1.7.17

Bwrw Golwg -'nôl i Minnesota

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, darn gan Pegi Lloyd Williams.
 
'O Faentwrog i Minnesota'. Dyna’r pennawd i erthygl  W. Arvon Roberts  yn rhifyn Mawrth, pryd mae’n cyfeirio at Nicholas Jones (1812-1899) a ymfudodd o Dŷ’r Ynys, Cwm Cynfal i Merica yn 1841. Yn eu tro aeth pedwar o blant Tŷ’r Ynys i’r Unol Daleithiau - un ferch a thri mab.

Tŷ'r Ynys, Cwm Cynfal. Cartref Evan Jones a Jane Edward ar ôl eu priodas yn 1804. Tynwyd y llun tua 1904, ac mae'n debyg mai teulu Bryn 'Rodyn sydd yn y llun.

Ganwyd Gwen yn 1818 a phriodi John P. Thomas yn 1844 ac ymfudo i Merica yn fuan wedyn.

Bu iddynt symud i wahanol ardaloedd, a bu farw yn Arena, Iowa yn 1875 yn 57 oed. Yn eu tro bu i dri o’r bechgyn adael, a’r cyntaf oedd Nicholas Jones (1812-1899) a’i wraig Margaret Ellis yn 1841,  a chawn ei hanes yn gryno gan Arvon Roberts.

Dilynodd ei frawd Evan E. Jones (1830-1896) a’i wraig Elinor yn 1852 gan sefydlu’n Judson am gyfnod.

Yr olaf i benderfynu gadael Cymru fach oedd Richard N. Jones (1831-1918) yn 1882. Cyfeirir ato fel ‘Richard N. Jones Minnesota’.


Bu i mi dreulio cyfnod hir i geisio dod o hyd i unrhyw wybodaeth am y pedwar, ac wedi sôn wrth lawer rhag ofn y down i wybod mwy. Roedd ffeil reit drwchus ar gael cyn i mi benderfynu mai ‘digon oedd digon’.   Ychydig feddyliais y cawn hanesion cryno a chywir byth, ond derbyniais alwad ffôn gan ysgrifennydd Cymdeithas Teuluoedd Gwynedd un bora Sadwrn yn egluro ei fod wedi cael cais o Merica gan y ‘Family History Emigrants from Gwynedd to the U.S.A. 1795/1931’ i ddweud ei fod wedi derbyn cais am wybodaeth, os yn bosibl, am hanes  teulu Tŷ’r Ynys.

Yn dilyn, daeth llythyr gan un o’r teuluoedd, ac ychydig wedi hynny, derbyniais lythyrau gan deuluoedd y tri brawd. Yn anffodus, gan fod Gwen wedi marw yn eithaf ifanc, mai dyna hwyrach y rheswm na ddaeth dim gair gan ei theulu, a doedd neb o ddisgynyddion y brodyr yn gwybod dim am y teulu yma.

Yn dilyn hyn oll, fe gefais y pleser mwya’ i estyn croeso i aelodau teuluoedd hogiau Tŷ’r Ynys
o dro i dro, a mynd â nhw draw at yr hen gartra -  yn wir, cafwyd caniatâd i gael picnic unwaith tu mewn i’r hen adfeilion.  Yn naturiol, rhaid fu talu ymweliad â bedd Evan a Jane Jones, Tŷ’r Ynys - sydd yn y rhan o gladdfa teulu Dolmoch, gan mai yno roedd gwreiddiau Jane.

Rhaid sôn am un ymweliad tipyn yn wahanol hwyrach - derbyn neges i ddweud y byddai un o fechgyn ‘rhen deulu’ yn dod draw yma am ryw awr neu ddwy.  Fe gyrhaeddodd mewn tacsi, a rhoi ar ddeall ei fod wedi cyrraedd Llundain y noson cynt a  gwneud trefniant i gael tacsi i’w hebrwng yma - ac felly y bu.  Roedd yn awyddus i lenwi bylchau yn hanes ei gyndeidiau, ac ymhen dim, roedd y tacsi ar ei ffordd i Bortmeirion at y bora i fynd a fo’n ôl i Heathrow, cyn ei throi hi am wythnos o golffio yn Iwerddon.  Ia!  Erbyn heddiw, tybed ai mynd i un o Glybiau Golff Donald Trump fyddai o?   Roedd gan George ei Fanc ei hun, ac yn cyflogi rhai cannoedd o staff.
Pegi Lloyd-Williams    
-------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon