27.11.17

Tanysgrifio!

Os nad ydych yn byw o fewn cyrraedd i ddosbarthwr neu siop sy'n gwerthu eich hoff bapur bro, daeth yn amser i danysgrifio ar gyfer 2018 gyfeillion!

Dyma'r prisiau er mwyn derbyn 11 rhifyn o Llafar Bro trwy'r post; prisiau rhesymol iawn, sydd unwaith eto heb gynyddu eleni: 
Cymru a gwledydd Prydain:    £16
Gweddill Ewrop:                      £43
Gweddill y byd:                         £50

Rhifynnau 2016. Llun -Paul W
Gofynnir i bawb sydd am dderbyn Llafar Bro bob mis (heblaw Awst) i anfon tâl at ein Trysorydd: Sandra Lewis, Bryn Bela, Ffordd Barwn, Blaenau Ffestiniog, LL41 3UG, cyn 31 Rhagfyr 2017. Sieciau yn daladwy i ‘Llafar Bro’ os gwelwch yn dda.

Mae’r tanysgrifiadau blynyddol yn dilyn y flwyddyn galendr, sef o Ionawr i Ragfyr. 

Manylion pellach a nodyn am y prisiau.


23.11.17

Ffynnon Mihangel

Ymddangosodd yr erthygl hon gan Emrys Evans, yn Llygad y Ffynnon (Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru) rh.2 haf 1997.

Y ffynnon a arferid yn Ffestiniog oedd Ffynnon St. Michael, a adweinir eto fel ‘Y Ffynnon’. Yr oedd olion adeiladau crynion heb fod nepell oddi wrth y ffynnon hon hyd yn ddiweddar, oddeutu Llwyn Crai, y rhai a allent fod o’r cyfnod hwn (sef cyfnod cynnar yr ardal): os felly, buasai'r ffynnon hon mewn lle cyfleus ac agos atynt, yr hyn a allasai fod yn rheswm am eu dewisiad. Priodolid rhinwedd iachaol i ddyfroedd y ffynnon hon ... a hyd ddechrau'r ganrif bresennol arferai llaweroedd ymgasglu i’r fan gan ddisgwyl cael eu gwella o’r crydcymalau, y gymalwst a llawer o anhwylderau eraill.

Cynllun- Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Dolen isod. (Sylwer: nid oes mynediad cyhoeddus i'r safle)

Dyna'r hyn sydd gan Griffith John William i’w ddweud am Ffynnon Mihangel yn ei lyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf a gyhoeddwyd yn 1882.

Y cyfeiriad cynharaf at y ffynnon y gwn i amdano yw un sydd ar fap a gaiff ei ddyddio yn ôl i’r flwyddyn 1795.  Ar hwnnw fe gyfeirir ati fel ‘Ffynnon Mihangel’. Ar fapiau diweddarach, ‘Y Ffynnon’ yn unig sydd ar ei chyfer.  Ar dir preifat y mae ‘Y Ffynnon’, y tu isaf i’r ffordd fawr bresennol rhwng Llan Ffestiniog a Blaenau Ffestiniog, oddeutu hanner ffordd rhwng y ddau le, ac mae ei dŵr yn llifo i afon fechan sy’n tarddu yn Llyn y Manod ac yn mynd heibio iddi.

Ar hyn o bryd does dim i’w weld yno ond cerrig blith-drafflith, sef gweddillion bwthyn bychan.  Ffynnonddŵr oedd enw’r bwthyn yma, a adeiladwyd ar y ffynnon.  Ni welir yr enw yng nghyfrifiad 1841 nac 1851, ond yng nghofrestr claddedigaethau’r plwyf ceir fod plentyn naw mis oed o’r enw Ann Jones, Ffynnonddŵr, wedi’i chladdu ar yr 17eg o Ragfyr, 1857.  Yng nghyfrifiad 1861 roedd William Jones a’i fam yn byw yno; ac yn 1881, Owen Roberts, ei wraig a’u dwy ferch a drigai yno.  Nid oes cofnod ar gyfer 1891 ac fe ymddengys fod y lle wedi mynd a’i ben iddo.

Gof oedd Owen Roberts, brawd y Dr Robert Roberts, neu Isallt fel y’i gelwid gan amlaf.  Ag yntau’n un o ‘Ddoctoriaid Congl y Wal’ fel yr oeddynt yn cael eu galw, gwyddai o’n dda am yr ardal.  Byddai’n barddoni cryn dipyn hefyd, ac mae ganddo gerdd ddisgrifiadol ‘Congl y Wal a Theigl’ sydd nid yn unig yn ddiddorol ynddi’i hun ond fe ychwanegodd Isallt nodiadau ati yn egluro ambell enw a chyfeiriad yn y gerdd.  Yn 1910 y’i cyhoeddwyd hi.  I bwrpas hyn o nodyn ar ‘Y Ffynnon’, y pennill sydd o ddiddordeb i ni yw’r un a ganlyn:

Y Ffynnon, tŷ hysbys, a’r Ffynnon Ddŵr glodus
Ddenai lu dan y parlys i’w llys i wellhau;
Yn ei dŵr yr ymdrochent, o’i rhin y cyfrannent,
Hael yfent a photient rhag ffitiau.

Yna, mae Isallt (bendith arno!) yn ychwanegu'r nodyn a ganlyn ar waelod y dudalen:

Deuent o bellteroedd am wellhad rhag ffitiau a chrydcymalau a hefyd parlys, meddai rhai.  Ni fu oes hir iddi - ni chynhwysai ei dŵr unrhyw sylwedd fferyllol.  Mae ei holion o fewn y murddun eto o ffurf chwe ochrog, a dau ris i fynd iddi, - ond wedi ei gorchuddio a sbwriel, pridd ayyb.

Dyma’r unig fan lle’r ydw i wedi gweld disgrifiad o’r Ffynnon, sef ‘o ffurf chwe ochrog, a dau ris i fynd iddi ..’ a chan mai brawd i Isallt oedd yn byw yma yn 1881, roedd o, mae’n bur debyg, yn gyfarwydd â thu mewn y bwthyn yma.

Ceir cyfeiriad at ‘Y Ffynnon’ yn y gyfrol Royal Commission on Ancient Monuments in Wales and Monmouth.  Ymwelwyd â’r safle ar yr 21ain o Fedi 1914, a’r nodiad arni yw fel a ganlyn:

This is  not so much a well as a spring of water which, rising beneath the floor of an old ruined house, flows copiously through an iron pipe from under the ruins.  It is still restored to by sufferers from rheumatism, fractured limbs and other maladies, but not to the same extent as in former days.  For this reason it has been suggested that it might have been the old sacred well of Ffestiniog, but it is not associated with any saint and is known only as ‘Y Ffynnon’.

Nid yw’r sylw, not associated with any saint  ar ddiwedd y nodyn uchod yn dal dŵr, fel petai, yn wyneb yr hyn sydd ar y map a ddyddiwyd 1795, na chwaith yr hyn sydd gan Griffith John Williams i’w ddweud yn ei Hanes Plwyf Ffestiniog.  Nid oes gan Francis Jones ddim byd gwahanol i’w ddweud yn ei lyfr The Holy Wells of Wales.

Mae rhai tai sydd wedi eu codi ger y ffynnon wedi cymryd eu henwau oddi wrthi - Y Ffynnon, Bron Ffynnon, Tŷ Newydd Ffynnon, ac mae tŷ a godwyd yn ddiweddar wedi’i alw’n Ffynnon Uchaf.

Yn ddiweddar, hynny yw, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, bu’r Tad Deiniol, offeiriad yr Eglwys Uniongred Roegaidd ym Mlaenau Ffestiniog, yn ymddiddori yn y ffynnon.  Mae hi wedi’i chysegru ganddo a bu’n ceisio cael nawdd gan adran o’r Gymuned Ewropeaidd er mwyn clirio’r safle a’i dacluso, ac adfer adeiladwaith y ffynnon.  Yn anffodus, nid oes arian ar gael i wneud y math yma o waith, ac felly, mae’r ffynnon yn dal wedi’i chladdu dan gerrig a phridd a sbwriel.
-------------------------------

Atgynhyrchwyd (heb y llun) yn Llafar Bro, Hydref 2017.
Mae'r erthygl hefyd ar wefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, lle ceir mwy o wybodaeth, a chynlluniau o Ffynnon Fihangel.


19.11.17

Cymdeithas Ted Breeze Jones

Yr oedd Ted Breeze Jones (1929-1997) yn adarydd a ffotograffydd o fri, yn ddarlithydd graenus ac yn awdur toreithiog. Yr oedd yn un o naturiaethwyr amlycaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif a chafodd ei waith lawer iawn o sylw yn y cyfryngau - yr oedd yn aelod o banel Seiat Byd Natur Radio Cymru am nifer mawr o flynyddoedd ac fe wnaeth nifer o raglenni teledu.


Roedd yn ddylanwadol yn ei filltir sgwâr, ardal Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd, ond yn sgil ei ddarllediadau radio poblogaidd, teimlid ei ddylanwad ledled Cymru.

Dyn tawel a diymhongar iawn oedd Ted. Yn dilyn ei farwolaeth, daeth criw o'i ffrindiau ynghyd a phenderfynu sefydlu cymdeithas er budd adar a bywyd gwyllt er cof amdano ac mewn gwerthfawrogiad o'i gyfraniad i fyd natur. Dyna sut y sefydlwyd Cymdeithas Ted Breeze Jones.

Gwelir yr uchod ar wefan y Gymdeithas 

Dw i’n ei gofio’n iawn yn byw yn rhif 9 Heol Dorfil a finnau yn ddisgybl yn Ysgol y Bechgyn Maenofferen ac yn ei ddosbarth 1960-61. Athro Standard 3 oedd Ted Breeze ac yng nghornel y stafell roedd Bwrdd Natur parhaol a phob math o ryfeddodau yn cael eu dangos. Dysgwn enw pob blodyn a phob aderyn oedd i’w gweld yn lleol yn Gymraeg, a hyfryd oedd cael mynd i gefn y tŷ yn Dorfil, dros y ffordd i fy nghartref i weld ei adar … rhai wedi eu clwyfo a byddai pawb yn dŵad a’r rheini draw ato i weld os medrai eu gwella.

Gwych o beth felly yw’r teithiau cerdded difyr a drefnir gan y Gymdeithas … nifer o gwmpas ardal Llafar Bro a cheir môr o wybodaeth gan yr aelodau am wahanol dyfiant, adar ac anifeiliaid gwyllt ynghyd ac unrhyw beth arall sy’n dal sylw ar y daith. Yn ddiweddar bu’r Gymdeithas yn crwydro o gwmpas Llyn Traws, taith dan ofal Dewi Jones, Brynbowydd … doedd fawr o adar i’w gweld bryd hynny ond cawsom wybodaeth arbenigol gan Twm Elias ar sut i nabod cen a ffwng … rhywbeth na wyddwn ddim amdano o’r blaen.


Dyma weithgareddau nesaf y Gymdeithas, ond os oes diddordeb gennych mewn byd natur ewch i wefan y Gymdeithas i weld os oes taith at eich chwaeth ac ymunwch.
TVJ


 --------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2017

15.11.17

O’r Pwyllgor Amddiffyn

Rhan o erthygl Geraint Vaughan Jones, o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2017.

Mae cylchlythyr diweddaraf y Bwrdd Iechyd yn disgrifio fel mae staff ein Canolfan Iechyd yn edrych ymlaen at gael symud i’r Ganolfan newydd, a chael gweithio o dan amodau llawer iawn gwell yn fan’no. A phwy all eu beio am hynny?

Gyfeillion, hyd yn oed ar ôl agor yr adeilad newydd, y ffaith ydi y byddwn ni’n derbyn 15 o wasanaethau yn llai na Dolgellau a 13 yn llai na Thywyn. 

Felly pwy sy’n twyllo pwy, meddech chi?

Mae’r datganiad canlynol gan un o adrannau’r Bwrdd Iechyd ei hun, yn ôl yn 2013, yn profi beth fu bwriadau’r Betsi o’r cychwyn –
“Bydd yr ad-drefnu yn arwain at arbediadau ariannol yn y gwaith cynnal a chadw, ac ynghyd â’r gwelliannau eraill ar safle’r Ysbyty dylid gweld arbedion sylweddol o fewn y pedair blynedd nesaf.” 
Arian penodol o Gaerdydd, sef £3.9m, sydd wedi talu am yr adeilad newydd, wrth gwrs. A dyna hefyd oedd y £5m a gafodd ei wario ar Ysbyty Coffa Tywyn yn ddiweddar. Hynny yw, dydi’r Betsi ddim wedi gorfod talu am yr un fricsen!

Rhaid cofio mai dyn busnes ydi prif swyddog y Betsi, heb unrhyw gymwysterau meddygol (fel pob Prif Weithredwr arall o’i flaen, gyda llaw). Arbed arian ydi blaenoriaeth pobol felly!  Dyna pam y cawson nhw eu penodi i’r swydd, wrth gwrs.

Sut bynnag, pob dymuniad da i staff y Ganolfan yn eu hamgylchfyd newydd. Gobeithio y byddant yn hapus ac yn fodlon iawn yno. Ond ddylai neb anghofio mai lles y cleifion sy’n dod flaenaf.

Rydan ni’n byw, bellach, mewn ardal sydd heb ysbyty na chartref nyrsio. Ers cau’r Ysbyty Coffa bedair blynedd a hanner yn ôl, fe gawsom glywed am gleifion o’r ardal hon yn gorfod wynebu marwolaeth yn unig iawn ac ymhell o gartref, cyn i’r un o’u hanwyliaid allu cyrraedd mewn pryd i gynnig cysur. O dan y drefn bresennol, mae’n anochel y bydd hynny’n digwydd eto, gwaetha’r modd, ond peidiwch â disgwyl i swyddogion y Betsi deimlo unrhyw euogrwydd ynglŷn â hynny.
-GVJ
------------------------------------------

Gallwch weld hanes yr ymgyrch efo'r dolenni* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. 
(*Ddim i'w gweld ar fersiwn ffôn -dewiswch 'View Web Version' ar y gwaelod)



11.11.17

Meibion Prysor yn cofio'r 'rhwyg o golli'r hogiau'

Cafodd aelodau Meibion Prysor a nifer o gyfeillion o’r ardal ymuno yn y cyfarfodydd coffa a drefnwyd yng Ngwlad Belg eleni. Dyma rai o atgofion un aelod o'r Côr fu ar y daith.

Dydd Gwener, Gorffennaf 28:
Roedd rhaid codi’n blygeiniol, neu beidio mynd i’r gwely o gwbl, gan ein bod yn cychwyn o Drawsfynydd am 03.30 y bore.  Cyrraedd Manceinion tua 05.30 a hedfan am 07.50.  Talu crocbris am frechdan bacwn yn y maes awyr!
Cyrraedd Brwsel ar amser am 10.15yb ac yna chwilio am y bws i fynd â ni i Kortrijk lle roedden ni’n aros am bedair noson.  Pnawn rhydd i ddod dros y teithio. 
Cychwyn am 6.30 yr hwyr am Ypres i gadw cyngerdd i griw o Gymry oedd wedi teithio gyda chwmni Seren Arian. Cafwyd cyngerdd llwyddiannus ac ymateb brwdfrydig wrth i blant Ysgol Sul Trawsfynydd, Elain Iorwerth ac Iwan Morus Lewis rannu’r llwyfan gyda Iona Mair, Iwan Morgan a Meibion Prysor.

Meibion Prysor a Phlant y Traws fu’n diddori’r gynulleidfa yn Ieper, Gwlad Belg

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 29:
Tywydd eli haul a dim angen ymbarel, diolch byth!  Aeth rhai o gwmpas rhai o’r mynwentydd i osod llechen bwrpasol a wnaed gan blant yr ysgol ar fedd pob milwr o Drawsfynydd a gafodd ei ladd yn y brwydro. Roedd pabi coch ar y lechen a’r geiriau ‘Mae dy fro yn dy gofio’ ar bob un.
Ymlaen â ni am Goedwig Memetz ac ardal Thiepval  lle bu peth o’r brwydro.  Yn wir, fe gollwyd oddeutu 24,000 o filwyr yma mewn un diwrnod.
Ar ôl cinio hyfryd yn nhref Albert, aethom i Beamont Hamel ac Ieper [Ypres] a chael peth amser rhydd yno.
Canwyd ‘In Flanders Fields’ a ‘Lleuad Borffor’ ar ôl y Last Post dan Borth Menin yn Ieper am
8.00pm.  Roedd rhai cannoedd o bobl yno a llawer iawn yn eu dagrau.

Dydd Sul, Gorffennaf 30:
Cychwyn am fynwent Essex Farm ac yna i fynwent Langemark.
Cawsom gyfle hefyd i alw i weld de Sportsman Pub yn Langemark lle mae’r perchennog wedi troi ei fwyty yn amgueddfa er cof am Hedd Wyn a’r milwyr o Gymru a fu farw yn yr ardal honno.  Cofiadwy iawn oedd hwn. 
Yna ymlaen â ni i seremoni dadorchuddio plac newydd i gofio Hedd Wyn, a roddwyd gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, oedd yn bresennol, ynghyd â Dylan Cernyw a Rhys Meirion.  Cafwyd geiriau pwrpasol gan Keith O’Brien, a dalodd deyrnged i waith y diweddar Isgoed Williams a weithiodd mor galed i gryfhau’r cysylltiad rhwng ardal Langemark a Thrawsfynydd.
Roedd cannoedd o bobl yno i wylio’r Archdderwydd, Geraint Llifon yn dadorchuddio’r plac ac yn darllen un o gerddi Hedd Wyn ‘Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng’.
Mi ganodd Meibion Prysor ‘Carol’ gan Hedd Wyn, sy’n cynnwys y llinellau dirdynnol o eironig,
Deuwch engyl eto i ganu uwch ein hen ryfelgar fyd, 
Cenwch wrtho am yr Iesu - all dawelu’r brwydrau i gyd...

Ymlaen â ni wedyn i gynnal gwasanaeth byr ar lan bedd Hedd Wyn ym mynwent Artillery Wood yng nghwmni’r plant a’r Côr.  Cafwyd gweddïau pwrpasol, canwyd emyn a chanwyd yr englynion coffa.  Cafwyd anerchiad pwrpasol hefyd gan Phil Mostert, yn sôn am ddewrder y milwyr ond hefyd yn cyfeirio at wastraff bywydau a’r camgymeriadau a wnaed gan wleidyddion, penaethiaid a chadfridogion.  Oni ddywedodd Lloyd George fod ‘Passchendaele yn un o drychinebau mawr y rhyfel.  Ni fyddai unrhyw filwr call yn amddiffyn yr ymgyrch ddisynnwyr hon.’  Dywedwyd gair am y miloedd y gorfodwyd iddyn nhw fynd i ryfela yn erbyn eu hewyllys, am y rhai na ddaeth yn ôl, a’r rhai a ddaeth yn ôl i wynebu blynyddoedd o boen corfforol a meddyliol.
Nôl yn y gwesty, gwelsom ein bod yn rhannu llety efo neb llai na’r prif weinidog, Theresa May... Plismyn arfog ym mhob man!

Dydd Llun, Gorffennaf 31:
Bore rhydd cyn cychwyn am wasanaeth Cymru’n Cofio yn Langemark am 4.  Cawsom ymuno yn y canu a phrofi balchder y Cymry yn y dorf enfawr.

Dydd Mawrth,  Awst 1:
Pnawn rhydd yn Brugge cyn hedfan adref.  Roedd yn fraint bod ar y daith.  Ond y cof mwyaf sydd gen i amdani ydi fod tua hanner miliwn wedi eu lladd yn Passchendaele - a hynny i ddim byd yn y pen draw.  Heddwch i’w llwch.
-----------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.


7.11.17

Rhedaf i'r Mynydd

Naturiaethwr a rheolwr gwarchodfeydd natur ydi Rhodri Dafydd. Mae’n gyfrannwr rheolaidd i raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru ac yn golofnydd misol i bapur bro Yr Odyn, dros y mynydd o Fro Ffestiniog. Yma, yn y chweched erthygl yn ein cyfres arbennig ar y MYNYDD, mae’n edrych yn ôl, ac edrych i’r dyfodol, ar ddylanwad ein mynyddoedd.

Y mae'n anodd gen i gredu ei bod bellach yn un mlynedd ar bymtheg ers yr oeddwn yn ymlafnio dros draethawd hir ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, er mwyn ennill fy ngradd M.A. Ar y pryd, yr oeddwn wedi fy meddiannu gan fynyddoedd y byd, a'm cyfnod yn blasu dringo a cherdded yng nghreigiau Eryri yn agoriad llygad. Roedd y profiadau newydd yn esblygiad naturiol wedi i mi dreulio fy mlynyddoedd cynnar yn crwydro bryniau Meirionnydd - yn gyntaf gyda'n nhad ac yn ddiweddarach ar fy mhen fy hun. 

Ar y pryd, yr oedd gennyf freuddwydion mawr am ddringo copaon uchel y byd. Yn eu tro, daeth gwaith, cariad a theulu i gyfyngu ar y teithio (os nad y breuddwydio!) er i mi fod yn ddigon ffodus i gael gweld rhywfaint ar yr Alpau a'r Pyreneau, y Rockies, yr Andes a'r Himalaya dros y blynyddoedd, ar droed neu feic.


Y mae i'r llecynnau mynyddig hyn atyniad corfforol ac ysbrydol i nifer, a minnau yn eu plith, ac i ni yma yng ngogledd Cymru y mae eu bodolaeth yn rhan annatod o'n bywydau bob dydd. Hyd yn oed os nad ydym yn ymwneud rhyw lawer â hwy, y mae eu presenoldeb yn ein ffurfio drwy ein teithiau drwyddynt, eu heffaith ar ein tywydd, a'r ffaith eu bod yn ein hamgylchynu ac yn gwmni cyson.

'Wrth ein cefn ym mhob annibyniaeth barn'.

Yn ôl ym Mangor, pwysigrwydd y mynyddoedd i'r diwylliant Cymraeg a'r iaith oedd testun fy nhraethawd hir. Wedi ymchwilio i ddylanwadau amrywiol - o hen benillion, emynau rif y gwlith (dan ddylanwad crefydd a'r beibl Cymraeg wrth gwrs) i gerddi amrywiol ar hyd yr oesoedd, a hyd yn oed i ganeuon Meic Stevens ('Rhedaf i'r mynydd') - gellid gweld fod y mynyddoedd yn rhan annatod ohonom a'n hymwybyddiaeth fel Cymry Cymraeg. Yn gefn i ni, yn warchodaeth, yn achubiaeth.

Wedi ymlwybro drwy hanes cythryblus yr hen wlad (dros rhyw ugain mil o eiriau!) yn anffodus deuthum i'r canlyniad trist fod y tirlun mynyddig a fu'n ein gwarchod a'n hamddiffyn rhag estroniaid dros y canrifoedd bellach yn arwain at foddi ein cyfoeth dan donnau o ymwelwyr - a'u bryd ar greu bywyd newydd ymysg golygfeydd ac awyrgylch anturus ein gwlad. Fel y trodd y rhod - yr hyn a fu unwaith yn ddychrynllyd bellach yn ddeniadol. 

Y mae ambell Gymro a Chymraes bellach wedi mentro i elwa ar y cynnydd ym mhoblogrwydd ein mynyddoedd - gydag ambell i arweinydd heddiw yn manteisio ar ymwelwyr fel ag yr oedd rhai dynion blaengar yn oes Fictoria. Mae canolfannau fel Coed y Brenin ac Antur Stiniog wedi cornelu peth o'r farchnad heb os. Mae Clwb Mynydda Cymru wedi arloesi, a'u llyfr diweddar ar gopaon Cymru yn gampwaith, gan gymryd ei le yn gydymaith perffaith i lyfrau Ioan Bowen Rees ar y silff. 

Er hyn, seisnig ar y cyfan yw'r diwylliant, a does ond angen edrych ar yr holl geir sy'n heidio i Eryri bob penwythnos, neu ar dai haf gweigion ein pentrefi ganol gaeaf, i weld effaith poblogrwydd newydd ein mynyddoedd ar ein hardaloedd gwledig. Ni allaf ond ofni mai negyddol yw ac a fydd hyn at y dyfodol.

Yn dilyn cais gan y golygydd i edrych yn ôl ar waith llanc anaeddfed, un ar hugain oed (byddai llawer yn dweud fy mod yn dal yn anaeddfed!) mae llawer mwy yr hoffwn fod wedi ei gynnwys yn yr hen draethawd hir, o ailymweld â'r testun. Dysgais lawer yn y cyfamser, er enghraifft fod y dull 'guerrilla' o ymosod a chuddio yn y mynyddoedd a fabwysiadodd Che Guevara wedi ei ysbrydoli gan Owain Glyndŵr a'i debyg yn defnyddio tirlun Cymru at eu mantais. Tra yn traddodi am y diffyg mynyddwyr Cymreig - gallwn fod wedi cynnwys pennod gyfan am un dyn hynod ac unigryw o'r enw Eric Jones (erbyn hyn, mae ei hunangofiant yn amhrisiadwy ac yn gofnod anhygoel o ddyn ymhell o flaen ei amser).

Efallai rhyw ddydd caf gyfle i ailwampio a rhoi fy meddyliau mewn trefn - Yn sicr mae'r mynyddoedd yn parhau i fy ysbrydoli. Heb os, maent yn destun gwerthchweil ac yn ganolbwynt haeddiannol i fyfyrdodau am ein hunaniaeth, a'n lle fel cenedl yn y byd hynod hwn.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 

Lluniau Rhodri Dafydd.
Celf gan Lleucu Gwenllian

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.


3.11.17

Teimlo Pob Cam

Yn y bumed erthygl yn ein cyfres arbennig ar y MYNYDD, mae’r cynghorydd tref a’r chwarelwr Erwyn Jones yn crwydro ucheldiroedd yr ardal yn rheolaidd. Yma mae’n disgrifio taith anarferol ddiweddar i gopa’r Wyddfa.

Wrth feddwl am ffyrdd i hel arian, rhaid bod rhyw fath o her neu aberth ynghlwm â’r gweithgaredd, os am ei wneud yn un  llwyddiannus, ac yn ddi-os, teimlais bod un o fy syniadau i yn mynd i ateb y gofynion yma. Yn  ystod cyfarfod o bwyllgor Cylch Meithrin Blaenau Ffestiniog, rhai misoedd yn ôl pellach, cafwyd sesiwn o feddwl am syniadau i godi arian, ac un syniad y cynigais i’r het oedd cerdded i gopa’r Wyddfa, ond nid o gychwyn ar un o’r llwybrau traddodiadol, ond o gychwyn yn ‘Stiniog, a darfod wedyn ym Mhen y Pass. Nid wyf yn gor-ddweud drwy nodi aeth y pwyllgor yn ddistaw, ag ambell olwg digon syn gan sawl un!

Fy mwriad oedd gwneud y daith yn unigol, nid oeddwn yn disgwyl i neb arall ymgymryd â’r her, yn enwedig o gysidro ei bod yn daith o ychydig dros 16 milltir, ond ymhen dim, roedd Sara Ashton Thomas a Gillian Jones wedi cynhesu at y syniad o gymryd rhan.

Daeth y syniad gwreiddiol o wneud y fath daith gan Dei (siop yr Hen Bost), rai blynyddoedd yn ôl bellach, a dyma a’m ysgogodd i wneud y daith am y tro cyntaf, llynedd, ac wrth wneud y daith, meddyliais y byddai’n syniad ardderchog ar gyfer taith noddedig er budd y Cylch.
Ar ôl pennu dyddiad, paratoi ffurflenni noddi, a chreu tudalen ‘Just Giving’ ar y we, dyma fynd ati i ‘neud y daith! Felly, ar fore Sadwrn, 12fed  o Awst, dyma Sara, Gillian a fi yn cwrdd â’n gilydd ger giât Cwmorthin, am 7 y bore, i gychwyn yr her!!

Roedd pethau’n edrych yn addawol o ran y tywydd wrth gychwyn- haul braf, mymryn o wynt ysgafn, a digon cynnes – dim i boeni amdano. Yn wir, gwaeddodd cyfaill wrth i mi gerdded drwy Glanypwll “Gaddo hi’ n braf drwy’r dydd!” Ha! Ychydig a wyddai fod ei enw am droi’ n fwd ‘nes ymlaen!

Cawsom dywydd sych wrth gerdded trwy Gwmorthin, tuag at Rhosydd. Nid oes dianc rhag y dystiolaeth o brysurdeb y cwm yma yn y gorffennol, gydag olion y chwareli yn allor i’r llafurio a fu yma, ac yn wir, os oedd thema a fyddai’n gyfeiliant i ni ar hyd y daith, ac eithrio’r amlwg, megis llynnoedd, mynyddoedd a byd natur, yna diwydiant chwarelyddol byddai hwnnw. Chwareli Cwmorthin, Conglog a Rhosydd yr ochr yma i’r fro, a chwareli llechi Cwm Llan a Bwlch Llan yng ngheseiliau’r Wyddfa, ynghyd a’r mwyngloddiau dirifedi sydd wedi eu gwasgaru ar hyd a lled yr Wyddfa.

Wedi i ni gyrraedd Llyn yr Adar, dyma’r tywydd yn troi, ac yn wir, dyma sut buodd hi am weddill y daith: cawodydd o law mân, niwl, ag ambell ysbaid heulog.

Roeddwn yn teimlo bod y niwl yn fendith mewn un ffordd- nid oedd yr Wyddfa i’w gweld! Fel un sydd wedi gwneud y daith sawl tro bellach, mewn tywydd sych a chlir, un peth sy’n gallu torri’r enaid, o Lyn Adar ymlaen, ydi gweld copa’r Wyddfa. “Pam?” clywaf rhai yn gofyn,- mae’r ateb yn ddigon syml, o’r pwynt yma ymlaen, i lawr allt yw’r daith, yr holl ffordd i Nant Gwynant. Un o’r pechodau mwyaf gan gerddwyr mae’n debyg yw colli uchder yn ddi-angen, ond does dim osgoi hyn ar y daith hon, gyda phob cam yn mynd â ni yn agosach at lefel y môr! Cryn 58 metr yw Nant Gwynant uwchlaw’r môr, a’r Wyddfa fel cawr, 1085m uwchben!

Ar ôl cyrraedd maes parcio Nant Gwynant, roeddem wedi cyrraedd hanner ffordd, a’r darn caletaf eto i ddod. Dilyn llwybr Watkin, neu o leiaf rhan ohono oedd y nod, gan gerdded at Gwm Llan, yna gwyro tua’r chwith ychydig cyn cyrraedd yr enwog 'Maen Gladstone' ag anelu at Fwlch Cwm Llan, i fyny Allt Maenderyn, dros y Clogwyn Du a Bwlch Main, yna dilyn llwybr Rhyd Ddu tua’r copa.

Os mai cymharol ddistaw yw’r llwybr yma- nid felly y copa! Roedd hi’n fwrlwm gwyllt yno, gyda chiwiau anferthol i fynd mewn i Hafod Eryri, a chiw hirach fyth i gyrraedd y copa ei hun. Ar ôl ysbaid ar y copa er mwyn tynnu lluniau, a phostio ein gorchwyl ar y gwefannau cymdeithasol, roedd hi’n amser cychwyn i lawr – bendith ar ôl yr holl ddringo o’r nant, ond os rhywbeth, roedd cerdded lawr y Llwybr Pyg yn fwy o felltith, a phob cam i’w deimlo i’r byw!

Wedi 11 awr o gerdded, taith o 16 milltir, braf oedd cyrraedd maes parcio Pen y Pass am tua 6 yr hwyr. Mae ein diolch yn fawr i fam Sara am ddod i’n cwrdd yno, a bod yn dacsi i ni nôl i Betws!
Casglwyd dros £700 tuag at y Cylch, a carem ni’n tri ddiolch yn fawr iawn i bawb a’n cefnogodd ar y daith, ac a gefnogodd y Cylch Meithrin drwy y cyfraniadau hael.
--------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 

Celf gan Lleucu Gwenllian

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.