pwyllgor, dosbarthwyr, golygyddion, colofnwyr, trefnydd hysbysebion, cadeirydd, ysgrifennydd, trysorydd.

Yn y gorffennol, roedd cymdeithasau a chlybiau'r fro yn cymryd eu tro i yrru aelodau i hen festri Maenofferen- neuadd y WI bellach- i gynorthwyo efo'r plygu bob mis.







Roedd yn noson gymdeithasol braf gyda thipyn o dynnu coes, a hwyl i'w gael. O fanno, fe rennid y papur i'r dosbarthwyr lleol ac i siopau'r fro, ac ymhellach.


Ers haf 2019, efo argraffu'r rhifynnau lliw, daeth yr angen i ni blygu pob rhifyn i ben, ac er bod hiraeth am y cwmni hwyliog, mae'n llawer llai o waith i'n gwirfoddolwyr ni bellach.

Cofiwch chi, mae digonedd o gyfleoedd i wirfoddoli os ydych chi awydd cyfrannu at waith Llafar Bro; cysylltwch!


PIGION LLAFAR:

Cyhoeddodd Cymdeithas Llafar Bro lyfr  'Pigion Llafar 1975-1999' er mwyn dathlu'r milflwyddiant, gyda Mrs Elizabeth Jones yn arwain tîm o olygyddion.
Os ydych yn hoffi'r gyfres Trem yn ôl ar y wefan -ewch i chwilio am gopi o'r llyfr. Bron i gant o dudalennau am £3 yn unig!




 CASGLIAD LLAWN Y LLYFRGELL:

Cofiwch bod modd gweld ol-rifynnau o Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau.


O'r rhifyn cyntaf un maen nhw wedi eu rhwymo'n daclus ac wedi eu cadw at ddefnydd trigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt.

Gallwch ddilyn colofnwyr presennol a hen rai; chwilio am eich enw ymysg y cyfarchion, neu am eich llun yn y carnifal, a llawer, llawer mwy!

GWEFAN
A dyma ni, wedi rhyw-fath o ddal i fyny efo'r dechnoleg, a chreu gwefan er mwyn atgynhyrchu rhai o gyfresi ac erthyglau difyr y papur, a hynny o'r archif yn ogystal ag o rifynnau diweddar.
Mae'r wefan, a thudalen Gweplyfr (neu Facebook) Llafar Bro wedi profi'n boblogaidd, ac ers 2012 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ychwanegu'r wefan i Archif Gwefannau y deyrnas gyfunol, er mwyn gwarchod y cynnwys am byth. Cewch mwy o fanylion yma.


Erthygl 'Blwyddyn gyntaf Llafar Bro' o rifyn 500, Rhagfyr 2020.
 

Cofiwch, tydi atgynhyrchu erthyglau a cholofnau ar y wefan hon, ddim yn arwydd bod Cymdeithas Llafar Bro yn cytuno gydag unrhyw farn a leisir gan yr awduron gwreiddiol.




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon