25.4.17

Sgotwrs Stiniog -Y Cogyn


Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans; y tro hwn yn edrych ymlaen at fis Mai.

Mawrth oerllyd a gwyntog
Ac Ebrill cawodog,
Ill dau a wnant rhyngddynt
Fai teg a godidog
’.

Dyna, yn ôl darogan yr hen bennill yma, sut mae hi i fod ym mis Mai, - sef, ‘teg a godidog’.  Gobeithio ei fod yn dweud y gwir, neu ei fod yn o agos ati.   Cawn weld faint o goel a fedrwn ni ei roi ar hen bennill o’r math yma.


Y COGYN

'Mae ymddangosiad y cogyn ar wyneb ein llynnoedd yn fwy na rhyw ddigwyddiad ym mlwyddyn y pysgotwr.  Mae yn achlysur arbennig ym Myd Natur, ac yng nghalendr y genweiriwr.

Fel yna, gan ychwanegu ryw ychydig ato, - ond fod J.W. Hills yn ei ddweud yn yr iaith fain - y mynegodd yr hyn a deimlai ynglŷn â’r cogyn. Yr afonydd calch yn ne Lloegr oedd mewn golwg ganddo ef,  a’r mwyaf o’r cogynnod, sef, cogyn Mai - nad ydym ni yn ei weld yn yr ardal yma.  Ond mae yr hyn a ddywedir gan J.W. Hills, rwy’n credu, yr un mor wir am ein llynnoedd mynyddig ni yn ardal ‘Stiniog, ag yw am yr afonydd araf eu rhediad sydd ar lawr gwlad yn Ne Lloegr.  Fel y mae’r cogyn Mai yn bwysig i’r genweirwyr yno, felly mae’r cogyn coch yr un mor bwysig i ninnau yma. 

Y cogyn coch yw’r un sydd i’w weld amlaf, ac sydd yn fwyaf niferus ar ein dyfroedd ni, ac mae hi’n mynd yn fis Mai arno’n dod i’r golwg.  Mae yna gogyn arall i’w weld ar ein dyfroedd, sef y cogyn brown, y gellir yn hawdd ei gamgymryd am y cogyn coch.  Nid yw mor gyffredin â’r un coch, na chwaith mor niferus, ac mae’n dod i’r golwg fel arfer ychydig o flaen y coch, sef yn rhan olaf mis Ebrill.  Fe’i gwelir yn aml ar Lyn y Morwynion.

Y ffordd i wahaniaethu rhwng y ddau fath yw edrych ar y ddwy adain fach sydd yng nghesail y ddwy adain fawr.  Prin y gellir gweld yr adain fach yn erbyn yr adain fawr yn y cogyn brown.  Ond mae dwy adain fach y cogyn coch yn oleuach eu lliw ac i’w gweld yn eithaf amlwg yn erbyn ei adain fawr.  Onid yw ymddangosiad y cogyn ‘yn achlysur arbennig .. yng nghalendr y genweiriwr?’

Hyd at fis Mai, a siarad yn gyffredinol, ychydig o bryfaid a welir o gwmpas ac ar ein llynnoedd.  Ambell i bry cerrig, dyweder, y pry bach du, Wil piser hir, - fel mae pobl Penrhyn Llŷn yn galw yr ‘Hawthorn Fly’,’ a brych y gro (efallai).  Tydi hi fawr ryfedd, felly, fod yna edrych ymlaen gan y genweirwyr at weld y cogyn yn dod i’r golwg ar wyneb y dŵr, gan ei fordwyo’n hyderus.

Ac onid yw gweld y cogyn, neu glywed gan gyd-enweiriwr fod y ‘cogyn’ allan, yn codi hyder, yn rhoi mwy o awch ar y pysgota, yn peri fod rhywun yn pysgota’n fanylach a chyda mwy o obaith?
Dim ond  y cogyn, boed yn goch neu yn frown, sy’n medru creu y teimlad yma mewn pysgotwr.

Wedi’r disgwyl hir am ddechrau’r tymor pysgota; wedi gweld mis Mawrth, ac efallai ran dda os nad y cyfan o fis Ebrill, heb fedru mynd allan hefo’r enwair, yn llithro o’i afael heb fawr ddim i ddangos andanynt.  Yna, mis Mai yn dod, a’r cogyn yn ymddangos!!  A chyda’r ‘achlysur arbennig’ yma, daw y teimlad cynyddol fod y tymor pysgota bellach wedi dechrau o ddifrif.

Blwyddyn neu ddwy yn ôl rhoddais batrwm ‘Cogyn Dafydd Dafis Penffridd’ yn y golofn sgotwrs, a’r tymor diwethaf cawiais ef o’r newydd a’i roi ar fy mlaen-llinyn.

Wn i ddim pryd y cafodd ei bysgota ddiwethaf.  Yn sicr mae hynny flynyddoedd yn ôl erbyn hyn.  Gwnaeth ychydig o bnawniau gweddol braf ym mis Mai a gwelwyd rywfaint o’r cogyn coch ar y dŵr, a daeth ‘Cogyn Penffridd’ (fel y’i gelwid y rhan amlaf), a sawl ‘sgodyn i’r gawell.

Rhoddodd gweld un o hen ‘Blu Stiniog’ - yn arbennig felly un o batrymau plu Dafydd Dafis - yn gweithio unwaith eto wedi’r holl flynyddoedd - rhyw bleser a gwefr neilltuol i mi.

NIMFF Y COGYN COCH

Pan eis i i’m dyddiadur pysgota i edrych pa blu a oedd wedi bod yn eu dal yn ystod mis Mai dros rai o’r blynyddoedd diwethaf er mwyn cael pluen i’w chynnig yn y golofn, yr oedd un bluen yn cael ei henwi yn weddol gyson.  A honno oedd ‘Nimff y Cogyn Coch’.  Er mai y ‘Nimff Coch-Frown’ y byddaf yn galw’r bluen y rhan amlaf.  Ond wedi ei llunio a’i chawio, y mae y bluen i geisio dynwared nimff y cogyn coch, fel mae hwnnw cyn iddo godi i wyneb y dŵr a throi yn gogyn. 

Nymff coch-frown.*
 Byddaf yn eithaf hoff o chwilio hyd lannau’r llynnoedd i weld beth sydd yno; codi carreg ar ôl carreg i weld a oes rhyw nimff neu’i gilydd yn llechu oddi tanynt yn y mân gilfachau.

Wrth wneud hyn dros amser, ac ymgynghori â rhai llyfrau sydd gennyf, dois i fedru gwahaniaethu rhwng rhai ohonynt.  Er enghraifft, medru gwahaniaethu rhwng nimff pry cerrig a nimffiau y cogyn coch a brown.  Wedi penderfynu pa rai oedd y nimffiau coch a brown, mynd ati wedyn i geisio cawio pluen a fuasai,
gobeithio, yn twyllo’r pysgodyn i dybio mai nimff go iawn ydoedd, a mynd amdano.

Wedi rhywfaint o arbrofi, dyma’r patrwm a luniais yn y diwedd:

Bach –     Maint 12.  Y math a elwir yn sproat
Eda Gawio –   Coch
Cynffon –     4 neu 5 oddi ar heislen gwar-coch ceiliog
Corff –     Ychydig mwy na hanner ôl y corff wedi’i wneud o heislen gwar-coch-ceiliog, - o liw canolig.  Dwy ochr yr heislen wedi eu torri o fewn rhyw chwarter modfedd i goes yr heislen.  Gweddill y corff o wlân cochddu. Rhoi cylchau o weiar gopr am y corff.  Gellir rhoi to dros y rhan gochddu o’r corff o ran o bluen cynffon ceiliog ffesant
Traed -     Rhyw ddau dro o heislen gwar-coch-ceiliog o liw canolig

Yn gynnar ym mis Mai, pan yw’r cogyn coch yn dechrau dod i’r golwg ar y dŵr, rhoir y Nimff Coch-frown ar y blaen-llinyn, - un ai yn bluen flaen neu yn bluen ganol.

Ers blwyddyn neu ddwy erbyn hyn mae y nimff yma wedi denu aml i bysgodyn i’r gawell, ac mae bellach yn un o’m dewis blu i ym mis Mai.  Tydi hi ddim yn llawer i edrych arni fel pluen, ond mae yn gwneud yr hyn y bwriadwyd iddi’i wneud!!
-----------------------------------------



*Llun (Gareth Jones) wedi'i sganio o lyfr 'Plu Stiniog' Emrys Evans.
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2006. Gallwch ddilyn cyfres Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon