28.1.18

Bwrw Golwg- Eisteddfod Talieithiol Gwynedd, 1891

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Gan W.Arvon Roberts.

Am  dridiau ym mis Awst 1891, o’r 25ain i’r 27ain, cynhaliwyd yr eisteddfod uchod ym Mlaenau Ffestiniog, a hynny mewn pabell a gostiodd £250. Pabell o waith E.E .Evans, Betws y Coed a’i chodi yn Sgwâr y Farchnad. Yr oedd yn un yn dal dŵr, wedi’i ardduno’n wych ac arwyddeiriau i gyd yn Gymraeg, a digon o le ynddi i 6000.

Saith mlynedd yn ddiweddarach cynhaliwyd y Brifwyl Genedlaethol yn yr un lle, y tro cyntaf iddi ymweld â Meirionydd. Cafodd degau o filoedd egwyl hyfryd o’r chwareli i fwynhau eu hunain ym 1898, ac yn yr Eisteddfod Talieithol, llwyr ataliwyd y chwareli yn ystod gweithgareddau’r Ŵyl.

Am 5 o’r gloch, dydd Mawrth, yn hen Ysgoldy Dolgarreg Ddu, death cynulliad lluosog i wrando ar T.E. Ellis AS, yn areithio ar ‘Addysg yng Nghymru’, a’r Prifathro T.F.Roberts, Aberystwyth, ar ‘Deddf Addysg Rhydd’. Am 6.30pm yn Ystafelloedd yr Assembly, cynhaliwyd cyngerdd dan lywyddiaeth A.M.Dunlop. Cymerwyd rhan gan Miss Maggie Davies, Miss Eleanor Rees, Miss Maggie Williams; a’r Meistri Ben Davies, Ffrangcon Davies, W. Davies a Wilfred Jones. Y cyfeilwyr oedd D.D. Parry a J. Osborne Williams; Telynwyr – Eos y Berth ac Ap Eos y Berth a D. Francis; ynghyd a Côr y Moelwyn Glee Society a Seindorf Arian yr Oakley.

Erbyn dydd Mercher yr oedd y tywydd wedi gwella mewn cymharaieth â’r diwrnod gwlyb blaenorol; eto, yr oedd yn wyntog a’r cymylau uwchben yn fygythiol. Am 9.30 cynhaliwyd Gorsedd ar lawnt Bowydd, o dan arweiniad Gwilym Alltwen, yn absenoldeb Clwydfardd. Cyfansoddodd Alltwen englyn i’r achlysur:

O!’r hen Orsedd fawreddog – yma’r wyt
Yn mawrhau Ffestiniog;
Uwch meini llech, a maenllog- y Brython
A gario swynion ein gwersi enwog

Am 10.30 cafwyd tyrfa gweddol luosog yn y babell. Arewinwyd gan Cynonfardd (y Parch Thomas Edwards, 1848-1927) a ddaeth trosodd o Bensylfania i’r Ŵyl, gyda T.E.Ellis, Aelod Seneddol dros Feirionydd ar y pryd yn llywyddu.

Y buddugwyr oedd – cerflun derw gafr gyda’r arwyddair ‘Gwlad rydd a mynydd i mi’, gwobr 2 gini, T.Humphreys, Caernarfon; Hir a Thoddaidd y gorau o 42 ymgeisiwr , ‘Glanffrwd’ Elliseus Williams neu Eifion Wyn Porthmadog; Canu Penillion, ‘Ehedydd Môn’, gwobr o gini; cyfeithiad o ‘Merch Cae Melwr’, y gorau o 37, a gwobr o gini – Mr.Evans, brawd y newyddiadurwr, Beriah Gwynfe Evans; Cywydd ‘Y Gwaredwr’ neb yn deliwng; Cyfansoddi Pedwarawd D.D.Parry  - 3 gini; Cyfansoddi Unwad, J.Thomas, Mochdre  - 3 gini; Traethawd, ‘Awgrymiadau Ymarferol ar sut i gyfansoddi telynegion’  neb yn deliwng; Cân Ddisgrifiadol. ‘Y Ffair Gyflogi’, H.R.Abbey Williams Betws y Coed, a R. Williams (‘Marlwyd’) yn gyfartal – 2 gini.

Rhoddwyd gwobr o £15  a chornet arian gwerth 10 gini i’r seindorf orau a bu cystadlaeath rhwng seindyrf Llanberis a Llan Ffestiniog. Yn dilyn beirniadaeth Emyn Evans a John North, Huddersfield, y buddugwyr oedd Seindorf Llan Ffestiniog.

Yr oedd dau gôr yn cystadlu am y brif gystadleuaeth, Côr Undebol Caerleon  75 aelod, arweinydd J. Robinson,  Côr Llanfyllin, 82 o aelodau, arweinydd T.Price. Y gân oedd ‘Canwn ganiad newydd’ o ‘Emmanuel’ Dr Joseph Parry.  Côr Caerleon enillodd y wobr o £75. Traethawd ‘Yr eneth, y ferch a’r fam’, gwobr o 4 gini, buddugol Miss Annie Richard, Ysgol y Manod, allan o saith ymgeisydd.  Deuddeg englyn, ‘Newyn’, H.Gwynedd Hughes yr orau, 3 gini.

Hollti llechi i rai dros 18 oed, gwobr 25 swllt, yn gydradd fuddugol W.Jones, Stryd Dorfil ac A.Henderson, Talysarn; ac i’r rhai dan 18 oed, W.Jones, Teras Picton, Blaenau, gwobr 15 swllt. Cafwyd cyngerdd rhagorol yn yr hwyr.

Yn yr Orsedd ar ddydd Iau, diwrnod olaf yr Eisteddfod, cafodd nifer eu hurddo yn feirdd ac yn ofyddion. Traddodwyd anerchiad ar yr orsedd yn ei hynafiaeth gan Thomas Tudno Jones (‘Tudno’), ac offrymwyd gweddi gan yr Esgob Daniel Lewis Lloyd, Bangor, i ddiweddu. Yna aed yr orymdaith fawr i gyferiaid y babell, gyda Seindorf Llan Ffestiniog yn arwain ar y blaen, lle roedd yr Esgob a Tudno yn llywyddu ac yn arwain.

Dyfarwnwyd hanner gini o wobr i Robert Roberts, Harlech, am y ffon ddraenen orau. Saith llath o frethyn cartref, buddugol Shadrach Jones, Tanygrisiau,

Ymgeisiodd 100 ar yr Englyn ‘Trais’, Gwilym Alltwen aeth a’r wobr o  un gini. Traethawd ‘Mabolgampau’, yn gyd-fuddugol, ac yn ennill gini yr un, John Griffith, Llanfyllin, a D.R. Jones, Blaenau. Traethawd: ‘Dylanwad y Saeson ar y Cymry yn eu llenyddiaeth’, buddugol, gwobr 10 gini a thlws aur, John Roberts, Stryd Wesla, Blaenau Ffestiniog. Myfyrdraeth: ‘A marwolaeth ni bydd mwyach’, 4 gini, Tafolog a Tegfelyn yn gydradd. Datganu yr anthem: ‘Ynot Ti, O Arglwydd’, buddugol Côr Ffestiniog dan arweiniad H.Jones (‘Garmonfab’), gwobr £10.

Gwau sanau: Mrs Ann Jones, Soar, Talsarnau. Beirniadaeth ar y plu pysgota: enillydd Owen Williams, Stryd Leeds, Blaenau Ffestiniog, gwobr £1 a swllt. Cystadleuaeth arlunio digymorth: 1af – Idwal Owen Griffith, 2il John Owen, Llys Dorfil. Cystadleuaeth ‘Photographic Views of North Wales’, gorau, Mr Coatleigh, Amwythig.

Yn y munudau a ddilynodd disgynodd y glaw mor drwm fel y bu’n rhaid atal un cystadleuaeth a chanu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Awdl Bryddest y Gadair: ‘Abel’, gwobr o £20 a Chadair Dderw, buddugol o 21, Watkin Hezekiah Williams (‘Watcyn Wyn’).

Cynllun cwpan llechen o gwpwrdd tri darn, Richard E.Davies, Sgwâr y Parc, Blaenau, 2 gini. Cystadleuaeth canu ‘Martyrs of the Arena’ -  ymgeisiodd pedwar côr – Llanidloes (arweinydd T.Phillips) 45 aelod; Newsham Park, Lerpwl (arweinydd G. W. Thomas) 39 aelod; Bethesda (arweinydd J.R.Jones) 46 aeold; a Blaenau Ffestiniog (arweinydd Cadwaladr Roberts), 36 aelod, rhannwyd y wobr o £15 rhwng y ddau olaf.

Bu’r cynulliadau yn lluosog ar hyd y dydd, a chafwyd cyngerdd unwaith eto yn yr hwyr yn cynnwys datganiad ardderchog o ‘Ystorom Tiberias’ (Stephens) gan y Côr dan arweiniad Cadwaladr Roberts. Swm y derbyniadau gan gynnwys y tanysgrifiadau oedd £1,164, oedd yn gadael  £300 o elw.
---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid defnyddio 'web view' ar ffonau symudol).

Llun -Paul W

24.1.18

Stolpia -gwaywffon a sled

Pennod arall o gyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au' gan Steffan ab Owain.

Daeth ambell beth arall i’m côf ar ôl imi ysgrifennu’n strytyn diwethaf am yr hen hogiau. Cofiaf fel y byddem ni’r hogiau a oedd ychydig yn iau na Raymond Cooke Thomas yn ei edmygu ac yn edrych arno fel tipyn o arwr gan nad oedd neb yn gallu ei guro ar daflu javelin yn yr ysgol na thaflu sbîar bren o’r felin goed yng Nglan-y-Pwll. Fel rheol, byddem yn croesi’r bont ac i’r domen lwch lli’ er mwyn chwarae Cowbois ac Indians, neu daflu picell neu sbîar, fel y dywedem.

Bu'n ychydig o gystadleuaeth rhyngom un tro, a ninnau yn ceisio ein gorau i daflu’r sbîar bren o un pen o’r domen lwch lli i’r pen arall, ond nid oedd hyd yn oed y gorau ohonom yn gallu ei thaflu mwy na rhyw hanner ffordd dros y domen.Yna, gafaelodd Rem yn yr un a oedd ganddo fo a’i thaflu dros y domen gyfan nes y diflannodd o’r golwg yng nghanol y brwyn. Roedd hi’n anodd i’r un ohonom gredu y gallai ei thaflu mor bell!

Cofiais hefyd fy mod â llun a dynnodd fy nhad yn y 50au o’m diweddar ewythr Yncl John, gŵr cyntaf Anti Meg, Bryn Tawel, yn dringo’r graig ar Garreg Flaenllym ger Nyth y Gigfran a’r domen lwch lli i’w gweld ymhell islaw.

A dod yn ôl at ein hanturiaethau, cofiaf Rem yn gwneud ffon dafl, (tebyg i’r wmera a ddefnyddir gan gynfrodorion Awstralia) a thaflu y bicell oedd ar y ffon o ben boncan Cae Baltic a chyrhaeddodd rhywle y tu ôl i Gapel Salem, pellter o tua dau gan llath neu fwy. Y mae hi’n dda nad oedd neb yn digwydd bod yn cerdded yn y fan a’r lle pan syrthiodd y taflegryn i’r ddaear!

Yn y gaeaf, a phan oedd trwch o eira, byddem yn sledio (slejio) i lawr y rhiw heibio talcen Baltic Hotel hyd at wastad y cae, gan nad oedd fawr o gerbydau yn teithio y ffordd honno y pryd hynny. Os cofiaf yn iawn, roedd Rem wedi dangos inni y gellid sefyll ar y sled yn hytrach nag eistedd arni, neu orwedd ar ein boliau arni hi, ac felly, ceisiodd rhai ohonom ei efelychu, ond er inni ymdrechu yn galed a chael llawer o hwyl, methu rheoli y slej a chadw ein balans arni oedd ein hanes a syrthio ar ein hyd i’r eira a fu’r canlyniad.

Do, cafwyd llawer orig ddifyr yng nghwmni Rem a llawer cyfaill arall yn y 50au.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)


20.1.18

Ysgol Maenofferen a'r Ail Ryfel Byd

Cyfres newydd gan Agnes Edwards, yn edrych ar lyfrau log Ysgol Maenofferen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Un diwrnod cefais wahoddiad, gan ysgol fy ŵyr a’m hwyres, i siarad am fy mhrofiadau a’m teimladau yn blentyn yn ystod yr ail ryfel byd.  Gan fy mod mor ifanc nid oeddwn yn gwybod y ffeithiau ac felly es ati i gael gweld llyfrau log ysgol neu ddwy.

Diolch i’r prifathrawon, cefais fynd i’r ysgol i gopïo peth o'r ffeithiau a gweld y penderfyniadau wnaed yr adeg hynny.  Dyma rai o eitemau o lyfr log Ysgol Merched Maenofferen gan ddechrau ym Medi 1939. Diddorol sylwi mai yn Saesneg y cofnodwyd y cwbl heblaw am ychydig o eiriau yn Gymraeg ar ddydd Gŵyl Ddewi. 

Yn wyneb y ffaith fod yr holl broblemau yn effeithio’r plant a’r athrawon,  y mae’n rhyfeddol fod yr ysgol yn medru rhoi cystal addysg i’r genethod.  Roedd y tywydd garw, a’r holl anhwylderau yn gwneud addysg yn anodd ond oherwydd gwaith da’r athrawon, y mae’n rhyfeddol fod cymaint o’r genethod wedi cael y marciau uchaf drwy sir Feirionnydd.  Roedd y ferch a’r marciau uchaf yn y scholarship yn cael gwobr o ‘gini’ sef £1.1.0 -a merch o Ysgol Maenofferen oedd honno’n aml.


Dyma ychydig o ffeithiau a gofnodwyd o’r log:

3/09/39  Yr ysgol yn cau am wythnos pan ddaeth cyhoeddiad o Lundain i ddweud bod rhyfel ar ddechrau. Yr wythnos ddilynol ail agorwyd yr ysgol gyda naw merch ddiarth wedi eu cofrestru yn Ysgol Maenofferen - y naw wedi dod yma fel evacuees. Am y ddau fis dilynol ychydig a gofnodir ond bod amryw o blant ac athrawon yn dioddef o ddolur gwddw, tonsilitis, cwinsi a difftheria gan ddilyn i’r flwyddyn newydd - mwy o ddifftheria a'r clefyd coch.

19/01/40  Cafwyd eira trwchus dros nos ac yr oedd yn oer iawn. Y chwareli wedi cau a phresenoldeb y plant yn yr ysgol i lawr i 56%.

26/01/40  Tywydd oer a gwynt o’r dwyrain.

21/02/40 Epidemic o beswch a ffliw - plant ac athrawon. Gyrrwyd tair athrawes adra, a chafwyd gorchymyn i gau'r ysgol am wythnos (gan yr Awdurdod Iechyd).

04/03/40  Yr ysgol yn ail agor a’r nyrs yn dod i edrych os oedd yna blant eisiau ychwaneg o fwyd maethlon ("under nourished children").

14/05/40  Roedd y diwrnod hwn i fod yn ddiwrnod o wyliau, ond daeth gorchymyn oherwydd haint  “rubella” (y frech goch).

26/09/40  Yr athrawon yn cael esiampl o’r cinio fyddai’r plant yn gael yn Festri Brynbowydd.  (Roedd plant y tair Ysgol sef Merched, Bechgyn a Babanod yn cael cinio canol dydd yn Festri Capel Brynbowydd.) Roedd y babanod a merched Std 1 yn mynd i lawr i Frynbowydd am 11.10 a.m. ynghyd a Bechgyn Std 1.  Yna am 11.40 a.m. aeth gweddill y genethod (61 ohonynt) (a gweddill y bechgyn mae’n siŵr). Cynnwys y cinio oedd “stew” a phwdin. Y pris oedd 3 ceiniog yr un bob dydd.

4/10/40  Cafodd 85 o enethod ginio drwy’r wythnos ond yr oedd y tywydd yn anarferol o wlyb a stormus.  Roedd y merched yn wlyb domen yn cerdded yn ôl ac ymlaen i Frynbowydd, yn enwedig y rhai bach. Yna, am 1.20 p.m. clywsant y siren yn canu.  (Roedd y ‘siren’ yn canu pan oedd unrhyw berygl i’w ganfod.) Roedd 155 o enethod yn bresennol. Pan ganai’r siren:
The bigger girls were scattered to different houses according to plan, while the other half took shelter in the 3 shelters provided by Education Authority in the playground.
(Fedra i ddim cael gwybod beth oedd y ‘plan’ ond fe gofiaf am un lloches yn iard y Genethod.) Ar ôl clywed yr all clear cafodd y genethod i gyd fynd adref gan fod rhan fwyaf  ohonynt yn wlyb domen ar ôl mynd yn ôl a blaen yn y glaw.

24/10/40  Canodd y siren eto am 1.15 p.m. Caewyd yr ysgol a rhannwyd y plant i wahanol dai a’r 3 lloches oedd yn y coed.  Chwarter awr yn hwyrach canwyd yr all clear a daeth pawb yn ôl i’r ysgol, ail ddechreuwyd y gwersi. (Rwy’n cofio mynd i lawr i’r maes chwarae tarmac i weld un shelter pan oeddwn yn y babanod. Roedd wedi ei wneud o fagiau tywod heb ddrws, a phan aethom ni i edrych arno roedd yr arogl yn eich taro chi.  Roedd y defaid wedi cael modd i fyw yn cael lloches ac wedi baeddu ymhobman!  Penderfynais yr adeg hynny y buaswn yn cymryd fy siawns tu allan yn rhywle na mygu yn y shelter!

18/11/40  Galwodd nyrs gyda bocs cymorth cyntaf at ddefnydd yr ysgol.  Roedd un athrawes wedi cael tystysgrif mewn cymorth cyntaf a gadawyd y bocs yn ei gofal.

25/11/40  Cafwyd rholion o net (anti splinter). Rhoddwyd rhai ar y ffenestri a drysau Mr Williams oedd yn gofalu am hyn a’r athrawon a’r merched yn ei gynorthwyo.

20/11/40  Daeth gorchymyn o Ddolgellau i ddweud na ddylai tanau yn yr ysgol gael eu cynnau cyn 8.30 a.m. o dan y Blackout Regulations. Ysgolion i ddechrau am 9.45 a.m. tan hanner dydd a’r prynhawn o 1 o’r gloch tan 3.15 p.m.

13/12/40  Presenoldeb yn isel o achos epidemic o glwy’ pennau drwy’r ysgol ac amryw yn cwyno efo’r pâs.

07/01/41  Tywydd difrifol.  Dim dŵr yn adeilad yr ysgol.  Dŵr wedi rhewi yn y toiledau.

16/01/41  Doctor yma yn rhoi triniaeth i rwystro difftheria.  Amryw o’r genethod wedi cael pigiad i wrthsefyll difftheria.
--------------------------------------

Detholiad yw'r uchod, o ran 1 y gyfres, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017.
Llun Paul W


16.1.18

WI Blaenau'n dathlu


Ym mis Medi 2017 dathlodd cangen Sefydliad y Merched, Blaenau Ffestiniog ei phen-blwydd yn 100 oed.


Yn ystod y dathlu trefnwyd arddangosfa o’r blynyddoedd - o’r cofnodion cyntaf yn 1917 hyd at heddiw yn 2017. Roedd lluniau o nifer o ddigwyddiadau a daeth llawer o ddisgynyddion hen aelodau yno, fel Ann Owen a’i chwaer Elisabeth o Landudno - y ddwy gyntaf i gerdded i mewn wedi’r drws gael ei agor! Mwynhaodd pawb weld yr hen ddogfennau a lluniau a daeth llawer o atgofion yn ôl iddynt. Roedd llawer yn cofio’r aelodau cyntaf megis Mrs Dauncey, yr ysgrifennydd cyntaf a da oedd gweld ei hwyres o Ddolwyddelan.

Ar noson arall cafwyd swper dathlu ardderchog a baratowyd gan Elina a gwahoddwyd aelodau o Sefydliad y Merched Ffestiniog a Deudraeth (yr olaf eisoes wedi troi cant oed) i ymuno â ni, yn ogystal a Mr a Mrs Williams sydd yn gofalu am agor a chau’r drws i ni. Cafwyd noson i’w chofio yn wir. Ymlaen yn awr i’r ganrif nesaf. Croeso i aelodau newydd ymuno â ni wrth gwrs.


Yn y lluniau gwelwn Miss Nancy Evans (Llywydd y Gangen) yn derbyn tystysgrif canmlwyddiant gan Mrs Meinir Lloyd Jones (Llywydd y Sir) a hefyd Miss Nancy Evans a Mrs Beryl Gratton yn torri'r gacen yn swper y dathlu.

Ffurfiwyd Sefydliad y Merched gyntaf yn 1915 yn Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, gyda'r nod o annog menywod i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gyflenwi bwyd yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn nhai'r aelodau y cynhaliwyd y cyfarfodydd ar y cychwyn. Dilynwyd y gangen gyntaf gyda changhennau yn Nghefn, Trefnant, Chwilog, Glasfryn, Llanystumdwy, Chricieth, Penrhyndeudraeth a Blaenau Ffestiniog. Yn dilyn y Rhyfel, dechreuodd canghennau lunio rhaglenni o weithgareddau a oedd yn seiliedig ar ddiddordebau'r aelodau. Yn 2006 roedd gan y W.I. dros 500 o ganghennau yng Nghymru; 16,000 o aelodau.

Tybed felly, o edrych ar y manylion uchod, mai Sefydliad y Merched, Blaenau Ffestiniog yw’r gymdeithas hynaf sy’n dal i gyfarfod yn y dref?
-----------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2017.

12.1.18

O'r Pwyllgor Amddiffyn

Rhan o erthygl Geraint Vaughan Jones, o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2017.

Bnawn dydd Iau, Tachwedd 30ain, caed gweld agor y Ganolfan Iechyd o’r diwedd, a hynny bron bum mlynedd union ers i’r Bwrdd Iechyd, yn Ionawr 2013, bleidleisio i gau yr Ysbyty Coffa. Daeth y Gweinidog Iechyd Vaughn Gething i fyny’n unswydd o Gaerdydd i gynnal y seremoni ac roedd yr Aelod Cynulliad, Dafydd Elis Thomas, hefyd felly’n bresennol wrth gwrs, yn ogystal â Gary Doherty a Dr Peter Higson, Prif Weithredwr a Chadeirydd y Betsi.


Ar fyr rybudd, roedd criw o tua deugain wedi ymgasglu tu allan i’r adeilad, mewn protest dawel i bwysleisio unwaith eto, ar y rhai sydd mewn grym, bod ardal Stiniog yn haeddu’r un ystyriaeth a’r un gwasanaethau ag sy’n cael eu cynnig mewn lleoedd eraill ym Meirionnydd, megis Dolgellau a Thywyn, sef trefi sydd â phoblogaeth lawer llai na Stiniog.

Tra bod prif swyddogion y Betsi wedi treulio munudau lawer yn sgwrsio efo’r protestwyr, rhyw sleifio i mewn efo’r wal, gan wenu’n wamal, a wnaeth y Gweinidog a’n haelod ni yn y Cynulliad. Doedd ganddyn nhw, yn amlwg, ddim diddordeb yn ein pryderon ni fel ardal.

Ys dywed y Sais, ‘So what’s new?
................................

Bu’r Pwyllgor Deisebau yng Nghaerdydd, sydd â chynrychiolydd o bob un o’r bedair blaid wleidyddol yn y Senedd, unwaith eto’n trafod pleidlais yr ardal hon i gael ward i gleifion, uned mân anafiadau a.y.y.b. yn ôl yma eto.

Mae’r bleidlais honno, a arwyddwyd gennych chi bobol yr ardal, wedi bod yn cael ei chadw’n agored gan y pwyllgor hwnnw ers dwy flynedd a hanner bellach, a hynny oherwydd nad ydyn nhw byth yn fodlon efo atebion y Bwrdd Iechyd i gwestiynau ac i bryderon y Pwyllgor Amddiffyn. Yn wahanol i bob un o’u cyfarfodydd eraill, doedd y cyfarfod diwethaf ddim yn agored i’r cyhoedd ond cawn le i gredu eu bod nhw, bellach, yn gefnogol i gael arolwg annibynnol i’r broses amheus a thwyllodrus o gau ein hysbyty yn ôl yn 2013.
..................................

Fel y soniwyd eisoes yn y golofn hon, bu’r Pwyllgor Amddiffyn yn galw hefyd ar Gyngor Gwynedd i gynnal arolwg annibynnol, ac mae’r Pwyllgor Craffu Gofal yng Nghaernarfon bellach yn pwyso ar Gabinet Plaid Cymru (sef y blaid sydd mewn grym yn y sir) i gytuno i wneud hynny. Hyd yma, fodd bynnag, digon anfoddog a negyddol fu’r ymateb o’r cyfeiriad hwnnw, er gwaetha’r cyfrifoldeb sydd ar eu hysgwyddau o dan Ddeddfau Llesiant (Well-being Acts) 2014 a 2015.

Fel Cyngor,’ meddan nhw, ‘ac fel partner pwysig i’r Bwrdd Iechyd, rhaid ymddiried bod y gwaith asesu gwreiddiol wedi cael ei wneud mewn modd cytbwys, trwyadl a theg.

Golchi ei ddwylo wnaeth Peilat hefyd, gyfeillion, ond mae ei warth wedi goroesi’r canrifoedd serch hynny.
....................................

Yn ôl ei arfer, roedd y Pencerdd Price wedi bod yn brysur yn paratoi at y brotest trwy lunio cerdd i’w chanu ar alaw ein hanthem genedlaethol. Gwaetha’r modd, roedd y gwahoddedigion i gyd yn glustfyddar i’n hymdrech gerddorol ni. Rhy brysur, mae’n siŵr, yn gloddesta ac yn mwynhau lletygarwch y Betsi, pwy bynnag oedd yn talu am beth felly!

Felly, be am i chi, ddarllenwyr hynod gerddorol Llafar Bro, fynd-ati i’w chanu hi gydag arddeliad cyn mynd i glwydo heno? Neu, gwell fyth, be am i’r teulu cyfan ffurfio côr? (Awgrym tafod-mewn-boch, mae’n wir, ond pwy ŵyr na fydd rhai ohonoch chi am dderbyn y sialens!) -

Mae’r hen ’Sbyty Goffa yn annwyl i ni,
Trwy aberth ein dewrion y cawsom ni hi;
Ei gofal, ei gallu, ei chariad oedd fawr –
Pam, Betsi, ein gadael i lawr?
 
Gwlâu, gwlâu,
Ein hangen ni yw gwlâu.
I’r claf gael parch, i’w glwyfau brau
O bydded i’n hymgyrch barhau.
....................................

Boed i 2018 fod yn Flwyddyn Llawn Iechyd i bob un ohonoch.
GVJ
--------------------------------
Erthygl o bron union dair blynedd yn ôl, pobl Stiniog yn gyrru neges glir i'r Bwrdd Iechyd: Taro'r Post i'r Parad Gl'wad

Gallwch weld hanes yr ymgyrch efo'r dolenni* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(*Ddim i'w gweld ar fersiwn ffôn -dewiswch 'View Web Version' ar y gwaelod)


8.1.18

Stolpia -eli at bob dolur

Pennod o golofn reolaidd Steffan ab Owain, o'r archif.

Dwi wedi sôn o'r blaen am yr hen eliau  ar gyfer pob math o ddoluriau a briwiau gan ein neiniau a’n teidiau gynt. Wel, mae’n amlwg o’r hyn rwyf wedi ei ganfod fod cryn dipyn o wahanol fathau o eliau ar gael yn lleol yn ystod dyddiau mawr ‘Stiniog.

Ar ôl imi grybwyll rhai o’r hen eliau lleol yn y golofn y tro diwethaf*, cofiais fod gan y diweddar John Jones (Meifod, Ffordd Wynne) hanesyn difyr yn ei gyfrol ‘Atgofion John R. ‘Stiniog’ am hen wreigan o Danygrisiau a fyddai’n troi ei llaw at wneud sawl peth er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd.

Byddai Anti Maria, fel y’i gelwid, yn gwneud bara cartref, pennog picl a phwdin reis ac yn eu gwerthu o’i chartref yn Nhan Lan, yn ogystal â chymryd golchi i mewn, a.y.y.b. Dywed wedyn:
‘Byddai hefyd yn paratoi eli, a balm, at losgfeydd a briwiau. Toddi lard mochyn, ac yna berwi baw ceffyl, neu fuwch, a chymysgu’r cyfan hefo’i gilydd, eu gadael i oeri, ac yna eu dodi mewn tun bychan, neu flwch matsus. Byddai’n credu’n gryf iawn mewn defnyddio baw ceffyl neu fuwch fel powltis at bennadynod, neu gasgliad o unrhyw fath.’
Fel y deallaf, byddai sawl hen wreigan yn Nhanygrisiau a’r Rhiw yn gwneud hyn. Tybed pwy all ddweud mwy amdanynt wrthym a chyn i’r hanesion ddiflannu am byth? Os cofiwch, soniais am eli o’r enw ‘Eli llosg Meirion’ yn y gorffennol, ond mae’n amlwg mai hanner y stori a dderbyniais.

Deallaf bellach mai Mr John Roberts, Rhesdai Springfield, sef taid i Mrs Morfudd Roberts, Cysulog, Ffordd Wynne oedd gwneuthurwr yr eli enwog hwn. Clywais hefyd fod rysêt yr eli yn dal ar gael gan aelodau o’r teulu ... ond ei fod yn dal yn gyfrinachol, hefyd! Dyma hen hysbyseb o’r eli o’r Rhedegydd am y flwyddyn 1928.



Deilen at bob dolur
Dyma ddywediad arall a glywir parthed hen feddyginiaethau, ynte? Wel, tra’n chwilota drwy’r Herald Gymraeg, Awst 30, 1927 yn ddiweddar deuthum ar draws y nodyn hwn yng ngholofn Manion o’r Mynydd gan Carneddog, ac er nad yw’n son am eli fel y cyfryw, credaf ei fod yn werth ei grybwyll yma. Un o’r enw John Davies, Llys Myfyr, Nefyn adroddodd y stori yn ei golofn:
‘Tra’n son am lygaid drwg, cof gennyf i wraig ym Mlaenau Ffestiniog ddweud wrthyf y modd y cafodd ei merch wellhad i amrannau cochion. Cyngor syml gan wr a gariai ei siop ar ei fraich ... Am iddi dorri deilen eiddew wlyddaidd pan fyddai’r ferch ar fin mynd i’r gwely, a’i chnoi’n dda, poeri ar y llaw, a dodi o’r poer ar yr amrannau. Gwelais y ferch fy hun a digon hawdd gweld iddi fod yn dioddef gan dynered yr emrynt.’
----
* Erthygl arall gan Steffan am eliau.

--------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2003. 
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. 
(Rhaid dewis 'Web view' os ar y ffôn)

4.1.18

Caban Bach

Roedd y Caban Bach yn ddeg oed yn 2017, a dyma hanes un o'r ffyrdd y bu'r staff yn dathlu!

Codi Arian at Achos Da Iawn

Yn yr hydref, cwblhaodd Lynda Jones, Medwen Williams a Sarah Jones, Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer Caban Bach, Canolfan Deulu Barnardo's. Bu buddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer y Marathon yn werth chweil. Fyddwn i byth yn anghofio’r awyrgylch anhygoel ar y diwrnod. Roedd y dyrfa mor gefnogol, yn ein tywys a’n cefnogi ar hyd y daith, ac roedd yn fraint bod ymhlith y 25,000 o redwyr.

Mae ein teuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr, ein cymdogion a phobl leol wedi bod yn hynod o hael yn ein cynorthwyo i godi £1,800. Diolch o waelod calon i bawb.

Yn ôl y dair: ‘Roeddem mor falch o gael rhedeg i godi arian ar gyfer achos mor bwysig, a hynny er mwyn galluogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd’.

Agorodd Canolfan Deulu Caban Bach Barnardo's ei drysau ym mis Ebrill 2007. Yr oedd yn benllanw misoedd o waith caled gan y gymuned leol, asiantaethau statudol a thîm Barnardo’s ym Mlaenau Ffestiniog. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan un o fechgyn y dref, Glyn Wise, ar yr 8fed o Fehefin a hynny yng nghwmni 120 o deuluoedd lleol a swyddogion. Cafodd y digwyddiad lawer o sylw yn y cyfryngau yng Nghymru.

Rhai o brif nodau’r prosiect hwn ydy:

•    Amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed
•    Cynyddu ein gwaith gyda thadau
•    Cefnogi rhieni a theuluoedd Gwynedd
------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017