21.3.17

Trem yn ôl -Tabernacl a Thŷ Canol

Ail bennod hanes Tŷ Canol, gan Pegi Lloyd Williams

Roedd Tŷ Canol yn ddau dŷ o dan yr un to, ac fe glywais Mam yn dweud lawer gwaith ei bod yn crio weithiau wrth glywed swn llygod yn rhedeg yn y nenfwd.  ‘Paid â bod yn fabi – llygod bach diniwed ydyn nhw’ byddai Nain yn dweud, ond roedd Mam yn tybio bod ganddynt draed mawr iawn beth bynnag!  Felly, efo ychydig o dai o gwmpas roedd yna gymuned fach yn y gymdogaeth ac mae’n rhaid bod pawb yn cyd-dynnu’n eitha’ da gan na chlywais air cas am neb – 'rhen Betsi Jones wedi rhoi ffedog lân amdani cyn troi allan naill i fwydo’r ieir neu am sgwrs, a phob amser pinsiad o bersli yn ei phoced “peth da at yr hen ddŵr ma” ac un o’r gwragedd eraill yn cyrraedd am belen fach o furum ‘at y rhen nerfa ma’ pan yn teimlo’n isel.  Ia – y burum a’r persli a chynhwysion eraill yn cael eu gwerthu dros y cownter erbyn heddiw.  Roedd yr ‘hen bobol’ yn gwybod be oedd gwerth a pherygl pob llysieuyn.

Aelodau yng Nghapel Tabernacl (MC) oedd Evan a Gwen Roberts, a nhw a Margiad Elin ac Evan John yn mynychu’r capel cynta’ a godwyd yn 1864.  Cyn diwedd y ganrif roedd yr adeilad yn orlawn i’r gwasanaethau a phenderfynwyd codi capel newydd urddasol – o’r tu mewn ac yn sicr o’r tu allan.
Fel y tybiaf – roedd Gwen Roberts trwy werthu wyau a chadw’r cownt yn ei phen gan na allai sgwennu na darllen, ac Evan trwy weithio yn y chwarel a chadw ychydig o wartheg, a thyfu pob llysieuyn at y bwrdd wedi hel celc bach golew gan iddynt roi benthyg arian yn ddi-log at adeiladu’r capel newydd.  Hyn ym mis Medi 1902, ac Evan a Gwen yn ei theimlo’r fraint mae’n siwr i weld eu merch yn priodi yno efo John Jones y bora trannoeth.

Dod i ben oedd hanes yr ail gapel hefyd, a hynny’n sydyn a dirybudd.  Canfuwyd pydredd sych (dry-rot) wedi treiddio trwodd a rhybudd i neb fynd yn ôl a blaen yno ar ôl y gwasanaeth olaf yng ngofal Y Parch Adrian P. Williams ar 9fed Tachwedd 1977.

Cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg codwyd y rhesdai Summerhill ac fe benderfynodd y ddau brynu rhif 4, ond aeth yr un o’r ddau yno i fyw.  Fe symudodd Margiad Elin a John Jones yno o ardal Llwynygell ac yno y ganwyd eu hail blentyn Mary Ann (1905), ac wedi hynny ei brawd Evan John a Kate, rhieni John Evan a Morfudd.  Bu plentyn bach arall hefyd – Gwennie a fu farw tua 1909 fel llaweroedd o rai bach o’r ardal yr un amser fel y sylwais wrth ddarllen eu cofeb ar garreg fedd.  Fe glywais ddweud bod Gwennie wedi ei geni ‘mewn feil – peth lwcus iawn’ ond nid yn ei hachos hi reit siwr.  Bu Evan John a’i wraig, Catherine (Kate) yn byw yn Tŷ Canol ar ôl yr hen bobol, a dyna sut mae gen i gof am yr hen gartref.  Roedd Evan John yn sgotwr brwd ac yn dda am gawio plu ‘sgota’ ... mae dwy beth bynnag yn dod i’r cof:  ‘Rhwyfwr Evan John Tŷ Canol’ a ‘Cogyn Evan John Tŷ Canol’.

Yn gymdogion i Taid a Nain oedd William Jones, Brynawel – “un o’r cymeriadau rhagoraf a fu yn ein hardal erioed” meddai R.J. Roberts (Tanrallt); ac yn ôl Glyn Myfyr (Park Square) ‘ei fywyd ar wastatir mor uchel fel mae’n gofyn i ddyn ddiosg ei esgidiau oddi am ei draed cyn sangu ohono ar diroedd mor gysegredig’.

Clywais ddeud adra fel y bu Nain Tŷ Canol yn hynod fentrus yn estyn cymorth i Mrs William Jones pan oedd un o’r plant yno’n wael.  Dyna sut roedd hi – estyn dwylaw i liniaru peth ar ofid y llall.
I’r Ysgol Frutanaidd Dolgarregddu elai plant yr ardal, gan dalu ceiniog neu ddwy yn wythnosol am eu haddysg.  Pawb yn mynd a’i fwyd efo fo mewn piser, ac yn amlwg o gael cip ar ambell beth ysgrifennwyd ar y pryd roedd popeth yn dangos eu bod yn cael y sylfeini cywir – darllen, ysgrifennu a rhifeg.  Byddai cymaint o ferched ag o hogiau yno; hyn oll yn dibynnu os oedd modd gartref hwyrach.  Yn gynharach yn yr ysgrif bu i mi gyfeirio bod y cyfenwau Tyson a Brymer yn ymddangos fel deiliad Tŷ Canol yn y dyddiau cynnar, a llawer ymhellach ymlaen bu i’r ‘Miss Brymer’ y gwyddom amdani hyd heddiw chwarae rhan bwysig yn ei hanes.  (gweler Darlith Y Fainc Sglodion 2009 Dafydd Jones)

Roedd yna ryw genfigen mae’n debyg cydrhwng ysgol Blaenau ac Ysgol Congl-y-Wal gan i mi ddysgu’r gân, ond nid yn ei chofio i gyd erbyn hyn.
“Be ydi’r mater debygwch chi?  
Hogia Congl Wal sydd yn mynd i ysgol Llan ....  
Ofn cael cweir gan hogia Dolgarregddu”.  
Wn i ddim byd am ysgol Congl-y-Wal yn anffodus.  Mae addysg i’r bobl ifanc wedi bod yn holl bwysig i Stiniog, ac yn parhau felly.  Mae ysgolion elfennol dalgylch Ysgol y Moelwyn yn gosod safonau mae’n amlwg, sydd wedyn yn cyfrannu at lwyddiant uchel hon yn eu paratoi gogyfer ‘y chweched’ neu unrhyw faes arall.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2017.
Dilynwch gyfres Trem yn ôl efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.




17.3.17

Bro Ffestiniog ar Flaen y Gad

Rhan o erthygl Ceri Cunnington, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017.

Mae’r ardal hon wedi gweld nifer o welliannau pwysig yn y cyfnod diweddar, megis datblygiad canol tref Blaenau a thwf gweithgaredd nifer o fentrau cymunedol. Yn gynyddol mae ardaloedd eraill yn edrych gyda chryn edmygedd ar yr hyn sy’n digwydd yma.

Llun -Paul W

Ym Mro Ffestiniog, bellach, mae sawl menter gymunedol lwyddiannus, yn cynnwys Antur Stiniog, Trawsnewid, Seren, Pengwern Cymunedol, CellB/Gwallgofiaid, GISDA, Dref Werdd,  Canolfan Hamdden Ysgol y Moelwyn, OPRA Cymru, Deudraeth Cyf, Caban Bach Barnardos ac yn y blaen. Erbyn hyn mae’r mentrau yma wedi dod at ei gilydd er mwyn cydweithio er lles yr ardal gyfan, dan ymbarel (neu barasôl!) Cwmni Bro Ffestiniog.

Gwnaeth Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw (CG) gyfraniad allweddol at sefydlu a chynnal sawl menter, corff , mudiad, cwmni, prosiect a gweithgaredd cymunedol. Rhoddodd y cynnydd mewn mentrau cymunedol wedd newydd i’r hen draddodiad cyfoethog o weithgaredd cymdeithasol ym Mro Ffestiniog. Mae’r datblygiadau cyfoes yn rhan o broses o drawsnewid diwylliannol yn yr ardal; o ail gynnau’r meddylfryd o wneud pethau trosom ein hunain ac o fentergarwch cymunedol newydd.

Gan edrych i’r dyfodol mae sawl gwers yn codi o brofiad CG. Un o’r pwysicaf, o safbwynt y gymuned, yw’r angen i gryfhau cyfathrebu gydag, ac ymysg aelodau’r gymuned, cynyddu cyfranogiad y gymuned a chydlynu a chydgordio’n well y gwaith y mae gwahanol asiantaethau a mentrau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud.

Mae enghreifftiau lu o asiantaethau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol yn gweithredu ar wahân, yn ôl eu hagenda eu hunain heb gyfathrebu na chydweithio yn ddigon effeithiol gydag eraill na chyda’r gymuned. O safbwynt datblygu’r gymuned mae angen strategaeth integredig i daclo materion megis tlodi plant, ffyniant economaidd, gwella iechyd, datblygiad diwylliannol ac addysgol, gwarchod yr amgylchedd ac yn y blaen.

I fod yn fwy effeithiol rydym angen cydweithio effeithlon rhwng asiantaethau, rhwng mentrau cymunedol, gyda’r gymuned ac o fewn y gymuned. Dyna pam y sefydlwyd Cwmni Bro Ffestiniog fel modd i gychwyn ateb yr angen hwn yn ogystal â sbarduno a chynnal mentergarwch cymunedol pellach.

GWELEDIGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mae’r Cwmni Bro wedi dechrau gweithredu fel rhwydwaith cymunedol sy’n cysylltu’r gwahanol fentrau cymunedol. Nôd y Cwmni yw gwella cyfathrebu, hybu cydweithio rhwng mentrau ac asiantaethau, cydgordio gweithgareddau, gwneud gwell defnydd o adnoddau, cynyddu cyfranogiad cymunedol yn ogystal â hybu gweithgarwch a mentergarwch cymunedol a gwirfoddol. Hyn i gyd yn cynnal ac adeiladu ar y broses o adfywiad cymunedol a thrawsnewid diwylliannol sydd eisoes ar waith yn yr ardal.

Gellir adeiladu ar brofiad blaenorol Partneriaeth CG o sbarduno menter gymunedol. Er bod prif ffocws CG wedi bod ar ardal ddaearyddol benodol wrth edrych i’r dyfodol, mae’n eglur bod angen strategaeth integredig ar gyfer yr ardal gyfan. Mae gofyn bod yn hyblyg wrth geisio pennu ffiniau’r ardal. Rhagwelir mai’r uned ‘naturiol’, yn fras, yw dalgylch Ysgol y Moelwyn a bod hon yn ardal ddaearyddol synhwyrol o ran maint ac o ran ymwybyddiaeth a thraddodiad cymunedol. 

Bydd  angen staff a gwirfoddolwyr profiadol i hwyluso proses gyfranogol o gynllunio strategol ar gyfer yr ardal. Maes o law, pan fydd y rhwydwaith a’r cwmni wedi’u sefydlu’n gadarn, a chynllun strategol yn ei le, y nôd yw y bydd y cwmni yn datblygu i fod yn gorff hunan-gynhaliol a fydd yn cynnal ei staff proffesiynol ei hun.

SWYDDOGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mater i’r gymuned fydd penderfynu ar union gyfeiriad a swyddogaeth y Cwmni Bro ond mae nifer o gamau y gellir eu rhagweld. Fe’u rhestrir isod:-

(1)    Cyfathrebu, trafod a chenhadu yn lleol gydag asiantaethau a’r gymuned ynglŷn ag union bwrpas, ffurf a swyddogaeth y Cwmni. Bydd angen trafod yn ofalus natur perchnogaeth a rheolaeth gymunedol y cwmni yn ogystal â pherthynas effeithiol rhwng mentrau cymunedol yr ardal.
(2)    Hwyluso trafodaeth a phenderfyniadau ar gyfansoddiad a swyddogaeth y cwmni.
(3)    Sefydlu trefn effeithiol ar gyfer cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, mentrau a’r gymuned. Gosod yn ei le ddulliau ymgynghori a threfn ar gyfer cyfranogiad y gymuned. Bydd datblygu dulliau digidol effeithiol o gyfathrebu yn allweddol yn hyn o beth.
(4)    Hwyluso ennyn llais y gymuned ynglyn â’r diffygion a’r cyfleoedd o ran datblygiad yr ardal.
(5)    Llunio, mewn modd cyfranogol, gynllun cymunedol integredig a hyblyg ar gyfer yr ardal.
(6)    Ymchwilio a datblygu dulliau o hybu a hyrwyddo menter gymdeithsol a datblygu cymunedol.
(7)    Datblygu a marchnata Cwmni Bro fel cwmni cydweithredol elusennol a democrataidd yn gyfrifol am hyrwyddo datblygiad cymunedol yr ardal.
(8)    Chwilio am ffynonellau cefnogi a chyllido’r Cwmni Bro, y mentrau sy’n aelodau o’r Cwmni yn ogystal â mentrau newydd yn yr ardal.

Mae llwyddiant Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal ynghŷd â’r gweithgaredd cymunedol newydd yn y fro yn golygu bod nifer o frodorion wedi ennill profiad a hyder fel gweithwyr datblygu cymunedol ac eraill fel gwirfoddolwyr. Mae hyn yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol.

Ond yr adnodd pwysicaf yw pobol y fro a’n diwylliant cymunedol. I raddau helaeth mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni. Mae cyfle yn yr ardal hon i ni greu dyfodol amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol yn codi o’r gorau yn ein traddodiad diwylliannol. Medrwn arloesi a chreu esiampl y gall cymunedau eraill ei efelychu.

Dyma’r her i ni bobol Bro Ffestiniog!

Croeso i chi anfon sylwadau ar y datblygiadau yma.   Cyswllt:  <cericunnington@yahoo.co.uk>

13.3.17

Gardd wyllt gymunedol

O’r diwedd mae’r syniad o ddatblygu gardd ar gyfer bywyd gwyllt i’r gymuned wedi cymryd cam pellach ymlaen. Erbyn heddiw, mae pawb yn ymwybodol o safle’r rhandiroedd sydd ar ymylon y dref; safle sydd yn cynnig lle i drigolion yr ardal dyfu llysiau. Pan sefydlwyd y rhandiroedd yn ôl yn 2011 gan Y Dref Werdd gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, roedd yna ddarn o dir, sydd yn gyfagos i’r safle, oedd yn addas iawn i gael ei ddatblygu, ond, yn anffodus ar y pryd, nid oedd yr adnoddau ar gael i wneud hynny.

Pan arianwyd Y Dref Werdd eto gan y Loteri Fawr yn 2015, un o’r amcanion oedd datblygu mannau gwyrdd cymunedol o fewn 'Stiniog, felly dyna gydio eto yn y syniad o ddatblygu’r safle. Ers i Gymdeithas Randiroedd Bro Ffestiniog gael ei sefydlu, maent yn dal y les ar gyfer y safle i gyd gan Gyngor Gwynedd ac er eu bod nhw wedi llwyddo i lenwi pob plot o dir yn y safle rhandiroedd, roedd angen ychydig o gymorth i chwilio a cheisio am grant i gychwyn ar y gwaith diweddaraf yma.

Aeth staff Y Dref Werdd ati i roi cymorth i’r Gymdeithas i lunio cais am arian gan gronfa Cist Gwynedd gyda’r Cyngor a llwyddwyd i dderbyn yr arian oedd angen i gychwyn ar y gwaith.

Bwriad y prosiect yma yw creu gardd nid yn unig ar gyfer y cyfoeth o fywyd gwyllt sydd yn byw ar y safle (ac i ddenu mwy), ond i’w agor hefyd fel man hamdden i’r cyhoedd.

Erbyn hyn, mae’r  Gymdeithas Rhandiroedd wedi cyflogi cwmni lleol, Gwasanaethau'r Cwm, o Drawsfynydd, i adeiladu llwybr fydd yn addas ar gyfer cadair olwyn a phramiau, a lle bydd mainc bicnic hwylus. Mae yno hefyd bwll dŵr yn lloches i bryfetach a phlanhigion brodorol. Y bwriad yw ymestyn y llwybr o gwmpas y safle gyfan, sy’n golygu y bydd y safle ar gau tan ddechrau’r haf.


Dros fisoedd yr haf, bydd y Gymdeithas Rhandiroedd a’r Dref Werdd, yn mynd-ati i greu grŵp gweithredol i ofalu am y safle ac i barhau gyda’r datblygiadau trwy blannu perllan fechan o goed ffrwythau, creu gofod ar gyfer sesiynau awyr agored fel gwyllt-grefft a threfnu hyfforddiant - a fydd yn cynnwys defnydd o bladur i dorri’r brwyn a’r mieri - fel rhan o waith cynnal a chadw’r ardd.




Mae’r ardd yma yn un o dri safle mae’r Dref Werdd yn helpu i’w ddatblygu, gyda gwaith yn parhau gyda Gwelliannau Llan Ffestiniog i ddatblygu Cae Bryn Coed a'r gwaith o ddatblygu man gwyrdd cymunedol arall yn 'stad dai Hafan Deg yn Nhanygrisiau ar y cyd gyda Grŵp Cynefin a Chartrefi Cymunedol Gwynedd.

Os hoffech chi fwy o fanylion am yr ardd wyllt neu os oes diddordeb gennych i wirfoddoli ar y prosiect, cysylltwch gyda’r Dref Werdd ar 01766 830 082 neu gwydion@drefwerdd.cymru, neu, mae croeso cynnes i chi alw heibio’r siop ar 18 Stryd Fawr unrhyw dro.

Tyllwyd y pwll yn wreiddiol yn 2011, wrth sefydlu safle'r rhandiroedd, a daeth y bywyd gwyllt yno'n fuan iawn wedyn (*dolen isod). Gall fod yn lle arbennig blant ddysgu am fywyd gwyllt eu cynefin.
Grifft llyffant yn y pwll ddechrau Mawrth 2017.

----------------------------------------
Erthygl gan Y Dref Werdd. Lluniau i gyd gan Paul W. 
*Ychydig o hanes y pwll


Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017.
Dilynwch newyddion Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


9.3.17

’Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Milwr Llwyd

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Adroddwyd yn y North Wales Chronicle ar Chwefror 2ail 1917 fod hen chwarelwr o Stiniog yn ddig o glywed fod merched erbyn hynny yn cael eu cyflogi mewn banciau, swyddfeydd cyhoeddus, ffatrioedd arfau, fel condyctors ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn swyddi y byddai dynion yn arfer eu gwneud. Honnai y byddai menywod yn cael eu gweld yn y chwareli lleol yn fuan.

Ond y diwydiant amaeth oedd mewn peryg' yn Nhrawsfynydd, wrth i'r Herald adrodd ar 6 Chwefror 1917 fod amryw o lafurwyr amaethyddol y pentref wedi eu galw i'r fyddin yr wythnos honno, a disgwylid i ragor gael yr alwad i ymuno 'ar fyrder'.

Un o'r rhai hynny a orfodwyd i listio tua'r adeg hon oedd Hedd Wyn. Cawn gadarnhâd o hynny yn yr Herald Cymraeg eto yn rhifyn 27 Chwefror o'r papur. Dan bennawd
'Y BARDD O DRAWSFYNYDD - HEDD WYN YN FILWR LLWYD'
dywedwyd ei fod wedi cyrraedd gwersyll Litherland, ger Lerpwl erbyn hynny. Cafwyd gwybodaeth hefyd iddo gipio'r wobr am hir a thoddaid yn eisteddfod Gwylfa ym Manod. I'r perwyl hwnnw, cyhoeddwyd darn yn un o bapurau Cymraeg y cyfnod oedd yn cwestiynu ambell ddatganiad gan Lloyd George.

Diddorol oedd darllen yr eitem yn Y Darian, papur radical a gyhoeddwyd yn Ne Cymru, yr unig bapur Cymraeg yn y rhanbarth hwnnw ar y pryd. Dyma ddywedodd 'Casnodyn' yn ei golofn ddychanol, ddeifiol, 'O'r Gogledd' ar yr 8fed o Fawrth, 1917, a dyfynnaf isod, yng ngeirfa’r cyfnod, fel ym mhob dyfyniad:
"Yr aradr yw ein gobaith, ebr ein Prif-Weinidog y nos o'r blaen. Ac eto hyrddiwyd y bardd Hedd Wyn, Trawsfynydd, a fagwyd rhwng cyrn yr aradr, ac a ŵyr yn well na neb dieithr sut i drin meysydd ei gartref, i'r gwersyll milwrol ger Lerpwl! Rhaid iddo adael yr aradr i ddysgu trin gwn. A chwynai Cynghorwr o Leyn, ym Mhwllheli, y dydd o'r blaen, bod ganddo dri march segur yn ei ystabl am na fedrai ddod o hyd i ddynion cymwys i'w dilyn. Sut, gan hynny, y mae'r aradr yn obaith inni?"
Ac i gadarnhau ei sylwadau miniog, ychwanegodd,
"Bygythir cau chwarelau Meirion ac Arfon. Os gwneir hynny difethir bywoliaeth milwyr. Hyderir y gellir atal yr aflwydd chwerw hwn. Lol i gyd yw disgwyl i hen chwarelwyr fedru troi'n was ffarm. Cystal a fai gynnyg troi teiliwr yn grydd, neu saer maen yn 'watsmecar'. (Croeso i chi chwerthin.)"
Roedd Y Rhedegydd wedi cynnwys adroddiad yn rhifyn 10 Chwefror o’r papur am ymadawiad Hedd Wyn am y fyddin wrth sôn am gyngerdd y V.T.C. yn y neuadd yn Nhrawsfynydd:
"Cynhaliwyd y cyngherdd uchod o dan amgylchiadau dipyn yn siomedig, trwy i’r llywydd penodedig fethu dod; …Hefyd yr oedd ein harweinydd poblogaidd Hedd Wyn yn absennol, trwy iddo gael ei alw i fyny i ymuno a’r fyddin ddechreu yr wythnos…"
----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


5.3.17

GISDA yn cefnogi pobl ifanc Bro Ffestiniog

Erthygl gan Ceri Cunnigton, am ei waith yn ceisio atal digartrefedd, a mwy.

“Y peth gwaetha’ a ddigwyddodd i’r ardal ’ma oedd pan ’nath y criw GISDA ’na symud i fewn.”
Dyma lais unigolyn ar y stryd fawr ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar ond mae’n siwr bod mwy nag un yn teimlo’r un fath. Doeddwn i fy hun ddim yn hollol siwr beth i feddwl nes i mi ddechrau gweithio yma, gan fod yna stigma amlwg ynghylch di-gartrefedd yn gyffredinol ac yn enwedig ymysg yr ifanc. Medraf eich sicrhau bod y gwaith da mae’r fenter yn ei gyflawni wedi bod yn agoriad llygaid llwyr. Mewn cymunedau gwâr, mae gennym i gyd ddyletswydd i gefnogi ein pobl ifanc ac mae angen cywiro rhai o’r camsyniadau a’r pryderon sy’n bodoli.

Sefydlwyd GISDA yn ôl  yn 1985 gan grŵp o wirfoddolwyr yn ardal Caernarfon. Mae GISDA yn sefyll am Grwp Ieuenctid Sengl De Arfon ond erbyn hyn mae cylch y gwasanaeth wedi ehangu ac mae’n cynnig llawer mwy na darparu llety yn unig i bobl ifanc fregus.

“Dwi isio bod yn blymar, ond beggars can’t be choosers, na?”
Dyma farn un person ifanc mewn grŵp trafod yn ddiweddar.  Mae angen cyd-weithio ar lefel addysgol a chymdeithasol i geisio gwyrdroi syniad o’r fath. Mae gwaith GISDA yn amrywio o ddarparu llety a bwyd mewn argyfwng i roi hyfforddiant ar sut i reoli dicter a chwnsela. Cynigir cefnogaeth hefyd i rieni ifanc ac arweiniad i unigolion allu cychwyn gyrfa. Mae ein Mentrau Cymdeithasol, megis ‘Te a Cofi’, ‘SGLEIN’ a ‘GISDA Creadigol’ yn cynnig cefnogaeth i rai ddod i sylweddoli eu potensial ac i fagu uchelgais. O’r 269 o bobl ifanc a gyfeirwyd atom yn 2015-16, roedd 70% ohonynt o dan 21oed;  54% o ardal Arfon, 9% o Dwyfor a 27% o Feirionnydd. Deuai’r gweddill o’r tu allan i Wynedd, ond o ogledd Cymru serch hynny.

Ar hyn o bryd mae 22 o unigolion ifanc yn derbyn cefnogaeth mewn llety cefnogol yn ardal Stiniog ac 14 arall yn cael gwasanaeth ‘cefnogaeth symudol’. Rhan allweddol o’n gwaith ni yw ceisio atal digartrefedd ac rydym yn cynnal gweithdai ymgynghorol o fewn clybiau ieuenctid a chymdeithasau ac ysgolion lleol.

Yn 2017, ein gobaith yw creu partneriaeth efo’r gymuned ehangach ac efo mentrau a mudiadau eraill sydd yn gweithio tuag at greu dyfodol mwy llewyrchus a ffyniannus  i’r Fro; mudiadau megis Y Dref Werdd, CellB, Antur Stiniog, Seren, Barnados ac Ysgol Y Moelwyn, i enwi ond rhai.

Mae drws ein swyddfa yn 49 Stryd Fawr (Yr Hen Co-op) ar agor bob amser pe carech ddod i wybod mwy am ein gwaith ac i gyfarfod pobl ifanc a staff. Byddwn o hyd yn croesawu syniadau a chefnogaeth o unrhyw fath. Pobl ifanc yw dyfodol ein cymuned ni, wedi’r cyfan, a rhaid cydweithio a chyd-dynnu os am ddatrys problemau’r ardal a sicrhau ffyniant i’r gymuned yn y dyfodol. Os am wybod mwy, ewch ar y wefan www.gisda.co.uk neu cysylltwch yn uniongyrchol efo fi naill ai ar y ffôn (01766 830 260) neu trwy e-bost (Ceri@gisda.co.uk)
-----------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017

1.3.17

Y dydd yn 'mestyn

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi! 'Gwnewch y pethau bychain' medd ein nawddsant, ac un peth bychan i'w ddathlu ar hyn o bryd ydi'r ychydig funudau ychwanegol o olau dydd a gawn yn ddyddiol wrth edrych ymlaen at y gwanwyn. Mae amser gwell i ddyfod,  ha-haleliwia! Dyma bytiau am y dydd yn 'mestyn a choelion mis Mawrth.
 
Cenin pedr. Llun -Paul W

Awr Fawr Galan...
Erbyn heddiw mae’r hen goel werin: 
Awr Fawr Galan, dwy Ŵyl Eilian a thair Ŵyl Mair 
wedi hen fynd heibio a mi fyddwn y rhoi’r clociau  ymlaen diwedd y mis hwn. Coel werin a fathwyd  gyda hyder dros y canrifoedd ydy hon.

Y syniad fod y dydd wedi ymestyn awr rhwng y Solstis a’r Flwyddyn Newydd. Boed hyn y Flwyddyn Newydd gyfoes, Ionawr 1, neu'r Hen Flwyddyn Newydd, Ionawr 12. Dim ond ychydig iawn o funudau a ychwanegwyd at y dydd ond byw mewn gobaith oedd yr ateb i aeaf caled a’r dyhead am y gwanwyn.

Aiff yr hen goel yn ei blaen i son am ‘ddwy awr Gŵyl Eilian’ a thair awr Gŵyl Fair y Canhwyllau. Codi ysbryd rhywun mewn gaeaf caled yw swyddogaeth yr hen goel debyg  ac mae rhai yn dal i son am Awr Fawr Galan. Er nad yw’r goel yn fathemategol gywir mae’n braf meddwl fod y dydd yn ymestyn.

Tebyg fod y gair Saesneg clock  yn dŵad o’r hen air Cymraeg ‘cloch’ a’r gair Gwyddeleg am gloch ef ‘clocca’. Un o’r gloch / One o' clock … wrth gwrs a thebyg mae cloch y llan oedd honno.
-  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -

(Yn ôl Twm Elias -'Tro drwy'r tymhorau'. 2007, Gwasg Carreg Gwalch- mi gawn ni tua 29 munud ychwanegol o olau dydd erbyn yr hen galan ar y 12fed o Ionawr; tua 68 munud erbyn Gŵyl Eilain, 29ain Ionawr; a dwy awr a chwarter erbyn Gŵyl Fair ar y 13eg Chwefror.
Ychydig o blygu'r gwir gan ein cyndadau felly, ond pwy sy'n cwyno 'de, cyn belled ein bod yn edrych ymlaen yn obeithiol at y gwanwyn. Daliwch i gredu!  -PW)

-  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -

Coelion Mis Mawrth

Mewn englyn, cwpledi a choel ceir nifer o gyfeiriadau at a rhybuddion newid tywydd yn ymwneud â mis Mawrth:

1.    Fe ddaw Gŵyl Fai, fe ddaw Gŵyl Ddewi
Fe ddaw’r hwyaden fach i ddodwy
Fe ddaw’r haul bach i sychu’r llwybre
Fe ddaw ‘nghariadau innau’n drwpe

2.    Mis cyn C’lanmai cân y cogau;
Mis cyn hynny tyf y briallu

3.    Mawrth a ladd, Ebrill a fling
A rhwng y ddau, adawan nhw ddim
(A Mai mwyn i werthu crwyn!)

4.    Os ym Mawrth y tyf y ddôl
Gwelir llawnder ar ei hôl

5.    Yn ôl coel arall, am bob diwrnod o dywydd teg ym mis Mawrth, bydd wythnos o dywydd braf yn yr haf - Fel y bo Mawrth y bydd yr haf.

6.    Os bydd yr oen cyntaf a welwch yn y gwanwyn yn eich wynebu bydd hynny’n dod a lwc dda'r gweddill o’r flwyddyn

7.    Ni phery eira mis Mawrth
Mwy nag ymenyn ar dorth dwym

8.    Mawrth oerllyd a gwyntog ac Ebrill cawodog
Ill dau a wnant rhyngddynt Fai teg a godidog

9.    Niwl ym Mawrth, rhew ym Mai

10.    Bore du o wanwyn; prynhawn teg

11.    Os daw Mawrth i mewn fel oenig
Allan â fel llew mileinig

12.    Yr adeg i hau ydy ‘tridiau’r aderyn du a dau lygad Ebrill’ (sef tridiau olaf mis Mawrth a’r deuddydd cyntaf ym mis Ebrill ond cofier ‘Gwlybaniaeth ar yr og, chwyn yn y cryman’.
-----------------------------------------

Darnau gan Tecwyn Vaughan Jones, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2016.