30.10.17

Y Mynydd a Mi

Os ewch chi i grwydro’r Moelwynion ryw dro, y tebygrwydd ydi y gwelwch chi Dewi Prysor yno, gan fod y mynyddoedd yn denu’r awdur oddi wrth ei gyfrifiadur yn rheolaidd. Yn y bedwaredd erthygl yng nghyfres Y MYNYDD, mae’n egluro pam.

Pan mae bobol yn gofyn i fi pam mod i’n mynd i ben y mynyddoedd rownd y rîl, yr hen ateb syml hwnnw “am eu bod nhw yno,” fydda i’n ei roi. Falla ei fod o’n ateb ystrydebol – diog, hyd yn oed – erbyn hyn, ond y gwir amdani ydi ei fod o’n ateb gonest hefyd. I fynyddwyr – boed yn gerddwyr neu ddringwyr – mae ’na lwyth o resymau personol, ysbrydol, corfforol neu greadigol (neu chwilfrydedd pur) yn ein cymell i’r copaon. Ond tasa’r mynyddoedd ddim yno yn y lle cyntaf, fyddai yr un o’r cymhellion hynny’n bodoli.

Felly be sy’n denu Dewi i’r uchelfannau? Be sydd tu ôl y trampio tragwyddol i’r topia’? Wel, i ddechrau mae brasgamu i ben y bryniau yn ffordd dda o gadw’n heini a chadw’r pwysau i lawr. Mae hynny’n bwysig i mi gan ’mod i ddim yn gwneud gwaith corfforol ers i mi ddechrau sgwennu’n llawn amser. Dwi hefyd yn licio peint neu ddau, felly mae lapio fy hun fel nionyn mewn leiarau o ddillad a chwysu chwartia wrth fartsio i ben mynydd yn ffordd dda o gael gwared o gwrw’r noson gynt. Mae o’n ‘detox’ da i’r corff, ac yn ffordd wych o glirio’r pen. Awyr iach ydi’r tonic gorau i’r enaid, ac mae cerdded yn sydyn – nes bod eich brest bron â byrstio – yn gwneud i’r galon bwmpio a chadw’n gryf. Dwi’n dod ar draws pobl ar y topia sy’n sbio’n hurt arna i’n laddar o chwys, wedi lapio mewn dillad trwm ar ddiwrnod braf. Ond fi sydd galla – dwi’n cael ymarfer corff a ‘sauna’ yr un pryd!

Llun gan Dewi Prysor
Nid y ‘pen mawr’ ar ôl cwrw ydi’r unig beth mae awyr iach yn glirio. Fel ddudas i, sgwennu ydi fy ngwaith a dwi’n treulio wythnosau ar y tro, weithia, yn eistedd o flaen cyfrifiadur am oriau ar y tro. Os na ga i fynd i ben mynydd unwaith pob dydd mae ‘cabin fever’ yn cydio ynddo fi. Weithia, pan fo dedlein dynn efo gwaith, fydda i’n sownd wrth y ddesg am ddau neu dri diwrnod, efo folcêno yn barod i ffrwydro tu mewn i mi. Bryd hynny fydda i’n tarannu allan o’r tŷ a dianc i ben y Moelwyn – ac o fewn hanner awr o gerdded, dwi’n teimlo’r folcêno’n tawelu unwaith eto. Yr un ydi’r broses pan fo pwysau cyffredinol bywyd yn mynd yn drech – dianc i dawelwch y mynydd, i’r ‘oruwchystafell’, lle mae’r gorwel yn grwn, heb waliau stafall na thŷ na stryd, a dim ond y brain coesgoch a’r cigfrain yn gwmni. A’r awel, wrth gwrs. A’r mynydd ei hun, sydd fel ffrind ffyddlon nad oes angen geiriau i ddallt ein gilydd.

Ac yn yr heddwch yma mae’r “Lle i enaid gael llonydd,” fel ddudodd y bardd. Ac yn y llonyddwch tawel mae’r awel yn clirio llanast y byd a’i broblemau dyddiol allan o’r pen, gan wneud lle i fyfyrio a hel meddyliau newydd. Mae fel bod llifddorau yn agor a gadael i’r dŵr budr lifo lawr y ffos gorddi a gwagio’r llyn, cyn cau’r dorau a gadael i ddŵr clir y nant lenwi’r llyn unwaith eto, yn fwrlwm ffres i adfywio’r pen a’r enaid. Ac yn bur aml, i mi fel awdur a mymryn o fardd, mi ddaw yr awen â llu o syniadau efo’r dŵr clir hwnnw. Wrth eistedd ar gopa’r mynydd mae o fel tasa’r ymennydd yn amsugno’r tirlun, a’r ddaear ei hun yn treiddio i mewn i fy mêr. Adeg yma, wrth syllu ar yr olygfa o fy mlaen a gallu gweld popeth rhwng blaen fy nhrwyn a’r gorwel eithaf un, dwi’n gweld fy mro yn troi yn wlad, a fy ngwlad yn troi yn fyd, a gweld yn union lle mae fy lle innau yn y byd hwnnw.

Dwi’n teimlo’n rhan o rywbeth sydd gymaint mwy nag unrhyw gymdeithas na gwlad a gwareiddiad, yn fwy nag unrhyw system a grewyd gan ddynion. Dwi’n teimlo’n fyw. Yn rhydd i fod yn fi fy hun, heb orfod cyfaddawdu i drefn cymdeithas, i’r ‘norms’ cyfoes, i ffasiwn ac ymddygiad ‘derbyniol’ y dorf. Tydi’r mynydd a’r adar byth yn barnu.

Mae ’na sens yn hyn i gyd. Y syniad o berthyn i’r tir a gweld lle rydan ni yn y byd. Rydan ni’n byw yn y cymoedd, heb allu gweld dros y gefnan i’r cwm nesaf. Rydan ni’n gallu rhoi ein bys ar fap a dweud “Fa’na ’da ni’n byw.” Ond dydan ni’m yn gwybod lle rydan ni yn y byd go iawn. Ond wrth ista ar ben mynydd dwi’n gallu gweld yn union lle’r ydw i’n byw. Dwi’n gweld y cymoedd i gyd, y llynnoedd a’r afonydd, pob mynydd a bryn. Dwi’n gallu gweld pa mor agos ydan ni i’r pentra nesaf dros y mynydd – y pentra rydan ni’n teithio iddo ar hyd y ffyrdd modern, i lawr y dyffryn ac yn ôl i fyny’r cwm drws nesa er mwyn ei gyrraedd, lle gynt roeddan ni’n cerddad trwy’r bylchau rhwng y mynyddoedd, yn ôl a blaen i farchnata a chymdeithasu. Mae hyn yn ein pellhau oddi wrth ein gilydd, yn ein dieithrio oddi wrth ein cymdogion yn ein gwlad ein hunain. Roedd pobman yn gyfarwydd i ni unwaith. Ond heddiw, dim ond wrth fynd i ben mynydd allwn ni gyfarwyddo â’n gwlad ein hunain – gweld yn union lle rydan ni wedi bwrw gwreiddiau.


A dyna i chi’r afonydd. Dim ond yn y mannau uchel y gallwch brofi’r teimlad sbesial o sefyll lle mae afon yn tarddu. Mae sylweddoli pa mor bell ynghanol yr unigeddau mae afonydd mawr fel y Ddyfrdwy a’r Tawe, er engraifft, yn dechrau eu taith – y naill wrth droed y Dduallt ger Rhobell Fawr, a’r llall ar Moel Feity, yn agos at Lyn y Fan Fawr ym Mannau Sir Gâr – wastad yn eich rhyfeddu. Mwy arbennig fyth ydi gallu croesi’r afonydd hynny, ynghyd â’r Fawddach, Prysor, Artro, Hafren, Gŵy, Conwy, Llugwy a Thâf a llawer mwy, mewn un cam – ac wedyn, dweud wrth eich plant, wrth ddreifio’r car dros bont ar un o’r afonydd hynny, fy mod i wedi neidio drosti mewn un llam. 

Mi sylwch fy mod i’n cynnwys afonydd o bob cwr o Gymru uchod. Yn ddiweddar mi wnes i gwblhau her Cant Uchaf Cymru – sef mynd i ben y cant mynydd uchaf yng Nghymru. Wrth wneud hynny mi ges i grwydro ardaloedd oedd yn ddiarth i mi tan hynny, fel mynyddoedd y Berwyn yn y gogledd, a Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr yn y de. Ac mae hynny eto yn atyniad ynddo’i hun – profi’r un wefr a’r un ysbrydoliaeth ag yn y gogledd, ond efo’r antur ychwanegol o fod yn crwydro tir anghyfarwydd. Mae mynyddoedd yr Alban yn ysgubol o ran maint a natur, ac yn fyd gwahanol o’i gymharu â Chymru, ond mae crwydro ‘tir diarth’ yn eich gwlad eich hun yn brofiad mwy arbennig oherwydd eich bod yn dysgu am eich gwlad eich hun – hanes sy’n perthyn i ni, ac enwau sy’n perthyn i’n iaith ni.

Mi orffennais y Cant Uchaf yn ardal y Mynydd Du (ger y Fenni, Gwent) pan gerddais yr wyth mynydd olaf o’r cant mewn dau ddiwrnod o bymtheg milltir y dydd. Mae’r daith yn mynd â chi i lefydd fel Capel y Ffin a Bwlch yr Efengyl, llefydd sy’n berwi o hanes. Mae un rhan o’r llwybr dros y Mynydd Du ei hun yn dilyn llwybr Clawdd Offa, ac am rywfaint o’r daith rydach chi’n cerdded yn Lloegr. Ym mhen uchaf y cwm ro’n i’n edrych i lawr i gyfeiriad y Gelli Gandryll, a draw i’r dwyrain ro’n i’n gweld Dyffryn Dôr, Swydd Henffordd, lle y dywed rhai y ciliodd Owain Glyndŵr i fyw gweddill ei oes efo’i ferch yn Monnington Court. Fel y disgwyl efo ardaloedd y gororau, mae ardal y Mynydd Du yn diferu o hanes. Bron na fedrwch ei deimlo ym mêr eich esgyrn mewn llefydd fel Capel y Ffin – fel petai’r cwm cul a’i ochrau serth wedi cadw’r hanes rhag diflannu efo niwl y canrifoedd.  

Mae hanes yn drwm yma yng Ngwynedd hefyd, wrth reswm, ac mae hynny’n rhoi modd i fyw i mi wrth gerdded mynyddoedd y sir. Dwi’n gythral am hanes, yn enwedig y bryngaerau niferus sydd i’w gweld yma. Dwi hefyd yn canlyn cylchoedd cerrig a meini hirion yma ac ymhob cwr o orllewin a gogledd Prydain. A gan mai ar yr ucheldiroedd mae’r rhan fwyaf o’r henebion yma i’w gweld, mae’n beth braf gallu cyfuno taith gerdded sy’n cynnwys meini a mynyddoedd, bryniau a bryngaerau, cylchoedd a charneddi. Mae’r rhan fwyaf o’r henebion yma yn hŷn na’r pyramidiau – a’n cyndeidiau ni gododd nhw. Felly, pan dwi’n sefyll mewn cylch cerrig neu wrth droed maen hir, rydw i’n gwybod i sicrwydd mod i’n sefyll yn ôl traed cyndeidiau oedd yn byw yma tua 4 i 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac mae hynny’n gyrru ias o gyffro i lawr fy asgwrn cefn.

Ond mae cyfoeth o hanes mwy diweddar yma yn ardal Llafar Bro, wrth gwrs, ac mae’r rhain, er nad mor hen â’r pyramidiau, yn gampweithiau pensaernïol gystal, os nad mwy, na henebion yr Aifft. Sôn ydw i am adfeilion yr hen chwareli, wrth gwrs – yr inclêns a melinoedd, pontydd a grisiau, lefelau a rheilffyrdd ac ati. Ac mae cymaint mwy o’r gorchestion adeiladol hyn yn cuddio ym ddwfn ym mol y mynyddoedd – fel dinasoedd tanddaearol y byddai Indiana Jones wrth ei fodd yn chwilota drwyddyn nhw. A’r cwbl lot yn destament i lafur, chwys a gwaed hogia’r gymuned hon.

Llun -Paul W
Mi orffena i efo rhywbeth arall sy’n agos at fy nghalon ac sydd yn ychwanegu at fy mwyhâd o’r mynyddoedd, sef yr iaith Gymraeg – ac yn benodol, enwau lleoedd. Mae prynu mapiau yn rhan hanfodol o fynydda, felly mae gen i lwyth o fapiau o bob cwr o’r wlad er mwyn planio teithiau. Ond unwaith dwi’n agor map, dwi’n ei chael hi’n anodd ei gau o eto, gan mod i’n methu’n lân a stopio syllu ar y cyfoeth o enwau difyr a lliwgar, llawn hanes, sydd gennym yn ein gwlad.

Wrth grwydro’r cymoedd, afonydd, creigiau a bylchau yma i gyd mi ydw i’n gwirioni’n botsh efo’u henwau a’u hystyron. Mae gen i gannoedd o enwau sydd wedi fy nghyfareddu, ond yr un diweddara i gipio fy nychymyg ydi mynydd y dringais fel rhan o’r Cant Uchaf, ym Mannau Sir Gâr – Fan Gyhirych. Dyna i chi enw mo! Mae yna Nant Gyhirych hefyd, ac mi alla i ddychmygu mai enw personol rhyw ryfelwr neu bennaeth yn yr oesoedd a fu ydi Cyhirych! Boed hynny’n wir ai peidio, taswn i’n frodor o’r ardal honno mi fyddwn i’n galw fy mab hynaf yn Cyhirych. Alla i ond mawr obeithio bod rhywun o’r ardal wedi gwneud hynny.

Dyna ni. Mae rhai pobl hefyd yn gofyn i mi os ydw i’n diflasu ar fynd i fyny’r un mynyddoedd fwy nag unwaith. Dwi’n gobeithio mod i wedi gallu egluro ei bod hi’n amhosib diflasu ar y mynyddoedd. Da chi, os nad ydach chi wedi bod, cerwch. Aros mae’r mynyddau mawr!
-----------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 
Celf gan Lleucu Gwenllian


*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

26.10.17

Stolpia -nofio a sgleintio

Yn nhrydedd erthygl ein cyfres arbennig ar Y MYNYDD, cawn flas ar anturiaethau Steffan ab Owain a’i gyfeillion yn nyfroedd yr ucheldir yn y bennod yma o’i gyfres ar ‘Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au’.

Gan fy mod wedi sôn am rai o’n helyntion yn nofio yn y llynnoedd a phyllau yr afonydd, y tro hwn rwyf am ddweud gair neu ddau am yr hwyl a’r sbort a fyddem yn ei gael yn chwarae ger y llynnoedd a’r afonydd, ers talwm.

Cofiaf fel y cafodd un ohonom syniad gwych i neidio tros afon Barlwyd efo polyn hir, sef naid polyn (pôlfoltio). Pan yr oedd melin goed yng Nglan-y-Pwll gwneid defnydd o’r domen wastraff a fyddai ger y craen. Yno, y byddem yn cael defnydd i wneud sbîr (gwaywffon), reiffl pren,  cleddyf pren, dagr, ayyb. Weithiau ceid darnau hir o breniau yn y gwastraff coed a dyna pryd y cafodd un ohonom weledigaeth i’w defnyddio i neidio tros yr afon. Y man lle byddem yn gwneud hyn oedd gyferbyn a wal Cae Alun gan fod ychydig o godiad tir yno i roi help inni gael ysgogrym i gyflawni’r gamp.

Roedd yn rhaid dod yn ôl tros y domen llwch llif a’r bont bren i’r un man er mwyn rhoi tro arni eilwaith a rhagor. Cawsom lawer o hwyl, ac ar wahan i un neu ddau ohonom wlychu ein traed yn yr afon, ni fu dim niwed o bwys i neb.


Un o’r pethau eraill a wneid gennym oedd ‘sglentio cerrig’ ar wyneb llynnoedd, h.y. gwneud i gerrig llyfn lamu ar hyd wyneb y dŵr, ac wrth gwrs, cystadlu am y neidiau pellaf, neu y nifer mwyaf o neidiau. Os gellid gwneud mwy na saith, roeddech yn un da iawn.

Roedd pwll go fawr ar un adeg yn afon Barlwyd, sef Llyn Ffish, y tu draw i Domen Glandon, a dyna un o’r lleoedd agosaf y byddem yn sglentio, neu fel arall, byddid yn gwneud hyn ar ôl bod yn nofio yn un o lynnoedd Nyth y Gigfran neu Lyn Fflags. Peth arall a fyddem yn ei wneud yn yr haf ond yn rhan uchaf afon Barlwyd, oedd ‘sgota dwylo’ a gwneud pyllau bach.

Un tro, penderfynasom fynd am sgawt at Llyn Ffridd a sgota dwylo yn Afon Fach Job Ellis, sef y nant a ddaw i lawr o gyfeiriad y domen sgidiau, ond ar ôl bod wrthi yn fanno, aethasom draw at y ‘Ffos fach’ a lifai o Lyn Ffridd draw am Chwarel Oakeley. Yr unig beth, os y byddem yn ei lordio hi o gwmpas y fan honno byddai William Jôs, Bryn Tirion, sef taid Michael Eric a Mair, yn siwr o ddod ar ein holau gan feddwl ein bod yn gwneud drygau.

Hen lun o Bryn Tirion a’r ffordd fawr fel y byddai gynt

Gyda llaw, y mae hi’n anodd credu heddiw, ond roedd cae gwair y tyddyn yn ymestyn i fyny o ochr y tŷ hyd at argae y llyn y pryd hynny. Beth bynnag,roeddem yn uchel ein cloch y tro hwnnw, wedi gweld ychydig bysgod yn symud yno, a pheth nesaf dyma William Jôs o gefn y tŷ, a dod ar hyd ochr y cae gyda phicfforch yn ei ddwylo yn bloeddio arnom i'w goleuo oddi yno a gallwch fentro, buan iawn y ffaglodd ni’r hogiau oddi yno fel y fflamiau.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r doleni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.

 
Celf gan Lleucu Gwenllian


*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

22.10.17

Dawnsio ar y dibyn

Yr ail erthygl yn ein cyfres arbennig ar Y MYNYDD.
Ers ei brofiadau cynnar ac allweddol ar glogwyni Bro Ffestiniog, mae David Williams wedi dringo’n helaeth ym Mhrydain, Iwerddon, Sgandinafia a gweddill Ewrop; gogledd a de yr Affrig, a’r UDA.

Dringo. Rhywbeth cysylltiedig â gwaith medd fy nhad, cadarn yn ei farn nad oedd lle i’r geiriau ‘pleser’ a ‘dringo’ ymddangos gyda’u gilydd yn yr un frawddeg. “Dim ond Saeson sy’n dwad yma i ddringo. Da ni’r Cymry yn llawar iawn callach!” meddai’n rheolaidd wrth weld llygaid ei fab yn troi’n awyddus at y clogwyni a’u dringwyr amryliw wrth fynd heibio i greigiau Bwlch y Moch ger Tremadog, ar y ffordd i ail-ddarganfod pleserau syml bwced a rhaw ar draeth Cricieth.

Trydanwr yn Llechwedd oedd fy nhad, a phob bore gwaith am dros 50 mlynedd bu’n dringo’r llwybr carregog o Bant’rafon i fyny i’w weithdy. Wedyn, byddai’n parhau i ddringo trwy gydol y dydd, o un bonc i’r llall neu i lawr i rhyw gilfan anghysbell yng nghrombil y graig, pob tro i drwsio rhyw hen beiriant blinedig oedd wedi rhoi’r ffidil yn y to, cyn dychwelyd i’r wyneb am rownd fach arall. Dringo a gweithio; y ddau fel efeilliaid cyfunol.

Oedd, er na wnaethai byth gydnabod y ffaith, mi roedd fy nhad yn ddringwr. Ac -heb os nac oni bai- roedd dringo yn fy ngwaed innau hefyd. Dw i eisoes wedi fy hudo’n llwyr gan alwad y mynydd ac mae dringo wedi bod yn ran allweddol iawn o’m bywyd. Wedi bod, ac yn dal i fod.

Tyfais i fyny mewn tŷ o’r enw Trem y Graig - enw addas iawn wrth edrych ‘nôl. Y graig oedd Nyth y Gigfran. Dringais i ben y graig hon, am y tro cyntaf, pan yn naw oed, ar ôl blynyddoedd o edrych allan trwy ffenest y parlwr a gofyn: ‘Sgwn i beth sydd i’w weld dros y top?

Daeth y cyfle cyntaf i glymu rhaff rownd fy nghanol pan yn bedair ar ddeg oed, yn sgil penodiad athro ifanc i staff Ysgol y Moelwyn, un oedd wedi dechrau dringo tra’n fyfyriwr yn Aberystwyth. Ni gymerodd llawer o berswâd cyn iddo gytuno mynd â pedwar ohonom i ddringo. ‘Roedd un ymweliad â Chlogwyn yr Oen ar lethrau’r Moelwyn yn ddigon. Yno gwelwyd Y Bwystfil mewnol yn cael ei ddeffro am y tro cyntaf ac, erbyn hyn, mae’r cythrael wedi gwneud ei orau glas i reoli fy mywyd am bron iawn hanner canrif.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yn sydyn iawn: Denig o’r ysgol pan yn y chweched dosbarth er mwyn dringo ar Graig y Clipiau yn lle gweithio yn y llyfrgell. Cyfnodau ym Mhrifysgolion Lerpwl a Bangor; y ddau le wedi’u dewis oherwydd eu hagosrwydd i safleoedd dringo. Cannoedd o ddyddiau wedi’u treulio ar greigiau mewn llefydd fel Helsby, Stanage, Langdale, ynys Skye, Cernyw ac Eryri.

Gyrfa hir ym myd addysg ym Mhowys. Priodi; magu meibion ond eto yn byw am y penwythnos. Jyglo cyfrifoldebau teulu a gwaith, pob tro yn edrych am gyfle, hyd yn oed ‘mond hanner cyfle, i dreulio amser ar y creigiau.

Gwyliau haf; yr un hen stori. Llwytho’r car gyda’r hogiau, y wraig a minnau cyn gyrru am ddyddiau i ddringo mewn rhyw wlad estron. Pan yn ddwy oed, ‘roedd fy mab hynaf yn medru siarad mwy o Almaeneg na Chymraeg…. Ia, dyma beth ydy ‘salwch’ go iawn.

Oes, mae rhaid parhau i fwydo’r Bwystfil. Dydi bywyd ar lawr y dyffryn ddim yn ddigon. Yn y bryniau a’r mynyddoedd fodd bynnag, mae’r teimladau o ryddid, o fod yn hollol fyw ac yn rhydd o gadwynau a rhwystredigaethau bywyd dyddiol yn dod i’r blaen. Dro ar ôl tro, dyma’r teimladau sy’n amlygu eu hunain, sy’n cyflymu pyls yr hen ddyn yma, un sy’n hollol gaeth i ddringo.

Mae’n hen ystrydeb, dwi’n gw’bod, ond mae ‘Dyn Yn Erbyn Y Mynydd’, ym mha bynnag gyd-destun, yn destun rhyfeddod, er nad ydyw, i mi, yn achos o ymladd natur. Yn hytrach, mae’n frwydr barhaol yn erbyn disgyrchiant, rhwng y meddwl a’r corff; dim mwy, dim llai. Clywais sôn unwaith am rywun nad oedd yn deall yr atyniad at ddringo, a bu iddo ofyn: “Fyddai neb yn cerdded i fyny grisiau jyst er mwyn gwneud, na fyddai?” Hmm … does dim ateb hawdd i hwna.

‘Rwan, rhag ofn i chi feddwl mai creadigaeth y dychymyg ydyw, mae’r Bwystfil yn bell o fod yn anweledig. Os nad wyf wedi bod yn dringo am sbel, mi fydd yn hyrddio ei gwmni arnaf. ‘Cabin fever’ heb ei ail, y meddwl yn sgrechian am ddos bach arall o hongian o flaenau bysedd; yn ysu am fywyd yn y fertigol.

Chi’n gweld, ‘dydy pawb ddim yn deall anian Y Bwystfil. Maent yn gweld fy hoffder o’r Bwystfil fel “obsesiwn” sydd yn fy “meddiannu”. Maent o hyd yn cyfeirio ato fel rhywbeth sy’n “tynnu fy sylw” oddi ar “bethau pwysig bywyd”.  Efallai eu bod nhw’n iawn. Ond pan dw i yng nghanol hwch o ddringfa anodd, Y Bwystfil yw’r un sydd wastad yno efo fi, wrth fy ysgwydd yn herio, yn annog a chefnogi. Pan fo’r chwys nerfus yn arllwys ohonof, y bysedd yn gwanhau a’r copa fel petai’n cilio ymhellach o’r golwg, y fo yn unig yw’r cydymaith ffyddlon sy’n fy ngheryddu a’m calonogi.

Y creadur a gafodd fywyd ar Glogwyn yr Oen sy’n dal i fy nwyn i grib y graig; i ddawnsio ar y dibyn.
--

‘Rwyf newydd orffen cyd ysgrifennu y tywyslyfr dringo cyntaf i Geredigion, Powys a Sir Gâr. Disgwylir y bydd ‘Central Wales – A climbing guide to Elenydd’ yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn hon. Yn gyfredol ‘rwyf bron a bod yn ôl ym mro fy mebyd, gan fy mod yn ysgrifennu ‘Welsh Grit’, sef tywyslyfr dringo newydd y Rhinogydd.

Dros yr hanner canrif, llwyddais ddringo ymhell dros 400 o ddringfeydd newydd , gan gynnwys dwy ar Foel y Gest, dros 150 yn y Rhinogydd (hyd yma) ond, yn anffodus, dim un ar yr hen Foelwynion.

Llun:
Yr awdur yn dringo ar y Perl Du ger Cwm Tydu, Ceredigion.
-----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde**.


Celf gan Lleucu Gwenllian


**Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.

18.10.17

Yma mae fy lle

Efallai ein bod yn cymryd ein tirlun a’n hamgylchedd yn ganiataol weithiau, a ddim yn sylwi ein bod yn byw mewn ardal anhygoel o hardd, ond mae’n bwysig eistedd nôl bob hyn a hyn a chofio mor ffodus ydan ni i fyw mewn lle mor brydferth, felly roedd rhifyn Medi 2017 yn llawn dop o erthyglau oedd yn rhoi blas i ni o ddylanwad a gwerth y mynyddoedd sy’n ein hamgylchynu. 

Dyma'r cyntaf yng nghyfres Y MYNYDD: Nesta Evans, ein colofnydd rheolaidd yn trafod gwerth ac ystyr mynyddoedd iddi hi.


Beth mae mynyddoedd a bryniau Bro Ffestiniog yn ei olygu i mi? Llawer iawn. Treuliodd fy  nghyndadau eu plentyndod yn gweithio yng nghrombil y mynyddoedd sydd o’m cwmpas, a magwyd llawer o gewri o fewn y diwydiant llechi. Pobl oedd yn byw ar ychydig, pobl ddiwylliedig, pobl a wybu galedi ond a adawodd well byd i’w plant a’u plant hwythau. Cefais fy magu rhwng y Manod Mawr a’r Moelwyn, ym mhentref bach Manod – atgofion am fywyd hapus, syml iawn – plentyndod  braf, di-ofal a dychwelaf yn ôl yn aml yn fy meddwl. Byw drws nesa i Mald a’i deulu gyda Mald yn treulio llawer o amser yn ein tŷ ni – brawd bach benthyg i Gwenda a fi!

Dyma eiriau un o’r ‘Bobl Cyntaf’ ar raglen ‘Mynyddoedd y Byd – y Rockies’ ar S4C ar nos Sul, Gorffennaf 16. Un o lwyth y Black Foot oedd, balch o’i draddodiadau – ‘Rhan o’r teulu yw’r mynyddoedd’ ac ‘O’r mynyddoedd mae mywyd yn deillio’. Teimlent fod mynd at y mynyddoedd fel mynd at deulu, ac y deuent yn ôl wedi deall pethau’n well.


Bu Alwyn a mi yn ffodus iawn o weld mynyddoedd bendigedig fel yr Alpau, yn cynnwys y Matterhorn hudolus. Buom dros y Caucasus yn Rwsia, gwelsom y Grand Canyon anhygoel a’r Rockies, ac aethom dros India i Thailand.

Ond wyddoch chi be? D’oes dim yn rhoi gwefr a theimlad o ddiogelwch fel mynyddoedd ardal fy nghyndadau.

Rwy’n hynod ffodus. Y peth cyntaf a welaf bob bore wrth agor y llenni yw yr hen Foelwyn hardd. Rwyf wedi edrych arno drwy bob math o wahanol agweddau ac yn dal i feddwl ei fod yn harddach na’r un wyf wedi ei weld!

Roedd Syr Thomas Parry Williams wedi ei deall hi. Dyma ddwy linell o’i soned ‘Moelni’ –
‘Ymwasgai henffurf y mynyddoedd hyn
Nes mynd o’u moelni i mewn i’n hanfod i.’
Ychwanegaf innau –
Mae fy ngwreiddiau mor ddwfn yn yr ardal,
ac yma mae fy lle.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen MYNYDD isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde*.
Celf gan Lleucu Gwenllian
Llun Paul W.

*Dolenni ddim ar gael ar y fersiwn ffôn, cliciwch 'View web version' ar y gwaelod.


16.10.17

Rhifyn Hydref allan!

Mae rhifyn Hydref wedi ei blygu ac ar gael yn y siopau a gan y dosbarthwyr lleol.



Mae'n llawn o erthyglau a chyfarchion a newyddion a lluniau... a llawer mwy!
Cefnogwch eich papur bro.

15.10.17

Y Dref Werdd

Ychydig o newyddion gan fenter amgylcheddol Bro Ffestiniog

Bwrlwm Bro

Cafodd Bwrlwm Bro eleni ei gynnal yn y Parc ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg o 12yp.
Cafwyd prynhawn o hwyl gyda cherddoriaeth gan Band Arall, Garry Hughes, Gwilym Bowen a Tom ap Dan.



(Lluniau Alwyn Jones)




Cynefin a Chymuned

Dros y flwyddyn ddiwethaf yma mae’r Dref Werdd wedi bod yn gweithio ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar brosiect ‘Ein Glannau Gwyllt’.
Bwriad y prosiect yma yw cael plant ein Bro i gysylltu gyda natur a’u cymunedau a threftadaeth.


Mae’r gweithgareddau wedi amrywio o lanhau afonydd, mynd ar deithiau natur a mynd am benwythnos addysgol i Ynys Enlli. Nid yn unig oedd y plant yn derbyn profiadau newydd wrth fynychu ond hefyd roeddent yn dysgu sgiliau ymarferol fel naddu pren ac adeiladu llochesi.

Ein nod yw i’r plant cael derbyn cymhwyster John Muir ond yn bwysicach fyth maent yn derbyn teimlad o hunaniaeth wrth iddynt weithio o fewn eu cymuned. I ddathlu blwyddyn o’r prosiect yma roedd sesiwn wedi cael ei drefnu ym Mhlas Menai ger Caernarfon i ddiolch i’r criw am eu hymroddiad i’r prosiect. Yno fe ddysgwyd am griwiau eraill Glannau Gwyllt ledled gogledd Cymru a datblygiad eu prosiectau nhw gan gynnwys mynd allan ar fyrddau padlo a sesiynau dringo.

Mae’r prosiect yn agored i unrhyw unigolyn sydd 11-14 oed sydd yn byw yn ardal Bro Ffestiniog. Os oes gennych ddiddordeb i ymuno gadewch i’r Dref Werdd wybod ar 01766 830082 neu e-bostiwch Daniel Gwyn. daniel@drefwerdd.cymru

Man gwyrdd cymunedol Hafan Deg

Fel y gwyddoch, rydym wedi bod wrthi’n datblygu man gwyrdd cymunedol yn Hafan Deg, Tanygrisiau yn ystod y flwyddyn diwethaf.
 
Mae’r safle wedi symud yn ei flaen yn dda iawn ers i’r ffens gael ei osod ym mis Tachwedd llynedd.
Bu i ni adeiladu cysgodfan helyg dan arweiniad Anna Williams o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ym mis Mawrth. Mae hwn erbyn hyn yn ffynnu ac yn edrych yn ardderchog!
Yn dilyn hyn, gosodwyd bin ysbwriel a mainc bicnic yno ac fe blannwyd goed afalau a gwrychoedd o amgylch y safle.

Yna ym mis Mehefin, bu i ni adeiladu gwely llysiau 8 troedfedd sgwâr, ac yn yr amser byr iddo fod yno, mae radish wedi ei rannu o gwmpas y trigolion yn barod! Bydd moron, nionod, letys a pak choi yn dilyn cyn hir.

Brian, un o drigolion Hafan Deg, sydd yn edrych ar ôl y llysiau, gydag yntau yn gyn-arddwr ym Mhortmeirion ac wedi cael gardd lysiau ei hun yn y gorffennol, mae ganddo brofiad da. Dywedodd Brian ei fod yn hapus iawn hefo’r safle, a’i bod yn braf gweld cymaint o’r trigolion yn dod allan i gymdeithasu a threulio amser yn yr awyr iach yn yr ardd gymunedol.

Yn ogystal â thyfu llysiau, mae dau wely arall wedi eu gosod yno - un ar gyfer perlysiau a’r llall ar gyfer llwyni ffrwythau. Mae Brian wedi adeiladu bin compost allan o hen baledau a does ond ambell i beth bach ar ôl i’w wneud erbyn hyn.


Mae’r man gwyrdd hwn yn mynd i fod yn adnodd gwych i drigolion Hafan Deg – rhywle i biciad i nôl llysieuyn i rhoi blâs ffres ar bryd o fwyd a lle bach braf i gymdeithasu a sgwrsio a mwynhau amser yn yr awyr agored.

Gyda diolch i drigolion Hafan Deg am eu cefnogaeth – yn enwedig i Brian, Damian ac Alan – maent wedi bod yn weithgar tu hwnt a wedi gwirfoddoli llawer iawn o amser yn helpu yma, a diolch i Grŵp Cynefin, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru a’r Parc Cenedlaethol am eu cyfraniadau tuag at y prosiect.
----------------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2017.
Dilynwch hynt a helynt Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



10.10.17

Cer yn Wyllt!

Eleni mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn hyrwyddo eu cylchgrawn Gwyllt!  Maen nhw’n benderfynol o symud ymlaen a dod â’n cylchgrawn i sylw cymaint o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr â phosib – ’fyddech chi’n hoffi ymuno yn y cyffro?    
        
Rydyn ni’n gwybod bod pob plentyn yn mwynhau bod allan yn yr awyr iach.  Maen nhw’n hoffi archwilio a darganfod ynghanol byd natur.  Mae ein cylchgrawn newydd yn ceisio ysbrydoli’r naturiaethwyr ifanc yma i gymryd eu camau cyntaf y tu hwnt i’r dudalen. Mae’n llawn lluniau, posau a chystadlaethau gwych, a phoster byd natur neu daflen weithgarwch am ddim ym mhob rhifyn.


Mae Bro Ffestiniog yn orlawn o safleoedd gwych i wylio natur! 

Mae gennych chi o leiaf hanner dwsin o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn eich cynefin lleol, o fawredd garw a gwyllt y Rhinog Fawr, i gyfoeth anhygoel y goedwig law Geltaidd yn Nyffryn Maentwrog, Ceunant Cynfal, a Choed y Rhygen.

Dyma safleoedd i ymfalchïo ynddynt; gwarchodfeydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Does dim raid i bobl Bro ‘Stiniog fynd i’r trofannau na phendraw byd i werthfawrogi adar, blodau, a phryfetach godidog. Mae ein gwarchodfa ni yng Ngwaith Powdwr yn cynnig bob math o brofiadau a gweithgareddau hefyd.

Does dim raid ymweld â gwarchodfa natur hyd yn oed: gallwch wylio gweision neidr hardd ar bwll y rhandiroedd yng Nglanypwll, neu löynod byw a blodau gwyllt amrywiol ar hyd y llwybr o Dyddyn Gwyn i Benygwndwn, neu lunio rhestr hir o adar ar lannau Llyn Traws.

gwaell ddu, Glanypwll. Llun Paul W.

I dderbyn cylchgrawn Gwyllt! ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel aelodau teulu. Hefyd dywedwch wrthym ni ble gwelsoch chi’r erthygl yma [Llafar Bro, wrth gwrs!] ac fe fyddwn yn anfon pecyn pan fyddwch yn tanysgrifio.) Byddwch yn cefnogi ein gwaith dros fywyd gwyllt lleol ac yn derbyn cylchgrawn gwych ar yr un pryd – be gewch chi well?

------------------------------------------



Addaswyd o ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf.


7.10.17

Rhod y Rhigymwr -'Jenny dlysa'r byd'

Bu farw’r bardd ifanc o’r Traws, Ellis Humphrey Evans ar Orffennaf 31, 1917, a hynny o’i glwyfau wedi iddo gymryd rhan yn un o brif gyrchoedd y Rhyfel Mawr, sef Trydydd Cyrch Ypres, neu Frwydr Passchendale, fel y galwyd y cyrch hwnnw’n ddiweddarach.

Cyn 1917, ychydig a wyddai am Ellis Humphrey Evans, ond fel y noda’r bardd a’r ysgolhaig, Alan Llwyd yn ei gofiant iddo:
‘ganed Hedd Wyn o’r farwolaeth ... ond ar Fedi 6 y flwyddyn honno, hysbyswyd y dorf enfawr ym Mhabell Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead mai enw bardd y gadair oedd Ellis Humphrey Evans, ac iddo gwympo ym mrwydr Cefn Pilkem bum wythnos yn ôl’. 
Mae gweddill y stori’n adnabyddus i ni i gyd – y modd y gosodwyd cwrlid du dros y gadair ac fel y daeth Hedd Wyn ‘yn un o brif ffigurau chwedlonol Cymru’.

Yn dilyn cyhoeddi Cofiant Hedd Wyn – ‘Gwae Fi Fy Myw’ gan Gyhoeddiadau Barddas ym 1991, fe wnaed ffilm, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd, gan Gwmni Pendefig a’i chyfarwyddo gan Paul Turner i S4C. Cafodd groeso brwd gennym fel cenedl. Enillodd amryw o wobrwyon ac fe’i henwebwyd am wobr Oscar.

Daethom ar draws sawl un o ‘gariadon’ y bardd ynddi. Does dim dwywaith mai un o’r anwylaf o’r Yr Herald Cymraeg (Ionawr 29, 1918) yn ysgrifennu am ‘Hedd Wyn a’i Gariad, Ei Gerddi Serch i Siân’.
rheiny oedd ‘Jennie Owen’ – a drigai ym Mhantllwyd, Llan Ffestiniog. Mae Carneddog, yn

Noda bod y bardd wedi bod ‘yn cyfeillachu ers tro gyda merch ifanc o Ffestiniog ... geneth amddifad o dad a mam, ddiymhongar a deallgar’. Noda fel y bu iddi dderbyn caneuon arbennig ‘ar ddydd ei phen blwydd’ a bod y cerddi hyn yn dangos ‘nwyfiant ac angerddoldeb ei gariad tuag ati’.

Mae rhai o’r cerddi i’w gweld ar ddalennau’r Herald, ond ni welodd eraill olau dydd nes eu cyhoeddi yn y gyfrol clawr caled ‘Hedd Wyn, ei Farddoniaeth’ a olygwyd gan Daffni Percival ac a gyhoeddwyd gan y ‘Merilang Press, Bodyfuddau, Trawsfynydd’ yn 2011:

Englyn i Jennie
Hogen glws a chroen gwyn, glân, - heb ei hail
Yn y byd mawr llydan:
Un dyner, ffeind ei hanian, -
O, od o ‘sweet’ ydyw Siân.

I Jennie (1)
Pe byddwn i’n awel y mynydd
Yn crwydro trwy’r ffriddoedd yn rhydd,
Mi wn i ba le yr ehedwn,
Nid unwaith na dwywaith y dydd;
Wrth fynd drwy yr helyg a’r rhedyn,
Heb beidio mi ganwn fy nghân:
I’m calon nid oes ond un testun,
A hwnnw am byth ydy Siân.

Os daw rhywun arall i’w cheisio,
A hwnnw yn harddach ei rudd,
Ai tybed gwnaiff hi fy anghofio
A’m gadael yn unig a phrudd?
Am hynny gofynna fy nghalon,
Ar waethaf un arall a’i ryw,
‘Wnaiff hi fod am byth imi’n ffyddlon –
Yn ffyddlon tra byddwn i byw?

Ni welais ei mwynach trwy’r ddaear,
Ni welais ei hoffach trwy’r byd:
Ai gormod im ofyn yn wylaidd –
Ddaw hi at yr allor rhyw bryd?
Er mod i yn sychlyd iawn weithiau,
‘Does ragrith na thwyll yn fy nghân:
Ac unig ddymuniad fy nghalon
Yw’ch ennill chwi’n gyfan, ‘rhen Siân.

Mae ganddo gyfarchion i Jennie,

yn 25ain:

Gwn mi wn fod llawer ‘Jennie’
Ymhob gwlad a phlwy’,
Gyda rhos ieuenctid heini
Ar eu gruddiau hwy;
Ond mi wn am ‘Jennie’ arall,
Lanach fil ei phryd,
Ac i honno minnau ganaf –
‘Jennie’ dlysa’r byd ...

Ac yn 27ain oed:

Gwyn fo’ch byd, ‘rhen Jennie dirion,
Yn eich cartref dan y coed,
Lle mae blodau yn felynion,
Chwithau’n saith ar hugain oed.

Os bu’r byd o’r braidd yn greulon
Yn ei droeon atom ni,
Blwyddyn wen, ‘rhen Jennie dirion,
Fo eich blwyddyn nesaf chwi.

Gwn fod bywyd yn heneiddio,
Ac yn mynd yn hŷn,
Ond mae’r serch fel haf diwyro
Atoch chwi yn dal yn un.

A phan êl y rhyfel heibio,
Gyda’i ofid maith a’i gri,
Tua’r Ceunant Sych dof eto
Ar fy hynt i’ch ceisio chwi.

A phan ddof o wlad y gelyn,
Fel pererin blin o’r gwres,
Hwyrach digiwch os gwnaf ofyn –
‘Wnewch chwi roddi cam yn nes?’

Wedi’r oll, ‘rhen Jennie dirion,
Boed eich bywyd oll yn llwydd,
A llif cariad pura ‘nghalon
Atoch ar eich dydd penblwydd.

Dyma benillion a ysgrifennodd y bardd at Jennie pan oedd y Rhyfel Mawr yn ei anterth, a naddo, chafodd ei gariadferch ddim ‘blwyddyn wen’ y flwyddyn honno, ac ni chafodd Hedd Wyn yntau droedio’r ‘Ceunant Sych’ i geisio’r hon a garai.

Cyn i rifyn Medi ymddangos, byddaf wedi bod ar grwydr unwaith eto. Ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf, gobeithiaf ymweld â thiroedd Ffrainc a Sbaen a Phortiwgal ar fordaith, ac yn niwedd Gorffennaf, bydd Meibion Prysor yn gobeithio canu ‘Englynion Coffa Hedd Wyn’ ar lan ei fedd yn Artillery Wood fel ag y gwnaethon nhw chwarter canrif yn ôl – ar ddydd marw’r bardd – Gorffennaf 31.

Dyma englyn a weithiais i gofnodi’r profiad:

Y mae ias ac emosiwn – nawr ynom,
Ond er hyn, fe ganwn
Ar lan bedd yr Hedd Wyn hwn
Drywanwyd ar dir Annwn.
--------------------------------------------------

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y we.


Llun o wefan merilang.co.uk


4.10.17

Bwrw Golwg -Un arall o deulu Tŷ’r Ynys

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, pennod arall o gyfres W.Arvon Roberts am bobl Bro Ffestiniog yn America.

Soniais yn rhifyn Mawrth am Nicholas Jones (1812-99) o Dŷ’r Ynys, Cwm Cynfal, a ymfudodd i’r America yn 1841, a cafwyd ymateb diddorol gan Pegi Lloyd Williams, yn ychwanegu at yr hanes. Y mae yn fy ffeil wybodaeth am un arall o’r un teulu: disgynnydd a fu farw yn 1955, sef Edward Nicholas Jones.

Ganwyd ef Mai 22, 1867 yn Jerusalem, yn ardal Judson, Minnesota. Ei rieni oedd Evan E. (1830-96) ac Elinor Jones a symudodd i Judson o Wisconsin. Ymfudodd Evan E. Jones i Utica, Efrog Newydd, o Ffestiniog yn 1852, ac ar ôl gweithio i adeiladydd o’r enw Meredith Jones am bron i chwe mlynedd, symudodd i Janesville, Wisconsin, a priododd Elinor Evans, merch i John J. a Catherine Evans, gynt o Utica. Yn 1857 gwnaethont eu cartref yn Sir Rock, Wisconsin, ac yna symudont i Judson, yn 1866. Evan, ynghyd â Jabez Lloyd (g.1814 ym Môn) wnaeth adeiladu Capel Presbyteriaid Cymraeg Jerusalem, Judson yn 1871.

Capel Jerusalem, Judson. Llun o gasgliad yr awdur.




Dilynodd Edward N. Jones esiampl ei dad mewn llawer ffordd –fel ffarmwr a saer coed medrus, a hefyd fel aelod o’i gapel. Ar Fawrth 28, 1888 priododd ag Elizabeth Ann Lewis. Y mae nifer o’r tai ac ysguboriau a adeiladwyd yn Judson yn y cyfnod rhwng 1890 ac 1914 yn dystiolaeth i fedrusrwydd a gwaith gonest Ed.N fel y’i gelwid ef gan ei ffrindiau. Gwasanaethodd fel clerc y dref am nifer o flynyddoedd. Cafodd ei godi yn arweinydd y gân yn ei gapel pan oedd ond yn ŵr ifanc, a bu’n arweinydd y côr ymhob achlysur o bwys. Yr oedd hefyd yn flaenor am gyfnod maith.


Yn 1914 symudodd ef a’i wraig i Mankato, Minnesota, ac ymunodd â’r capel Cymraeg yno. Gwasanaethodd i gwmni Joseph Manderfield fel fframiwr lluniau profiadol a handy-man cyffredin.

Yn 1921 daeth yn olynydd i Isaac Griffiths yng ngofal y canu cynulledfaol yng nghapel Presbyteraidd Seion, South Bend lle y codwyd ef yn flaenor yn 1928. Bu’n athro Ysgol Sul am 65 o flynyddoedd ac yn ysgrifennydd Undeb yr Ysgol Sul yn yr ardal am lawer o flynyddoedd.

Bu farw yn Ysbyty Sant Joseph, Mankato, Ionawr 28ain 1955, yn 87 mlwydd oed. Cynhaliwyd ei angladd yn Seion, pryd y canodd y côr O Fryniau Caersalem; Cwm Rhondda; a’r dôn Babel.
Claddwyd ef ym mynwent Jerusalem. Gadawodd ar ei ôl ferch, Mrs Jane Ellen Jones, a mab, J. Floyd Jones, y ddau o Mankato. Un o’i wyrion oedd Lewis Jay Jones, aelod o fyddin yr Unol Daleithiau yng ngorsaf Bellevue, Nebraska.
------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.