16.5.16

Sgotwrs Stiniog -Dechrau'r haf

Erthygl o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Wedi Ebrill daw wybren – hyfryd Fai
Ar dwf ir daearen;
Y dydd byr redodd i ben -
Ymwroli mae’r heulwen.’
Englyn i gychwyn y golofn y mis yma, ac hwnnw o awdl gynnar gan R. Williams Parry i ‘Dechrau Haf’, gan obeithio y bydd yr heulwen wedi ymwroli (chwedl y bardd) yn ‘hyfryd Fai’ arnom.  Hynny ydi yn dywydd pysgota ac yn dywydd i’r ‘cogyn’ ddod allan yn ei niferoedd.

Diolch i Mrs Rhiannon Jones, Tanygrisiau am ei llythyr ynglyn ag ‘Ann Swch’.

Roedd yn cryn dipyn o gymeriad mae’n amlwg, fel y’i disgrifir gan Mrs Jones – yn gwisgo het dyn, esgidiau hoelion trymion am ei thraed, (esgidiau gwaith fel yr oeddent yn cael eu galw), ac yn gwaeddi siarad. Darlun geiriol cofiadwy ohoni, ac yn fwy o ddyn nac o ddynes mae’n ymddangos.

Wedi cael cymaint a hyn’na o wybodaeth amdani, tybed a oes rhywun yn rhywle a fedr ateb y cwestiwn, - be ydi patrwm ‘Pluen Ann Swch?’

A hithau’n byw yn y Swch, Rhyd Sarn, mae’n bosibl mai pluen ar gyfer eog neu sewin ydoedd, ond tydw’i ddim yn sicr o hynny.

Yn ben-dant roedd yna bluen yn cael ei hadnabod fel ‘Pluen Ann Swch’.

A oedd hi’n pysgota ei hyn?  A hithau’r cymeriad a ydoedd a oedd hi’n mynd i’r afon ar ôl yr eog -yn potsio, felly?  Byddwn yn falch o unrhyw wybodaeth ychwanegol amdani.

Nodyn bach ar gyfer y rhai sy’n cawio plu, gan obeithio, efallai y bydd o ddiddordeb iddynt.

Yn ystod y dyddiau diwethaf bum yn darllen llyfr gan ŵr o’r enw G.E.M. Sques.  Ei deitl yw ‘Minor Tactics of the Chalk Stream’.  Nid llyfr diweddar mohono, gan iddo gael ei gyhoeddi gyntaf yn ôl yn 1910.  Ond fe’i ail argraffwyd o ganol y nawdegau.

Son am afonydd calch de Lloegr – fel yr awgrymir yn y teitl – y mae'r llyfr, a’r dactegaeth a oedd yn ei ddafnyddio pan oedd yn eu pysgota.

Mae yn rhoi cryn sylw i bysgota nimffiau, ac yn un o’r penodau mae yn pwysleisio pa mor bwysig ydi fod lliw yr eda gawio, un ai yr un lliw, neu yn agor yr un lliw, neu yn gweddu i liw y blewyn a ddefnyddir yn gorff y nimff.

Unwaith y mae’r nimff yn cael ei wlychu, meddai Sques, y mae’r eda gawio yn dangos trwy’r blewyn sydd yn y corff.  Tydi hyn ddim yn digwydd pan mae’r corff wedi’i wneud o sidan, dim ond pan mae’r corff o ryw fath o flewyn neu wlan.

Mae yn rhoi engreifftiau o nimffiau yr oedd wedi eu cawio gan ddefnyddio eda gawio oedd ddim yn gweddu, neu’n addas i’r blewyn yn eu cyrff, a’r rheini’n cael eu gwrthod gan y pysgod.

Tybed a oes yna rywbeth i ni sy’n cawio i gymryd sylw ohono gan Sques, er mai llynnoedd, yn bennaf, yr ydym ni yn eu pysgota?  Ar hynny yr ydym yn defnyddio llawer o blu gwlyb a’u cyrff o ryw flewyn neu’i gilydd yn ystod tymor pysgota.  Mae’n rhywbeth i roi ystyriaeth iddo, rwy’n credu.

Llyn Morwynion. Llun- Paul W.

Y math o ‘gogyn’ sy’n gyffredin ar lynnoedd ein hardal yw y ‘Cogyn Coch’.  Mae yna fath arall hefyd, sydd heb fod yn annhebyg i’r un coch, ond heb fod mor gyffredin ag ef: ‘Y Cogyn Brown’ yw hwnnw.

Yn ddiweddar, wrth chwilio am batrymau plu ar gyfer mis Mai, tarewais ar un o’r Cogyn Brown gan Taff Price.  A dyna yw y patrwm sydd gennyf i’w gynnig y mis yma.

Patrwm pluen sych ydyw, ac mae fel a ganlyn:

Bach: Maint 12  -mae Price yn defnyddio bach a’r llygad i fyny.
Cynffon: Tri blewyn o geiliog hwyaden brown.
Corff: Blewyn morlo wedi’i lifo’n frown tywyll.  Rhoi cylchau o eda o liw oran-frown amdano.
Adain: Dwy o betris tywyll wedi eu rhoi yn syth i fyny.
Traed: Gwar coch ceiliog.

Argymhellir defnyddio eda gawio o liw brown tywyll i gawio’r bluen.

Mae yna sawl patrwm o’r ‘cogyn’ ar gael gennym ni yn lleol, ond bydd yn ddiddorol rhoi cynnig ar batrwm Taff Price i weld a wnaiff o weithio’n well na’n rhai ni.

Sawl un o’r rhai sy’n cawio plu fydd yn barod i wneud y patrwm yma, ei bysgota, ac yna gadael inni wybod sut hwyl a gafwyd hefo fo?  Dyna her ichi i arbrofi, ac her i ymateb.

-------------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1999.
Dilynwch gyfres Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon