30.1.16

Blwyddyn iach

Pennod arall o gyfres 'Colofn y Merched' gan Annwen Jones.

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd a dyma’r cyfle delfrydol i chi fod mewn siap perffaith, yn gorfforol ac yn feddyliol.  Gorffennwch y siocledi, y mins peis a’r pwdin plwm, gwyliwch yr holl ffilmiau a’r holl sdwnsh yr ydych wedi eu recordio tros yr Wyl ac yna dechreuwch baratoi at fod yn ddynes newydd.

I helpu’r corff:

1.    Bwytewch yn iach.  Sicrhewch fod digon o ffrwythau a llysiau yn eich deiet.  Fe ddylech fod yn bwyta tua 5 darn o ffrwythau a llysiau mewn diwrnod.  Mae diod o sudd ffrwythau yn cyfrif fel un.

2.    Bwytwch llai ar bethau megis cacennau a bisgedi a phwdins melys.

3.    Defnyddiwch llai o saim ond byddwch yn ofalus.  Mae’r corff angen peth, yn arbennig yr hyn a elwir yn ‘essential fatty acids’.  Fe’i ceir mewn cnau a hadau megis blodyn yr haul a phwmpen.

4.    Os ydych angen colli pwysau yna gwnewch hynny’n ara deg.  Mae colli tua hanner stôn mewn wythnos yn ormod o lawer.  Peidiwch a llwgu eich hun, bwytewch yn gall.

5.    Gwnewch ymarferiadau.  Os wnewch chi gychwyn yn ddigon buan yn y flwyddyn ni fydd yn rhaid i chi godi am 6 y bore i wneud ryw awr neu fwy o aerobics cyn mynd i’r gwaith.  Mae hyn yn swnio’n fwy o artaith na dim ond fe ymddengys fod llawer yn ei wneud!  Fe ddylai tua hanner awr dair gwaith yr wythnos fod yn ddigonol (h.y. ar ôl gwaith!)

6.    Gofalwch am eich croen.  Heddiw mae’n rhaid amddiffyn y croen rhag mwg, yr haul a’r llygredd sy’n yr awyr.  Felly prynwch hylif croen da, un sy’n cynnwys SPF uchel ac sy’n cynnwys yr hyn a elwir yn ‘anti-oxidant’.

7.    Byddwch yn ofalus iawn yn yr haul.  Mae’n bwysig cael peth ohono er mwyn cael fitamin D a theimlo’n well.  Ond peidiwch a llosgi.

8.    Gofalwch eich bod yn cael yr holl brofion mae merched i fod i’w cael yn y clinigau merched.  Ewch am y prawf ceg y groth a byddwch yn sensitif i unrhyw newidiadau’n y bronnau.

Y mis nesaf – sut i gadw’r meddwl mewn siap.
----------------------------------

Cyhoeddwyd yn rhifyn Ionawr 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. 
Llun PW

28.1.16

Llyfrau'r Fro

Adolygiadau gan VPW, o rifyn Rhagfyr 2015.

Llyfr Gwyn
Gwyn Thomas. Cyhoeddiadau Barddas. 218t. £12.95.

Llên-gofiant yw’r gyfrol wych hon, yn hytrach na hunangofiant o fywyd y bardd a’r llenor adnabyddus o ‘Stiniog, yn ôl ei eiriau ei hun. Golyga hyn mai trafod yr hyn y mae wedi ei ysgrifennu am y rhan fwyaf o’i oes y mae’r awdur.

Da yw cael dweud iddo gyfeirio eto at ei fagwriaeth yn y bennod ‘Bro fy Mebyd’, gyda chyfeiriadau amlwg at deulu, cyfoedion a chyfeillion. Cawn ganddo straeon hynod ddifyr am ddylanwad y fagwriaeth honno arno, ac am gymeriadau yr oedd yn ei adnabod yn ystod y cyfnod hapus hwnnw iddo.

Hyfryd yw’r dyfyniadau o ambell un o’i gerddi sy’n britho’r gyfrol, gyda sawl un mor gyfarwydd inni bellach, megis ei gerdd enwog i’r ‘Blaenau’, sy’n profi ei gariad tuag at ei fro enedigol. Mae yma hefyd gymysgedd o ddwyster a doniolwch, wrth i Gwyn fynd â’r darllenwyr ar ei daith o Danygrisiau a’r Blaenau, trwy ei yrfa academaidd, i’w waith gyda’r B.B.C.

Wrth gyrraedd ei amser fel gŵr, tad a thaid, cofnodir penodau difyr ar ‘Ysbrydion’, ‘Ffilmiau’, ‘Natur’ a nifer o bynciau eraill at ddant pob un ohonom.

Trwy’r cyfan, cawn ein hatgoffa’n aml mai hogyn o ‘Stiniog ydi’r Athro Gwyn Thomas, er ei holl lwyddiannau, a da yw cael gwybod hynny.



[Cafwyd noson i'w chofio 'nôl ym mis Tachwedd pan lansiwyd y llyfr yn neuadd lawn y WI yn y  Blaenau, pan fu Vivian yn holi'r awdur, a Gwyn yn darllen rhai o'i gerddi. -Gol.]

 
------------------- 
 

Dim Gobaith Caneri
Siân Northey a Myrddin ap Dafydd. Carreg Gwalch. £5.99

Yr ail yn y gyfres o idiomau hwyliog i blant sydd yma, wrth i Siân Northey greu pytiau o straeon a sgyrsiau i ddangos defnydd naturiol o’r idiom.

Ceir hefyd gwpled ysgafn gan Myrddin ap Dafydd odditan pob stori, sy’n ychwanegu at y stori a’r darluniau yn y llyfr.

Anrheg da iawn ar gyfer y plantos.


VPW


26.1.16

Cytgord i uno

Dathliadau Seindorf yr Oakeley a Chôr Rhiannedd y Moelwyn

Cafwyd noson lwyddiannus iawn ym Mhlas Tan-y-bwlch pan lansiodd y Seindorf, yn swyddogol, eu CD newydd  DATHLU 150.

Fel yr oedd y gwesteion a’r gynulleidfa yn cyrraedd y Plas cafwyd darllediad byw  gan Gerallt Pennant a chriw Heno (S4C)  i gofnodi’r digwyddiad arbennig yma yn hanes y band.

Cafwyd eitemau amrywiol a chyflwyniad gan yr arweinydd John Glyn Jones o gefndir ynghŷd â hanes recordio’r CD. Cyflwynwyd crynodeb o ’Hanes Cynnar y Seindorf’ 1864-1923 gan yr arweinydd gan ganolbwyntio ar gysylltiad y band a Phlas Tan-y-bwlch (cartref W. E. Oakeley a’i deulu).

Yn ogystal,  rhoddodd hanes dau arweinydd a cherddorion o fri sef Mr William Jones a Mr.W.R.Edwards. Braf oedd deall i Mr Trefor Edwards ŵyr i Mr.W.R.Edwards fod yn y gynulleidfa.

Yn ystod y noson cyflwynodd y bardd ifanc Gruffudd Antur (cyn aelod o’r band) englyn i John Glyn Jones a’r band fel anrheg i gofnodi’r pen-blwydd hanesyddol yma i’r gymdeithas hynaf yn ardal ‘Stiniog. Ar ôl ei dderbyn gan Gruffudd, cyflwynodd yr arweinydd yr englyn i Mr Dewi Lake ar gyfer ei osod ar furiau Ysgol y Moelwyn er  cof a chadw  am flynyddoedd i ddod.        [Glen Jones]
DATHLU 150
Ar gwr y creigiau geirwon – fe glywaf
     y glaw a'r morthwylion
yn creu, fesul carreg gron,
gytgord i uno'r dynion.

                                  Gruffudd Antur

Bu'r Seindorf  yn cystadlu yng Nghystadleuaeth ‘Bandiau Pres Gogledd Cymru’  a gynhaliwyd yn Rhuthun. Daeth y band yn drydydd. Profiad arbennig ac unigryw arall i aelodau ifanc y band.

Dyfarnwyd yr anrhydedd o chwaraewr gorau Cystadleuaeth Bandiau Pres Gogledd Cymru i Alan Jones o Senidorf yr Oakeley. Alan yw prif gornetydd yr Oakeley.  Derbyniodd Alan darian  'Accent Insurance Shield'.

Llongyfarchiadau i Alan a'r band.

******

Côr Rhiannedd y Moelwyn yn dathlu'r dwbwl!

Wedi deufis prysur dros ben gydag ymarferion ddwywaith yr wythnos, mae Côr Rhiannedd y Moelwyn bellach ar ben eu digon wedi iddynt gael buddugoliaeth mewn dwy gystadleuaeth yn ddiweddar. Yn gôr ifanc sydd ond wedi mentro i gystadleuaeth un waith cyn hyn, roedd cryn nerfau i'w teimlo ymysg yr aelodau yn yr ymarferion a oedd yn arwain fyny at y cystadlu.

Ar nos Wener, yr ail o Hydref, bu iddynt berfformio o flaen cynulleidfa hwyliog a chroesawgar Neuadd Bentref Trawsfynydd ble daethant i'r brig yng nghystadleuaeth y corau yn Eisteddfod Stesion, a hynny yn erbyn dau gôr safonol a lleol arall, sef Meibion Prysor a Lliaws Cain. Wedi i'r beirniad, Nia Morgan ddisgrifio sain y côr fel 'treibal' a'r aelodau fel 'wariars' tra'n canu 'Adiemus' daeth y côr adref gyda'r wobr gyntaf, sef Tlws Coffa Wyn, Cae Glas (yn rhoddedig gan Meibion Prysor) a £70.

Llun Eray Guner
Doedd fawr o amser i ddathlu gan y byddant angen ail-ymgynnull i ymarfer yn syth ar gyfer cystadleuaeth y corau merched yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru ar Dachwedd y seithfed.

Yn gôr cyntaf y gystadleuaeth i gamu ar lwyfan Venue Llandudno, cafwyd perfformiad penigamp gyda phrofiad Sylvia Ann Jones yr arweinyddes, yn disgleirio trwy'r rhaglen amrywiol ac eang ddewisiwyd ganddi.

Roedd mwynhad y merched yn amlygu ei hun, yn enwedig yn eu perfformiad o 'Hail Holy Queen' allan o'r ffilm Sister Act, ble cafodd offerynnau taro a chlapio eu hychwanegu i gyfeiliant arbennig arferol Awen Davey.

Wedi cystadleuaeth gref rhwng y pum côr gyda thri beirniad profiadol yn gwylio a gwrando pob gair a nodyn gan lynnu at reolau a phob cyfyngiad amser, dyfarnwyd Côr Rhiannedd y Moelwyn yn fuddugwyr y gystadleuaeth, gan ennill tlws y wobr gyntaf a £500.

Wedi wythnos o ysbaid, bu'r côr wrthi unwaith eto efo perfformiadau yng Nghlwb y Ddraig Goch, noson Goleuo Stiniog, Nadolig y Pengwern, ac Wedi'r Ŵyl ym Mhentrefoelas ym mis Ionawr.

Mawr yw diolch y côr am gefnogaeth parod yr ardal pob amser.                      [Catrin Williams]
-------------------------------

Addaswyd o rifynnau Tachwedd a Rhagfyr 2015
.

24.1.16

Rhod y Rhigymwr- Plygain a Machlud

Erthygl gan Iwan Morgan.

Daeth blwyddyn eto i ben’ ydy’r agoriad i’r hen garol a gofnodwyd yng nghasgliad cynta’r diweddar Ganon Geraint Vaughan-Jones – casgliad a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1987. Gwnaeth Geraint lawer iawn dros achub yr hen draddodiad Cymreig o ganu carolau plygain. Fel Rheithor Mallwyd, Llanymawddwy a Chemaes, fe fu wrthi’n ddiflino am lawer blwyddyn yn casglu a diogelu’r carolau hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno yng ngwasanaethau’r Plygain a oedd mor gyffredin yn Ne Meirionnydd, Maldwyn a rhai mannau eraill yr adeg honno. Fel y gwyddom, mae’r arferiad o gynnal ‘Plygeiniau’ yn rhywbeth cyffredin a phoblogaidd bellach, a thrwy benderfyniad a dycnwch Pegi Lloyd Williams, mae’r brwdfrydedd bellach wedi cyrraedd y Blaenau.


Gellir dweud mai goroesiad ydy’r ‘Plygain’ o wasanaeth Nadolig o’r cyfnod cyn Diwygiad Protestanaidd yr 16eg ganrif, wedi ei addasu i siwtio’r amodau Protestanaidd newydd. Credir i’r arferiad gymryd lle Offeren Hanner Nos y cyfnod Catholigaidd, a chafodd canu’n yr iaith frodorol le amlwg yn dilyn derbyn Beibl Cymraeg William Morgan ym 1588. Ers talwm, dechreuodd gwasanaeth y plygain yn oriau mân y bore. Daw’r gair ‘plygain’ o’r Lladin, wrth gwrs, - ‘pulli cantio’ -‘cyn caniad y ceiliog.’

Un a wnaeth lawer i hyrwyddo gwasanaethau Plygain yn ddiweddar ydy Arfon Gwilym. Cyhoeddodd ef, a’i briod, y cerddor, Sioned Webb, ‘60 o Garolau Plygain ynghyd â chanllawiau ymarferol’ yn 2006. Carolau ydy’r rhain gan fwyaf ‘a gadwyd yn fyw mewn rhai ardaloedd yn unig, ond a anghofiwyd i bob pwrpas gan weddill y wlad.

Yn amlach na pheidio, cerddi crefyddol ac athroniaethol eu naws oedd y carolau hyn, ond roedd eu gwreiddiau yng nghanu gwerin poblogaidd eu dydd. Mae eu mydr yn aml yn gymhleth, ac fe’u cenid ar geinciau baledi poblogaidd. Fel arfer, mae’r carolau plygain yn hir – dros ugain a mwy o benillion. Yn ogystal â sôn am eni Crist, ceir cyfeiriad at y Croeshoeliad ynddynt yn ogystal.

Daeth y traddodiad o gyfansoddi a chanu carolau’n boblogaidd yn yr 17eg ganrif. Cyhoeddodd Charles Edwards ei ‘Llyfr Plygain gydag Almanac’ ym 1682. Y meistr pennaf ar gyfansoddi’n yr oes honno oedd Huw Morys (Eos Ceiriog), 1622-1709. Yn y 18fed ganrif, ceir nifer o garolau gan Jonathan Hughes yn ei lyfr – ‘Bardd y Byrddau’. Rhai o gyfansoddwyr carolau’n y 19eg ganrif oedd Gwallter Mechain, Dafydd Ddu Eryri, Eos Iâl, Ab Ithel ac Elis Wyn o Wyrfai i enwi ond ychydig.

Addas i ni yn ardal ‘Llafar Bro’ ydy cofnodi carol a gyfansoddwyd gan Humphrey Jones ‘Bryfdir’ (1867-1947’ – ar gyfansoddiad hyfryd y cerddor Owain Huws Davies o’r Blaenau – ‘Dim Lle yn y Llety’. Tybed faint ohonoch sy’n gyfarwydd â hi:

Ar ryfedd daith flinedig, faith
Bu Mair a Joseff, trist yw’r ffaith,
Cyn gweled Bethlem dref;
Mynd heibio iddynt wnâi y llu
Heb ystyr fod y ddeuddyn cu
Ar neges dros y nef,
Ac oerach na’r iâ ar y palmant fu’r gair:
‘Dim lle yn y llety i Joseff a Mair’.

Dolefai’r gwynt o lwyn i lwyn
Tra Mair mewn ing sibrydai’i chŵyn
Yn ddistaw wrth y nos;
Yn sŵn gorfoledd tyrfa fawr
Ei grudd oedd laith gan ddagrau’n awr
Fel grudd y lili dlos;
Y gair a glybuwyd dywyllodd yr aer:
‘Dim lle yn y llety i Joseff a Mair’.

Agorwyd drws y preseb tlawd
I Mair a Joseff, ddrwg eu ffawd,
A’r nos yn duo’r nef,
Ac yno mewn tawelwch trist
A thlodi, ganwyd Iesu Grist
Tu fas i rwysg y dref;
Sisialai yr awel rhwng cangau yr yw:
‘Dim lle yn y llety i Iesu Fab Duw’.

Mae’r byd mewn gorymdeithiau fyrdd
Yn dringo hyd drofaog ffyrdd
I wyliau clod a bri;
Ni sylwa ar gardotyn llwm
Yn gam ei gefn o gwm i gwm,
Ni chlyw ei ingol gri,
Cau drws ar y truan wna balchder y byd:
‘Dim lle yn y llety i Iesu o hyd’.


******

Cymylwyd ardaloedd Ardudwy a Ffestiniog o glywed am farwolaeth Haf Williams (Thomas gynt). Bu’n athrawes gydwybodol a phoblogaidd yn Ysgol y Moelwyn am 34 o flynyddoedd (1976 -2010). Fe’i cofiaf hi’n ferch ifanc benfelen, hwyliog, dlos  yn cyrraedd Coleg y Drindod, Caerfyrddin ym mis Medi 1971. Fe’i magwyd yng Nghaerdydd a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd. Un a ddechreuodd yn y Coleg yr un pryd â hi oedd Gerallt Rhun, Trawsfynydd (Rhydymain yr adeg honno). Yn y gwasanaeth a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Tanwg, Harlech, cyflwynwyd yr englyn canlynol a ysgrifennodd Gerallt er cof amdani:
Machlud Haf (Medi 2015)
Mae ing Haf bach Mihangel. – Bowlia’r
       Goch belen dros orwel;
Yn ddifraw, llithra’n dawel
I hedd hir y nos a ddêl.
Ar y 25ain o Dachwedd, roedd hi’n flwyddyn ers i’r un dwy ardal golli un o bileri cymdeithas – un arall y bu ei enw’n perarogli dros gyfnod maith. Cyfeirio’r ydw i at y diweddar Frawd Arwel Jones, Erw Las, Bethania – fu’n bennaeth Ysgol y Moelwyn o 1986-92, yn weinidog gydag enwad y Bedyddwyr Albanaidd am 30 mlynedd ac yn gynrychiolydd tre’r Blaenau fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd am rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol. Dymuniad aelodau Rehoboth, (y ‘Capel Ucha’), Harlech oedd gosod plac coffa ar un o’r muriau, a braint ac anrhydedd i mi oedd cael gwahoddiad gan y Chwaer Bethan Johnson i lunio cwpled i’w osod arno - esgyll yr englyn canlynol - er cof annwyl amdano:
Bu inni’n ‘Frawd’ arbennig, - un fu’n gefn,
    Yn gaer, mor frwdfrydig;
Un oedd ef na wyddai ddig,
Un oedd yn ŵr bonheddig.
-----------------------------------------

Addaswyd o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr 2015.
Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

22.1.16

Pobl y Cwm- addoli

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Pennod arall o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.
 
Roedd mynd ar grefydd y pryd hynny, roedd o yn rhan o'n bywyd bob dydd ni. Byddai cyrchu cyson i'r addoldai, a fawr neb yn cwyno ar ei fyd. Roedd yn pentre Llan Ffestiniog (Llan ar lafar gwlad) y pryd hynny Eglwys a'i henw St Michael.

Eglwys Sant Mihangel. Llun Paul W, Tachwedd 2015
Capeli yr amser hynny: Bethel. Capel Wesla, Shiloh. Capel Peniel, Methodist, a Capel Engedi, Methodist. Hefyd capelau bach y wlad, Y Babell, cangen o eglwys Engedi. Horeb a Rhydsarn, canhenau o eglwys Peniel, a capel bach Pant Llwyd, yn rhanog o Peniel a Engedi.

Byddai gwasanaeth tair gwaith ar y Sul yn yr Eglwysi a ryw ddwywaith yn y capeli bach, a gwasanaeth tair gwaith pob wythnos, cyfarfod gweddi, Seiat, Gobeithlu, ac yn aml iawn cyfarfod darllen yn y Babell.

Byddai gan bob enwad un wyl arbenig bob blwyddyn. Yn Peniel, ar y Pasg, dechreu ar nos Sadwrn tan nos Lun, dwy pregeth nos Sul a nos Lun, naw o bregethau. Byddai y pentre i gyd yn uno, a neb yn blino. Bethel yn cynnal yr wyl ar yr ail Sul yn Gorphenaf, dechreu nos Sadwrn tan nos Sul. Shiloh yn cadw eu gŵyl ar y Sul cynta o Hydre, o nos Sadwrn i nos Sul, a byddent yn cael benthyg capel Peniel yn aml iawn, an fod Shiloh yn rhy fach, gan fod y pentre i gyd yn uno, a phawb yn ffyddlon a hapus o gael cyfle i glywed y newyddion da.

Hanes Cynta'r Achos yn y Babell Newydd o 1904-1946

Rwy'n cofio yn dda yr Hen Babell, a dod i'r Babell Newydd. Yn yr hen Babell y dysgais yr ABC, adnodau a'r penillion cynta a Rhodd Mam. Diwrnod mawr yn Cwm Cynfal oedd diwrnod agor y Babell newydd, Mehefin 1904.

Llun Paul W, Mai 2015
Bu paratoi brwd gan bawb yn y Cwm at yr amgylchiad, a gwawriodd y diwrnod yn heulog a braf, a bobl yn dylifo yno o bob cyfeiriad. Bu tair pregeth yno, a'r capel bach yn orlawn bob oedfa. Y cynta i bregethu yno oedd Parch Thomas Lloyd, gweinidog Engedi, cangen o eglwys Engedi oedd y Babell y pryd hynny. Yr Emyn gynta a ganwyd oedd Emyn 207:
'Dyma Babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed.'
Roedd digon o luniaeth wedi ei baratoi yn y ffermydd o gwmpas i'r dieithriaid, a'r croeso yn gynnes a siriol. Bu pregethu grymus ac effeithiol dan fendith Duw, a daeth pawb yn ôl i'w cartrefi wedi clywed y newyddion da yn y Babell newydd am y tro cynta.

Roedd Cymru gyfan ar dân y pryd hyny dan ddylanwad ac effeithiau y Diwygiad, pawb yn cyrchu tua'r capeli, o bob man. Bob capel yn y trefi a'r wlad yn orlawn. Roedd hyn wedi effeithio yn fawr ar y ddiadell yn y Babell.

Roedd pregeth yno bob pnawn Sul. Yr ysgol Sul yn y bore. Byddent yn cydnabod y Deg Gorchymyn a'r Gwynfydau bob yn ail y Sul cynta yn mhob mis. Cyfarfod Gweddi nos Lun, Cyfarfod darllen nos Fawrth, Seiat nos Iau, a'r gobeithlu nos Wener.

Roedd Cwm Cynfal yr adeg hono yn mynychu Y Babell fel un, pawb o bob enwad, doedd dim gwahaniaeth, y ddwy ochr i Afon Cynfal, heb fod ymhell o ryw dri dwsin o ffermydd mawr a bach. Dau deulu o Saeson oedd yn byw yn y Cwm yr adeg honno, un yn Hafod Fawr Ucha a'r llall yn y Wenallt.

Nid oedd pawb o bob man yn dod i'r Babell yn rheolaidd, eraill yn ffyddlon a chyson yn mhob cyfarfod, rhai eraill yn dod ar rhyw achlysuron neillduol fel cyfarfod Diolchgarwch, neu gyfarfod llenyddol, neu i roi help gyda'r canu at rhyw gystadleuaeth arbennig.

Roedd yn rhaid cael rhywun i lanhau ac i edrych ar ôl y capel bach, a disgynodd hynny i ran fy mam, felly cefais i a fy chwaer y fraint yn ieuanc i fynd yn ôl a blaen i'r capel gyda Mam i'w lanhau. Rhyw naw oed oeddwn ar y pryd, a fy chwaer fach ryw bedair oed.
---------------------------------------


Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn 2000.
 
Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

20.1.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- 'bywyd mewn mwd a llaid'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
 
Ymddangosodd pedwerydd llythyr y Lefftenant Evan Jones (Rhosydd) o'r ffosydd ar dudalennau'r Rhedegydd ar 18 Rhagfyr 1915, ac yntau'n cynghori'r golygydd... 'Os gwelwch hynny yn briodol, gellwch roddi yr hyn sydd na fydd yn fantais i'r gelyn yn y "Rhedegydd."
Aiff ymlaen i ddisgrifio'r amgylchiadau'n eglur i'r darllenwyr.   
Mae yn dda gennyf fi a'r bechgyn oll ein bod wedi dod allan i wneyd ein rhan bach...pe buasai cyflwr ein gwlad heb fod y peth ydyw, ac nid cyflwr ein gwlad ni yn unig, ond tynged y byd gwareiddiedig, mai gwell fuasai cael hapusrwydd gartref. Ond mae bywyd o wyliadwriaeth yn y trenches mewn mwd a llaid, oerni a gwlaw, a cheisio cysgu ar enw o wely yn y ddaear, a llygod mawr yn poeni enaid dyn, yn rhoddi mwy o hapusrwydd i gydwybod dyn na byw adref fel Canary. Yr ydwyf yn disgwyl y gwêl Duw yn dda o'i drugaredd roddi iechyd i ni oll fod yma hyd y diwedd, a chael gweled cyfiawnder yn dwyn barn i fuddugoliaeth. Carem fyw yn mhob ystyr, ond gwell marw mewn gwlad estronol fel gwirfoddolwr, na gorfod mynd pan mae pethau yn rhy hwyr. Mae genyf gaib (pick) wedi ei pacio i chwi i'w chadw neu ei rhoddi yn y Library. Nid wyf yn meddwl y caf ei hanfon, ond deuaf a hi pan yn dod am dro. Daethum ar ei thraws yn eigion y ddaear nos Fercher. Cewch weld sut shâp sydd arnynt...Yr oedd y tir yn glaiog ac yn ogleuo ffrwydron...Bu Bob Jones a finnau dan dân am rhyw hanner awr ddoe. Yr oedd Bob Jones (Wrexham) yn bwydo y Canaries wrth ddrws y caban yn y trenches. Mae yn rhaid eu bod wedi ei spotio. daeth bwled drwy y Sandbag, a chyn pen tri munyd yr oedd tri ar ddeg o fwledi drwy yr un twll. Fe aethom oddiyno ar ein pedwar, rhag ofn mai bomb fyddai y nesaf. Nid wyf am fynd yno eto...
Yn ogystal â'r uchod, cyhoeddwyd llythyr Evan Jones arall, sef y Sapper o'r un enw o griw'r mwynwyr o 'Stiniog. Digon hiraethus oedd geiriau'r Sapper Jones:
Tra mewn unigrwydd 'hedodd fy meddwl ar ei aden atoch. Yr oeddwn yn gweled y dorf gariadus honno o fy mlaen yn eglur, sef y noswaith ein hymadawiad oddiyna i faes y gyflafan, yn wir, yr oedd y teimlad yn angerddol. Peth mawr i ardal a phob pentref yw ffarwelio a brodyr a chwiorydd, yn enwedig i fynd i faes y gwaed, ac felly i'r sawl sydd yn ffarwelio a'i aelwyd a'i gartref. Ond wedi'r cyfan, y mae y teimlad yn cyfnewid, yn enwedig wedi cyrraedd yr ochr hon. Ofn y mae dyn yn gweled beddau ei gyd-frodyr ar y maes yma, a'r brodyr hyn wedi sefyll hyd fedd dros ryddid a chyfiawnder. Mae'r dyn yn ennill nerth i sefyll yn wrol dros gyfiawnder yr un fath...Yr ydym wedi gweled rhyfeddodau mawrion erbyn hyn, ac os bywyd ac iechyd a gawn, i ddod adref eto, ni a fyddwn yn dystion o'r pethau mawrion a'r gyflafan mwyaf erchyll a welodd y byd erioed. Does gan neb ond y sawl sydd ar y maes heddyw syniad am allu a chryfder Prydain Fawr. Ni raid i neb yn Nghymru fach ofni dim mwyach, - y mae pob ergyd ar ôl ergyd yn dweyd "never," a phob milwr yn ei weithredoedd yn dweyd "never be slaves"...
Erbyn diwedd 1915, yr oedd tudalennau o enwau colledigion a chlwyfedigion wedi ymddangos ar dudalennau papur wythnosol 'Stiniog, a phapurau wythnosol eraill. Ymddangosodd lluniau o filwyr oedd yn gwasanaethu, a'r rhai a laddwyd, ac a glwyfwyd dros yr wythnosau. Cynyddodd niferoedd yn llythyrau a anfonwyd o'r ffrynt i deuluoedd ym mhlwy Ffestiniog wrth i'r flwyddyn dynnu at ei therfyn.

Yn wahanol i'r sefyllfa dros fisoedd cyntaf y rhyfel, pryd y cyhoeddwyd adroddiadau am yr ymgyrch recriwtio, ac am y cyfarfodydd cyhoeddus niferus yn ymwneud â hynny, roedd yr adroddiadau erbyn diwedd 1915 yn canolbwyntio mwy ar y digwyddiadau ar faes y gad. Roedd llai o bwyslais i'w weld ar geisio codi cywilydd ar y rhai nad oeddynt wedi ymuno, a mwy ar amgylchiadau yn y ffrynt.

Ond, yr oedd gorfodaeth filwrol yn agos, a byddai adroddiadau am y tribiwnlysoedd a gynhelid drwy'r sir yn cael sylw cynyddol o 1916 ymlaen.

Isod - Rhestr o enwau rhai o'r mwynwyr o Stiniog a ymrestrwyd gyda pherswâd Evan Jones, Rhosydd:

Robert Jones, Newborough St.:Thomas W.Owen, Maenofferen; Robert M.Hughes, Manod Rd.; Sapper Evan Jones, (wedyn Is-gorporal), High St.; Abraham Jones, Tanygrisiau; William Humphreys, Manod; John Roberts; Bob Roberts: Robert Roberts (tad y ddau flaenorol); John Jones, Glynllifon St.; Sapper Robert Humphreys, Manod Rd.; Phillip Woolford, Llan; Robert Morris, Plas Weunydd Lodge; David Joseph Jones, Bryn Bowydd; R.T.Jones, Lord St; Robert Morris, Glanaber; Rees Roberts, Lord St.

Ymrestrodd Caradog Jones a Rhys Roberts ar y dechrau hefyd, ond gorfu i'r ddau ohonynt ddychwelyd oherwydd gwaeledd iechyd. (Rhedegydd 1 Ebrill 1916).
-----------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2015.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. 

18.1.16

Naw llythyr i Mark Drakeford

Y diweddaraf o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Goffa.
(O rifyn Ionawr 2015)

Bydd llawer ohonoch yn cofio gweld datganiad Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, yn y wasg ar Ragfyr 17eg yn cyfeirio at gynlluniau’r Betsi ar gyfer adeilad yr Ysbyty Coffa. Rhag ichi gael eich twyllo, cyfeirio at yr un cynlluniau yn union oedd o ag a gafodd eu llunio gan y Bwrdd Prosiect ddwy flynedd yn ôl.

Felly, pam deud yr un peth eto ond mewn geiriau gwahanol, fel petai’n rhoi rhyw anrheg Nadolig hael inni? A pham gneud y datganiad hwnnw ddiwrnod yn unig cyn i’r Senedd gau dros y gwyliau, sef yr adeg y mae gwleidyddion Llundain yn ei alw yn ‘graveyard period’? Hen dacteg warthus ac annemocrataidd ydi hon gan weinidogion y Llywodraeth, er mwyn gwarafun cyfle i aelodau etholedig herio eu cynlluniau amhoblogaidd.

Ar Radio Cymru, ychydig cyn y Nadolig, roedd ein haelod ni yn y Cynulliad yn traethu’n huawdl iawn ar ryw fater neu’i gilydd oedd yn bygwth y drefn ddemocrataidd ym Mae Caerdydd. Byddai’n rhaid cynnal refferendwm ar beth felly, meddai, gan mai dyna’r ffordd ddemocrataidd o weithredu. Ac roedd o yn llygad ei le, wrth gwrs! Wedi’r cyfan, onid dyletswydd gwleidyddion o bob plaid ydi cynrychioli llais a lles y rhai sydd wedi eu hethol nhw i’w swyddi yn y lle cyntaf, yn hytrach na dilyn eu mympwyon a’u hamcanion hunanol eu hunain?

Ers iddo gael ei benodi yn 2013 i’w uchel (ac arswydus) swydd, mae Mr Drakeford wedi derbyn 9 o lythyrau maith a manwl oddi wrth y Pwyllgor Amddiffyn yn tynnu ei sylw at broblemau’r ardal hon o ganlyniad i benderfyniadau trychinebus y Betsi. Fe gaed rhyw fath o ymateb oddi wrtho i’r llythyrau hynny, ond dewis anwybyddu’r dadleuon mae o wedi’i neud, dro ar ôl tro, gan guddio tu ôl i’r esgus  ‘Wna i ddim ail-agor materion y cafwyd cytundeb arnynt yn lleol.’ Cytundeb gan bwy yn lleol, felly?

Yn sicr nid gan drwch poblogaeth yr ardal hon! 

Fel swyddogion y Betsi, mae yntau hefyd yn dewis troi clust fyddar i lais y werin bobol trwy anwybyddu protestiadau cyhoeddus a ralïau, a chanlyniadau holiaduron, deisebau a dau refferendwm. Mewn geiriau eraill, mae’r Gweinidog Iechyd yn wfftio at y drefn ddemocrataidd y mae Dafydd Elis Thomas (o bawb!) yn dadlau mor gryf o’i phlaid!

Dros y deunaw mis diwethaf, mae Mr Drakeford wedi derbyn cymaint â 5 cais i gyfarfod  dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn ond er inni gynnig mynd i lawr i Gaerdydd i’w weld, gwrthod mae o wedi’i neud bob tro. ‘It would not be appropriate for me to meet the Defence Committee to discuss this matter’, meddai, ond heb byth egluro pam. Sy’n profi bod Dafydd Elis Thomas unwaith eto’n iawn i awgrymu nad ydi rhai gwleidyddion yn gwybod ystyr y gair ‘Democratiaeth’, neu mi fydden nhw’n barotach i roi lles eu hetholwyr o flaen unrhyw amcan personol arall.
.................................

Sawl gwaith sydd raid taro’r post er mwyn i’r pared glywed?                                  
Oherwydd bod nifer y cwynion y cawn ni glywed amdanynt yn cynyddu o wythnos i wythnos, yna mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi penderfynu trefnu cyfle i bawb ohonoch, sy’n dymuno hynny, gael cofnodi unrhyw gŵyn(ion) ar daflen arbennig, ac i ganmol hefyd, wrth gwrs, os mai dyna’ch dymuniad.

Ar Ionawr 18fed, dair blynedd union yn ôl, fe bleidleisiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gau ein Hysbyty Coffa a rhuthro i neud hynny’n syth wedyn er mwyn cael trosglwyddo’r nyrsys a’r staff i gyd i lawr i ysbyty newydd Alltwen, fel ffordd hawdd o ddatrys y problemau staffio dyrys yn fan’no. Ac fel y gŵyr pawb ohonoch, bellach, dyna pryd y cychwynnodd problemau’r ardal hon.

Yn ystod y dair blynedd a aeth heibio, ydi pethau wedi gwella yn eich barn chi? Er enghraifft, pa mor fodlon ydych chi efo’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y Practis Meddygon ers i’r Betsi gymryd gofal o hwnnw? Beth am hwylustod neu anhwylustod trefnu apwyntiad Pelydr-X yn Alltwen neu dderbyn triniaeth mân anafiadau neu driniaeth ffisiotherapi yn lleol yn Stiniog?

Beth yw’r anawsterau i chi, bobol Dolwyddelan a Llan, ymweld â’r feddygfa yn Blaenau? Beth mae’n ei olygu i rai ohonoch orfod teithio i Alltwen neu Ddolgellau, a hyd yn oed i Bryn Beryl neu Gaernarfon, i ymweld ag anwyliaid sy’n gleifion-tymor-hir yn yr ysbytai hynny?

Os oes gennych gŵyn o unrhyw fath, bach neu fawr, yna, da chi, manteisiwch ar eich cyfle i’w chofnodi hi.

I’r pwrpas hwn, bydd y Pwyllgor Amddiffyn yn trefnu cyfleon ichi lenwi’r ffurflen gŵyn, os mai dyna’ch dymuniad.

Mae’r Mid Wales Health Collaborative Board, sef y Bwrdd sydd, ar hyn o bryd, yn ystyried ffyrdd o ad-drefnu ac o wella’r gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru, yn dangos cryn ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn yr ardal hon, sef Ucheldir Cymru ac, yn ôl a ddeallwn, maen nhw’n bwriadu cynnal dwy sesiwn eu hunain yn nhre’r Blaenau ar Chwefror 11eg (pnawn a min nos), er mwyn rhoi cyfle i chi, bobol yr ardal, gael deud eich deud unwaith eto. Felly gwnewch nodyn o’r dyddiad oherwydd, ar yr un diwrnod, bydd y Pwyllgor Amddiffyn yn dosbarthu ffurflenni i bwy bynnag fydd â chŵyn i’w gneud.

Mae’n arwyddocaol bod y Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC) hefyd yn bwriadu anfon cynrychiolwyr i Stiniog ar Chwefror 9fed. Felly, os oes gennych chi deimladau cryfion ynglŷn â’r sefyllfa, yna mae mor bwysig eich bod chi’n manteisio eto ar eich cyfle!  
Go brin y bydd cyfle arall ar ôl hwn.

Gyda llaw, nid pawb sy’n prynu nac yn darllen Llafar Bro, felly rydym yn gofyn ichi neud gwaith cenhadu ymysg y bobol hynny, i’w siarsio nhwtha hefyd i fanteisio ar eu cyfle. Diolch o galon.
GVJ

17.1.16

Pulpud Huw Llwyd

Dyma'r llun oedd i fod i ymddangos yn rhifyn Ionawr 2016!

Ar dudalen 12, dan y pennawd 'PULPUD HUW LLWYD DAN WARCHAE' cafwyd cyfeiriad at lun o'r Pulpud a'r afon mewn llif. Ond, roedd y golygydd wedi gyrru llun arall i'r wasg hefyd er mwyn dangos y Pulpud pan nad oedd fawr o ddŵr yn Afon Cynfal.

Oherwydd diffyg lle, dim ond un o'r ddau lun oedd y wasg yn medru ei gynnwys. Ia, dyna chi: yr un anghywir! Felly dyma gyhoeddi'r darn eto, y tro hwn efo'r llun cywir:


"...diolch i Tecwyn Vaughan Jones am y llun hwn o Bulpud Huw Llwyd o dan warchae yn ystod llifogydd mis Rhagfyr. Er ei holl ddoniau a'i ddewiniaeth, go brin y byddai Huw Llwyd ei hun wedi gallu dringo i ben hwn!"
------------------------

Cliciwch ar y ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geirau ar y dde, am gyfeiriadau eraill ar wefan Llafar Bro, at y Pulpud.

(Gallwch ddarllen eginyn erthygl am Huw Llwyd -a llun y pulpud heb lif yn yr afon- yn fan hyn ar wefan Wicipedia.
Mae gweinyddwyr gwirfoddol Wicipedia, y Gwyddoniadur Rhydd, yn apelio am wirfoddolwyr newydd i ychwanegu mwy o wybodaeth i'r erthygl, ac i ychwanegu erthyglau eraill ar bob pwnc dan haul hefyd.)
 

16.1.16

Sgotwrs Stiniog- helfa dda

Llun- Paul W.
Erthygl arall o gyfres bysgota y diweddar Emrys Evans. 

Blwyddyn Newydd Dda i holl sgotwrs yr ardal ac i holl garedigion ‘Llafar Bro’, pa le bynnag yr ydych, ymhell ac yn agos. 


Cododd fy nghyfaill Vivian Parry Williams hanesyn bach diddorol o’r hen bapur newydd, ‘Baner ac Amserau Cymru’ a’i roi o imi yn ddiweddar.  Dyddiad y papur ydi yr 16eg o Awst 1871.  Fel hyn y mae’r hanesyn yn y papur.
‘Y dydd o’r blaen daliodd boneddwr o Leamington ‘salmon’ anferth yn afon Conwy.  Erbyn ei agor cafwyd ei fod wedi lyncu llysywen fawr, a bwysai dros ddau bwys.  Erbyn ei hagor hithau drachefn cafwyd brithyll, ymysg pethau eraill o’i fewn a bwysai 1¾ pwys, ac erbyn agor y brithyll yr oedd yntau wedi llyncu wyth o bilcod (minnows), oll yn gwneud cyfanrif o un-ar-ddeg o bysgod'.

Dyna helfa go dda ar un tafliad, ynte?  Fel y dywedir, a cheisio cyfieithu ymadrodd o’r Saesneg. ‘Mae y gwir yn rhyfeddach yn aml na ffuglen.’  Tybed a oes rhywun o ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ wedi cael profiad rhywbeth yn debyg i hyn?  Byddai’n ddiddorol cael yr hanes, neu hanes ryw ddigwyddiad anghyffredin arall o fyd y pysgod.  Anfonwch air.  Diolch i Vivian am yr hanesyn yma.  Melys moes mwy.

Ychydig cyn y Nadolig bum yn mynd drwy ‘Lawlyfr y Pysgotwr’, sef llyfryn o waith William Roberts, Ty’n y Maes, Bethesda.  Cyhoeddwyd y llyfryn yma yn 1899, ac er nad wyf yn berffaith sicr o hynny, mi dybiwn i mai hwn yw y cyntaf o’i fath yn Gymraeg.

Ceiliog hwyaden corff lliw gwin*

Ei gynnwys, yn bennaf, yw patrymau plu, ac mae gan William Roberts ei ddull a’i ffordd ei hun o’u cyfleu.  Dyma enghraifft ganddo: ‘Aden Ceiliog Hwyaden ar gorff lliw gwin a thraed duflaengoch.’  Dyma ein ‘Ceiliog Hwyad Corff Lliw Gwin’ ni.

Plu ar gyfer afonydd a llynnoedd ardal Bethesda, Llanberis ac i lawr Dyffryn Llugwy sydd ganddo yn bennaf.  Ond ar dudalen olaf ei lyfryn mae William Roberts yn rhestru ychydig o blu ar gyfer ‘Llynnoedd Ffestiniog’, ac yn dweud

....Bum yn gweithio o blu i rai o’r cyfeillion yn y lle.  Plu dipyn yn fras a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin gan y pysgotwyr.’  Yna mae’n rhoi patrymau ugain o blu, gydag aml i hen ffefryn yn eu plith.  Mae chwarter y plu a chorff paun ganddynt, a naw allan o’r ugain a thraed ‘du-flaengoch’ iddynt.

Wn i ddim am rai eraill sy’n cawio plu ond tydw i ddim wedi gwneud fawr ddim deunydd o blu yr aderyn pioden.  Mae gan William Roberts ymhlith y plu yma ar gyfer Llynnoedd Ffestiniog batrwm a phlu pioden ynddo, ‘Aden Bioden ar gorff paun a thraed du-flaengoch.’

Mae hwn yn batrwm newydd i mi cyn belled ag y mae ‘Plu Stiniog’ yn bod.  Oes rhywun arall yn gwybod amdano neu wedi clywed amdano?
---------------------------------

*Llun y bluen gan Gareth T Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2005 lle gallwch weld patrwm ei chawio hi hefyd.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1998.
Dilynwch gyfres Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

14.1.16

Stolpia- Clychau

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Erbyn i’r rhifyn hwn o ‘Llafar’ ddod o’r wasg byddwn ni wedi canu clychau’r Flwyddyn Newydd i mewn, oni byddwn?  Dwn i ddim pa bryd y dechreuwyd ar y traddodiad hwn o’u canu ar drothwy blwyddyn newydd, ond mi wn fod defnyddio clychau at wahanol ddibenion yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer.

Dywedir mai carreg oedd deunydd y clychau cynharaf ... ac onid un o ymadroddion y chwarelwr pan gaiff garreg (llechen) dda a honno’n tincian wrth ei tharo a morthwyl yw ....
‘y mae hon yn canu fel cloch’.  
Ac yn wir, o astudio tarddiad y gair ‘cloch’ yn y Gymraeg a’r Wyddeleg gwelir ei fod yn berthynas agos i’r geiriau canlynol – clogfaen (boulder), clogwyn, clogwrn,  clegyr, ayyb.   Yn ôl rhai geiriaduron tardda’r geiriau Saesneg ‘clock a ‘cloak’ o’r un fynhonnell, sef o’r hen air Celtaidd am garreg.

O beth gofiaf, y gloch hynaf y gwn i amdani hi yn y cyffiniau hyn yw ‘Gloch Wyddelan’, sef yr hen gloch Geltaidd honno a ddarganfuwyd yn naear Bryn y Bedd, Dolwyddelan rywdro yn y 19eg ganrif, ond sy’n dyddio’n wreiddiol mor bell yn ôl a’r chweched neu’r seithfed ganrif, o bosib.  Cofier mai cloch law wedi ei wneud o efydd yw hon ac yn ymdebygu mewn ffurf i’r clychau a welir am yddfau gwrtheg yn y Swistir, ayyb.  Gellir gweld y gloch hon yn hen Eglwys Sant Gwyddelan yn Nolwyddelan hyd heddiw.

Ceir lliaws o gyfeiriadau at glochdai a chlychau yn ein hanes a’n llenyddiaeth, oni cheir?  Sut bynnag, nid wyf wedi taro ar ryw lawer o hanes clychau’r ardal hon, boed yn rhai eglwysig, neu rai’r ysgolion, neu hen glychau’r chwareli.  Tybed o ble y byddent yn cael y gwahanol glychau yma,  .... a faint oeddynt yn gostio i’w gwneud ayyb?

Cloch Ysgol Rhiwbach. Llun VPW

Fel y gwyddoch, mae cloch yr eglwys yn dal i gael ei chanu yn y Blaenau, onid yw?  Ond, a ydych wedi meddwl faint o glychau a fyddai’n cael eu canu yn y cylch yn y ganrif ddiwethaf?

Wel, yn gyntaf, ceid pedair eglwys yn y plwyf .... i gyd gyda’u cloch.  Yna, byddai rhai o’r ysgolion gyda chlochdwr a nifer o glychau llaw, oni byddai?

Cyn dyddiau’r cyrn, byddai clychau yn ein chwareli, yn ogystal.  Dywedir fod un yn Chwarel Holland ac un yn y Gloddfa Ganol ar un adeg ... ac yn ôl pob son, roedd un y Gloddfa yn llawer mwy soniarus nag un Holland, a gelwid hi’n ‘Single Airy’ am ryw reswm.  Credaf mai ar ben yr inclên a gladdwyd o dan ‘Domen Fawr Oakeley’ oedd un Chwarel Holland.

Clywais hefyd y byddai hen gloch llong ar un o incleiniau tanddaearol Chwarel Cwm Orthin ar un adeg.  Tybed pwy all roi mwy o hanes clychau’r chwareli inni?

Yn nyddiau cynnar y gwasanaeth post byddai gan y llythyr-gludydd gloch fach i’w chanu er mwyn tynnu sylw’r trigolion a fyddai eisiau postio’u llythyrau, neu’n disgwyl llythyr oddi wrtho.  Byddai gan y cyheddwr tref (town crier) gloch i alw pobl ynghyd, hefyd .... a phwy sydd yn ddigon hen i gofio ‘clychau llefrith’ Ffestiniog?  Yn y flwyddyn 1887 ysgrifennwyd cân iddynt gan un yn galw ei hun yn ‘Ysbryd Huw Llwyd’.  Dyma bennill neu ddau ohoni:

‘Clywais son am gloch y Bala
A chloch Moscow fawr yn Rwsia
Ond beth ydynt i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Casglwch glychau’r greadigaeth
Dewch a hwy i gystadleuaeth
Rhoir y wobr i ardderchog
Glychau llefrith yn Ffestiniog.

Os nad wyf yn cyfeiliorni, bu cwyn am yr holl glychau hyn gan amryw o bobl yr ardal, a bu’r hanes yn y papurau lleol.  Credaf y bu’n rhaid iddynt gwtogi ar eu nifer yn y diwedd.  Pa fodd bynnag, pa bryd y rhoddwyd y gorau i’w defnyddio?  Oes ‘na un neu ddau o’r darllenwyr hynaf yn cofio’r clychau llefrith?

Heb os nac onibai, y mae llawer ohonom yn cofio cloch Mr Taddei yn cael ei chanu pan fyddai yn dod o amgylch y dref gyda’i drol o hufen iâ blasus a diguro, onid oes?  Rwyf bron yn sicr fod cloch wedi bod y tu allan i’r hen orsaf dân a fyddai’n nhroed Clogwyn Bwlch y Gwynt hefyd .... ac y byddai’n canu pan oedd tân wedi torri allan yn rhywle yn y cyffiniau.  Yn ddiau, gall rhywrai roi mwy o oleuni ar y mater hwn inni, oni fedrent?

A dod yn ôl rwan at gloch yr eglwys .... a chloi ar nodyn digri o eiddo’r hen fardd cocosaidd, Ieuan Hengal y Traethau, a breswyliai’n Nhre Ddôl gerllaw’r Dinas ac Inclên Fawr Holland yn yr 1870’au:

‘Peth hardd yw cloch ar ben yr Eglwys
I wahodd y bobol i mewn yn daclus,
Yn lle dod yno ar y canol,
I wneud poen i bobol dduwiol!’

Yn ddiamai, y mae llawer mwy i’w ddweud am hen glychau’r ardal, onid oes?  Pa fodd bynnag, gadawaf hwy am y tro a dymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1999.
Gallwch ddilyn erthyglau Stolpia i gyd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

12.1.16

Mil Harddach Wyt- edrych ymlaen

Yn yr ardd efo Eurwyn.
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1999.
Yn yr Ardd Lysiau
Y mis yma rhaid archebu tatws hadyd a’u rhoi mewn bocs i egino.  Rhowch tail o amgylch y riwbob. 

Bydd angen tocio coed afalau a'u chwistrellu os oedd plau arnynt y llynedd, (efo dŵr sebon, neu gemegau, yn ôl eich anian -gol). 

Casglu hefyd be sydd yn cael ei alw yn glagur mawr oddiar goed cyrains duon a’u llosgi.  Gellir hefyd hau os oes gennych le cynnes i gychwyn yr had fel cenin a nionod.

Yn yr Ardd Flodau
Does dim i’w wneud yn yr ardd flodau ar hyn o bryd.  Ond mewn tŷ gwydr cynnes neu ar sil ffenestr yn y tŷ gellir hau ychydig o hadau fel pen ci bach (Anttirhinum) a phys pêr os na ddaru chwi wneud yn yr hydref. 

Llun- Paul W
Cychwyn Begonias a Glasinia hefyd os oes gennych wres.  Os nad ydych yn siwr wrth blannu bylbiau y Begonia pa ffordd i’w rhoi yn y pridd mae pant ar un pen ohonynt – rhowch y pant ar i fyny.  Mae'n anoddach gweld yn y Glascinia weithiau p’ryn yw y ffordd iawn i fyny.  Y ffordd orau yw rhoi dipyn o gompost di-bridd mewn bag plastig a rhoi y Glascinia yn y compost a’u rhoi yn y cwpwrdd dŵr poeth am tua bythefnos nes y byddent wedi egino ac wedyn eu plannu y ffordd iawn.

Yn gyffredinol bodiwch trwy y catalogau hadau, ac hefyd cynlluniwch beth i’w wneud, a be i'w blannu yn y gwanwyn.
----------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres trwy glicio'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. Diolch i Eurwyn o Feithrinfa'r Felin, Dolwyddelan.
Mae llawer mwy o hanesion garddio yn Stiniog ar wefan Ar Asgwrn y Graig hefyd.

10.1.16

Tanygrisiau Ddoe- Yr Ysgol

Pennod tri yng nghyfres Mary Jones am y gymuned rhwng 1920-36.
 
Y cof cyntaf sydd gennyf o fynd i’r ysgol oedd pan oeddwn ychydig dros dair oed. Cefais i fy hun yn nosbarth y babanod yn ddigon di-seremoni fel a gofiaf ymysg gryn ddau ddwsin o blant gwinglyd a swnllyd fel finnau. Gyda phleser cofiaf y dosbarth a’r athrawes a’r llais mwyaf addfwyn.

Dysgodd i ni ganu –y gân yma fyddai cân yr ysgol fach bob bore:
    “Diolch i ti Arglwydd,  
     Am dy ofal cu,
     Drwy’r hirnos dywyll, 

     Gwyliaist drosom ni.”

Symud wedyn i’r dosbarth 1af a dysgu ysgrifennu a darllen a gwrando ar stori cyn mynd adre’n y pnawn. Y llyfrau darllen fwyaf cofiadwy oedd Nedw, Hunangofiant Tomi. Roedd rhaid hefyd ddysgu darllen yn uchel ar ein traed a llyfr yn ein dwylo, naill ar ôl y llall yn darllen pedair brawddeg. Mr Jones oedd yn ein dysgu ac yn ein gorfodi i gofio bob gair, ac mi oedd pob un ohonom yn y dosbarth yn medru darllen cyn gadael.

Roedd y Prifathro yn rhoi gwersi i ni yn y bore – darlleniad o’r Beibl a barddoniaeth; ei ffefryn oedd Eifion Wyn. Un wers oedd Misoedd y Flwyddyn, gan ddarllen y bennill cyntaf o Ionawr, yna rhoi eglurhad (Wyt Ionawr yn oer a’th farug yn wyn / iar fach yr hesg / amser y flwyddyn / tywydd). Byddai bob un o’r gwersi yma ganddo yn cynnwys bywydeg, lleoliad, coed, natur, hanes, blodau, a gallu’r bardd gyda geiriau ac odlau. Rhaid oedd i ni gofio’r rhain hefyd er mwyn eu darllen allan. Rhoddodd Mr Jones hoffter i mi at lenyddiaeth Eifion Wyn ac am flwyddyn o wersi misoedd y flwyddyn.

Dim cinio ysgol, dim dŵr poeth yn y tapiau. Dim ond y plant hynaf oedd yn cael chwarae allan yn y tywydd oer iawn. Tân glo ymhob ystafell yn y gaeaf. Llechen las a phin sgwennu o lechen yw rhai o’m atgofion o ysgol y babanod yr adeg yma.

Y cof olaf sydd gennyf ein bod i gyd yn yr ysgol adeg lecsiwn a chael ein harwain allan at Siop y Post gan fod ryw g’warfod ar y groesffodd a chael ‘rosette’ coch ar ein brest a chanu “Rhowch Vote i John Jones Roberts” neu “Haydn Jones”. Nid wyf yn cofio yn iawn nag yn hidio llawer am y lecsiwn ar y pryd, ond ei fod yn hwyl.


LLUN.  Un o hen deuluoedd Tanygrisiau: rhieni, brodyr a chwiorydd Mary Jones. Tynnwyd y llun gan Ll. Griffiths yn y cae ger y bont, Tŷ’nddôl.
--

Yn yr haf byddem yn mynd i chwarae i Ddolrhedyn. Roedd yr afon yma yn lân iawn ac wedi cael argae yn y rhan uchaf, agosaf at rediad Pistyll Pant y Friog, a hynny yn gwneud pwll nofio da ac yn is i lawr roedd yna bwll bach arall: ‘Llyn hogia’ a ‘Llyn genethod’ fel y’i gelwid. Bu llawer iawn o hwyl diniwed yno. Roedd dynion hefyd wedi gwneud darn o dir o flaen rhes West End yn gae i chwarae coets (quoits), a byddai gwŷr o bob oed yno yn cael gêm gyda’r nosau yn yr haf efo brwdfrydedd iach.

Byddem fel plant hefyd yn mynd am bicnic i Gwmorthin a sglefrio i lawr yr inclên trwy eistedd ar duniau rhostio. Roedd corlan ddefaid ym Modychain odditan y creigiau, lle byddai geifr yn dod i lawr (o flaen y glaw fel y dywedid!). A chofio fel y byddem yn gweiddi yn uchel “Nani-Goat -a-Bili-Goat-a-Bow-ow-ow”, er mwyn i’r eco o’n lleisiau ei daflu yn ôl. Roedd y garreg ateb yn gweithio bob tro a byddai y geifr yn sgrialu yn uwch i’r creigiau.

-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

8.1.16

Gwynfyd- crwydro

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.
 
Pur anaml y bydd neb yn cadw at eu haddewidion calennig, ond ar ôl Nadolig diog yn y tŷ 'cw, dwi am geisio crwydro rhywfaint o Wynedd, ac efallai ymhellach, yn ystod Ionawr a'r mis bach.

Dyma ychydig o syniadau am weithgareddau a dyddiau allan:
Cysylltir y goeden ywen â mynwentydd yn aml a chredir i bobl gynnar Ewrop, fel y Celtiaid, blannu'r coed bytholwyrdd yma ar eu safleoedd cysegredig, cyn i'r cristnogion godi eu haddoldai ar yr un safleoedd. Mae enghreifftiau gwych yn yr ardal hon, yn arbennig ym mynwent Maentwrog, ond gellir gweld coeden hynaf Cymru ger eglwys Llangernyw. Credir iddi fod dros 4000 o flynyddoedd oed.

Bydd nifer ohonom wedi tynnu’r addurniadau 'Dolig i lawr erbyn y 6ed -Gwyl Ystwyll- gan gynnwys yr uchelwydd (mistletoe). Dyma blanhigyn arall a ystyriwyd yn sanctaidd gan yr hen Gymry, ac mae'n ymddangos ei fod yn prinhau trwy Brydain. Tyfu ar goed derw a choed afalau y mae yn bennaf, ac mae’r Gymdeithas Fotanegol wrthi yn cynnal arolwg o'i ddosbarthiad, felly chwiliwch rwan tra bo'r coed heb eu dail.

Ym Mhen Llŷn ceir hen goel bod y brain yn priodi ar y 18fed o Ionawr, ac mae Porth Ceiriad yn un lle da i wylio aelod o'r teulu hwn, y frân goesgoch. Enw arall ar yr adar yma yw brân Arthur, ar ôl chwedl fod ysbryd y brenin yn byw ynddynt. Mae'r frân bellach wedi ei gyfyngu i'r gwledydd Celtaidd a De Ewrop, ond er nad yw wedi magu yng Nghernyw ers 1947*, mae'n cael ei ystyried yn aderyn 'cenedlaethol' yno o hyd.

Dafydd yn edmygu Pendraw'r Byd ac Ynys Enlli. Llun Paul W.
Mae'r olygfa tuag Ynys Enlli o'r Mynydd Mawr ym mhen pellaf Llŷn yn un cofiadwy iawn, ond gorau oll os byddech ddigon ffodus i fedru gwylio hebog tramor yn hela dros y creigiau yno.

Ar y 24ain o Ionawr, 1283 ildiodd y Cymry gastell Dolwyddelan i fyddin Edward y 1af; beth am daith yno eleni?

Ar y 25ain mae Gŵyl Santes Dwynwen, nawdd sant y cariadon. Mae Ynys Llanddwyn ym Môn, lle ceir weddillion eglwys Dwynwen yn safle arbennig hefyd, lle mae'n bosib gweld y fulfran werdd yn ogystal â’i gefnder, y bilidowcar.

Eglwys Santes Dwynwen, Ynys Llanddwyn. Llun Paul W.
Gwelir rhai planhigion prin yno yn y gwanwyn, ond mae'r cyfnod cyn hynny yn gyfle i ymweld ag ardaloedd prydferth Gwynedd heb ddod ar draws y pla deugoes hwnnw, -twristiaid!!

Mae'r 25ain hefyd yn Ddydd Sant Paul pryd rhagwelir y tywydd am weddill y flwyddyn...

Fel arfer, mae gan Gymdeithas Edward Llwyd raglen lawn o deithiau bob bore Sadwrn: manylion ar eu GWEFAN. Felly hefyd Glwb Mynydda Cymru: GWEFAN.
----------------------------

* Mae'r brain coesgoch wedi bod yn magu eto yng Nghernyw ers 2002. 

Ymddangosodd yr erthygl uchod yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1996.

Awdur cyfres Gwynfyd ydi Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

6.1.16

Peldroed. 1958-60

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. 
Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams.(Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)


1958-59
Os oedd tymor 1957-58 yn un o'r tymhorau gwaelaf, yr oedd yr un a'i dilynodd ymysg y goreuon.  


Ni ellir byth â deall hanes y bêl-droed yn Stiniog heb wybod am y tîm a luniwyd yn 1958-59.  Dyma'r tîm: 

Bob Pines, John Edwards, Bob Hunter, Richard Alwyn Thomas, Jack Robinson, Keith Godby, David Todd, Jimmy Quinn, Derek Hunter, Norman Birch, Tony McNamara.  

Y mae'r enwau hyn yn darllen fel barddoniaeth i bawb a ddilynodd Stiniog bryd hynny.  Ni wnaeth y tîm hwn golli gêm o gwbl. Ac eto, ni enillodd Blaenau bencampwriaeth Gogledd Cymru yn 1958-59, ond y mae rheswm da am hynny.  Yr oedd hi'n Dachwedd y cyntaf 1958 ar y tîm cyfan uchod yn cychwyn ar ei yrfa.  Cyn hynny aethai pymtheg gêm heibio heb ennill ond pump ohonynt.  Roedd hi wedi canu, felly, ar Stiniog i ennill y bencampwriath.  

Roedd hi'n ddechrau Medi ar Bob Hunter yn ymuno, yn niwedd Medi ar McNamara- ac yng nghanol Hydref ar R.Alwyn Thomas yn cyrraedd.  O Dachwedd ymlaen ni chollodd y tîm llawn un gêm.  Heb Bob Hunter, collodd y tîm yng Nghei Connah ar y 7fed o Fawrth, ac ni chollwyd yr un gêm wedyn.  Golygai hynny fynd am 17 gêm heb golli.  

Fel yr oedd y tymor yn dirwyn i ben cafodd y Blaenau fuddugoliaeth yn erbyn holl brif dimau y Gynghrair ar y pryd, sef Boro Utd, Llandudno, Caergybi, Caernarfon a Bae Colwyn.  Yr oedd hyn yn arwyddo pwy a fyddai pencampwyr y tymor hwnnw pe byddai Stiniog wedi cael cychwyn ynghynt.  Dros y tymor sgoriodd Stiniog 148 gôl.  Yr oeddynt yn drydydd yn nhabl y Gynghrair, a hwy a enillodd gwpan Cookson a'r Her Gwpan.  
 
Blaenau Ffestiniog. 1958-59. Llun oddi ar wefan Stiniog.com

Sgoriodd Derek Turner 55 gôl mewn 42 gêm.  Y prif sgorwyr eraill oedd Quinn - 28, Birch - 26, McNamara - 12, Todd - 12.  Sgoriodd y pum blaenwr hyn gyfanrif o 133 gôl. Cafodd Turner, Quinn a Birch 109 gôl rhyngddynt.  

Yn y gêm Gynghrair olaf galwyd ar dîm hollol leol i chwarae yn erbyn Treffynnon, ac fe enillasant 4-2. Y tîm hwnnw oedd:  Alan Evans Jones, Ronnie Humphreys, Dewi Owen, Vivian Jones, Ronnie Jones, Elwyn Rees, R.Elwyn Jones, Edmund Williams, Arwyn T.Williams, Elfyn Jones, Ken Jones.
 

1959-60
Er bod rhestr chwaraewyr tymor 1959-60 yn ddigon tebyg i'r un am y tymor anhygoel o lwyddiannus a'i ragflaenodd, blwyddyn wahanol iawn oedd hi o ran cyrhaeddiadau.  


Absenoldeb llwyr Jack Robinson, a'r ffaith fod Turner a Hunter wedi colli llawer o gemau oedd y rheswm i'w gynnig am y gwahaniaeth, ond anodd yw deall na wnaeth yr wyth arall yn well o gofio eu gallu.  

Gorffenwyd y tymor yn bumed o'r gwaelod, a chyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Gogledd Cymru oedd mesur llwyddiant y tîm yn y tymor rhyfedd hwn.  Turner, Quinn, Birch a Todd oedd y prif sgorwyr.  

Yr oedd hwn yn dymor sobor o siomedig.

----------------------------

Ymddanosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Medi a Thachwedd 2005.

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

4.1.16

Llyfr Taith Nem- 'y canwr mwyaf difrifol..'

Pennod arall o  hanesion rhyfeddol Nem Roberts Rhydsarn yn ‘Merica.

1930’au
Meddyliais un tro buaswn yn hoff o fod yn ganwr.  Yr oeddwn wedi gwrando ar amryw, a phob tro yr oeddwn yn eiddigeddus o’u doniau.  Doeddwn yn gwybod fawr ddim am gerddoriaeth, ond teimlwn na fuaswn yn hir yn dysgu canu, a mwya’n y byd feddyliwn am y peth, sicraf yn y byd oeddwn fod defnydd canwr o fri ynof.  Ymddengys i mi wneud peth camgymeriad ar ddechrau yr yrfa.  Yn lle myned at athrawes profiadol i geisio dysgu, eis ati i addysgu fy hunan.  Rhaid dysgu plentyn i gerdded, rhaid dysgu pregethwr i bregethu, ac yn siwr rhaid dysgu perchen llais sut mae ei ddefnyddio.

Wedi rhai wythnosau yr oedd eisteddfod yn y ddinas lle’r oeddwn yn aros, ac heb feddwl ddwywaith penderfynais ymgeisio ar yr unawd tenor.  Yr unawd odd ‘Y Dyddiau Gynt’.  Cefais sgwrs ac un dadganwr profiadol a dywedodd wrthyf mai peth doeth cyn canu yn gyhoeddus oedd peidio bwyta drwy’r dydd y gystadleuaeth, a’i bod yn haws canu ar ystumog wag, ond yr oedd yn bwysig cario potel o wisgi yn y boced, a dipyn o glycerine ynddo, a chymeryd swig yn achlysurol.  Pe tawn wedi clywed am yr ystumog wag yn gynt, mae’n debyg y buaswn wedi rhoddi heibio uchelgeisio fel dadganwr.

Daeth diwrnod y gystadleuaeth, a thra’n gweithio yn y ffactri dychmygwn glywed cymeradwyaeth y dorf – yn wir clywn fy hunan yn taro C uchaf fel Caruso.

Fel y dywedodd rhyw feirniad rhwy dro:
waeth i ddau heb a chanu deuawd ‘y ddau forwr’ a hwythau yn edrych fel dau deiliwr
felly rhaid oedd gwisgo yn briodol i’r dasg.

Tua chwech o’r gloch y noson honno, gwelais y brawd roddodd y cyngor i mi am yr ystumog wag, a’r peth cyntaf ddywedodd oedd, “Beth am fynd am lasiad neu ddau i dafarn Jack Jones?”  I mewn a ni yn ddioed, ac wedi glasiad neu ddau, anghofiodd ef a minnau am bwysigrwydd ystumog wag, a bwyta ac yfed buom nes oeddym yn llawn at y gwddf, ac yna i ffwrdd a ni i’r Eglwys Gymraeg, lle cynhelid yr eisteddfod. 

Gŵr tal a locsyn du ganddo oedd arweinydd y cyfarfod, a llais fel udgorn ganddo.  Dangosodd fy nghyfaill y beirniad canu i mi, a chymerais yn erbyn y brawd ar fy union, er na welais i erioed mohono o’r blaen.  Wedi cystadleuaeth neu ddwy, awd ymlaen at gystadleuaeth yr unawd tenor – moment y gogoniant neu’r gwymp.  Yr oedd saith wedi anfon eu henwau, ond er galw ac ail alw amdanynt nid oedd neb yn ateb.  Fy enw i oedd yr olaf ar y rhestr, ac meddai’r arweinydd, 

A ydyw E.R. yn bresennol.”  
Yr oeddwn yn fud a chlywn fy mhengliniau yn taro yn eu gilydd fel drwm.  

Os ydyw E.R. yn bresennol, fe gaiff y wobr”  meddai’r arweinydd.
YMA!” meddwn mewn llais uchel o’r sedd uchaf yn yr oriel, ac i ffwrdd a mi i’r llwyfan i dderbyn y wobr, gan anadlu yn rhydd wrth feddwl nad oedd angen i mi ganu.  Ond pan gyrhaeddais y llwyfan, cefais sioc ddyrchrynllyd pan dywedodd yr arweinydd, “Er nad oes neb arall wedi dod i ymgeisio ar yr unawd, rhaid profi teilyngdod, felly distawrwydd, os gwelwch yn dda i E.R. ganu ‘Y Dyddiau Gynt.”  

Yn rhyfedd daeth rhyw hyder i mi o rhywle, wn i ddim o ble daeth, pa un ai’r ddiod, neu’r ffaith nad oedd neb arall yn cystadlu yn fy erbyn, ynte gweld deg dolar o fewn fy llaw megis.  Ta waeth, mi es drwy’r unawd, ond cymysglyd iawn oedd y gymeradwyaeth, ac nid fel oeddwn i wedi ei glywed yn fy nychymyg yn ystod y dydd.

Daeth y beirniad i gyflwyno ei feirniadaeth ar fy ymdrech gyntaf fel dadganwr, ond fel y digwyddodd hi, honno oedd fy ymdrech olaf hefyd.  Yr oeddwn wedi fy namnio yn ei frawddeg gyntaf.  

Meddai: 
Dyma’r dadganwr mwyaf difrifol glywais ar lwyfan erioed.  Nid oedd yn gwybod yr unawd, nis gallai gynhyrchu ei lais, ac nid oedd ganddo lais i’w gynhurchu.
Yr wyf am iddo gael y wobr, nid am ei ddadganiad, ond am ei ddigywileidra yn dod i’r llwyfan.
”  

Ac felly y bu.

Er hynny i gyd, credaf hyd heddiw i’r beirniad hwnnw fod yn rhy llym o lawer.  Dywedodd y cyfeilydd wrthyf bod gennyf ddefnydd llais da, ond fy mod angen llawer o hyfforddiant.

Ar wahan i fy ymdrech drychinebus credaf fod beirniad yn rhy frwnt o lawer wrth gystadleuwyr ieuanc.  Sathru yr ymgeisydd yn lle ei helpu a’i annog i fwy o ymdrech.  Wedi’r cwbl pe tae pob ymgeisydd yn berffaith ni fuasai cystadleuaeth.  Pwy wyr, hwyrach pe tae’r beirniad hwnnw wedi bod yn garedicach y noson honno, y buaswn erbyn heddiw yn nodedig fel un ddatganwyr operataidd mwyaf Cymru.

--------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

2.1.16

Beth am fod yn un o olygyddion Llafar Bro

Blwyddyn newydd dda! Wnaethoch chi adduned dydd Calan? Bwyta llai o bwdin... prynu neges yn lleol... cerdded yn amlach...?

Wel, beth am fod yn un o olygyddion Llafar Bro?
Dyma erthygl gan Tecwyn Vaughan Jones, o rifyn Tachwedd 2015 

Diddordeb? Be mae o’n ei olygu? Pam?
Gydag ymddeoliad un o’n golygyddion mae Llafar Bro bellach yn chwilio am un golygydd newydd.

Pan ddes i 'nôl i fyw yn yr ardal ddeng mlynedd yn ôl cefais fy ngwahodd i fod yn un o’r
golygyddion a chyda cryn nerfusrwydd yr euthum ati i baratoi fy rhifyn cyntaf. Ond, roedd digon o help ar gael ac fe aeth popeth yn wych ac mae’n deimlad arbennig gweld y rhifyn yn ymddangos o’r wasg.

Llun- Beca Elin

Os oes diddordeb gennych yna holwch unrhyw un o’r golygyddion sydd a’u henwau ar dudalen 2 y papur* neu cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Vivian.

Mae chwech ar y tîm golygyddol ac mae hynny’n golygu mai dim ond dau rifyn fydd angen ei olygu bob blwyddyn. Prif waith y golygydd yw casglu eitemau at ei gilydd, yn golofnau misol, yn newyddion bro ac yn erthyglau bro … unrhyw beth mewn gwirionedd sy’n gysylltiedig â’r Fro neu sy’n debygol o fod â diddordeb i bobl leol. Mae nifer o’r rhain yn cyrraedd yn electronig unwaith dach chi wedi hysbysebu eich cyfeiriad e-bost ac mae’r gweddill yn mynd i Siop yr Hen Bost i Heddus ac Eira, y teipyddion, eu casglu ac wedi'r teipio ei roi ar go’ bach (flashdrive) a’i roi i’r golygydd perthnasol.

Medrir mynd a’r rhifyn cyfan ar go’ bach [neu yrru trwy e-bost] i’r wasg (ac mae gwaith y golygydd ar ben wedyn) ac mae’r rheini yn gosod ac argraffu'r papur wrth gwrs.

Mae’r Ysgrifennydd yn trefnu gyda chymdeithasau lleol pwy fydd yn plygu’r papur rhyw wythnos ar ôl i’r gwaith fynd i’r wasg.

Mae pethau wedi newid! Dim cymaint â hynny o waith ond mae’r gwaith mwyaf wedi ei gywasgu i ddau benwythnos sef y penwythnosau ar ôl y deadline am 5pm ar y nos Wener olaf y mis fel rheol.

Pam? Wel i mi mae wedi bod yn fraint cael bod yn olygydd Llafar Bro am bron i ddeng mlynedd rŵan. Mae rhywun yn datblygu cysylltiad rhyfeddol efo’r gymuned and yn dod i wybod pob math o newyddion y gellir ei gyhoeddi neu ddim ei gyhoeddi fel mae’r golygydd yn tybio orau! A’r cyflog, wel mae hwn yn dod o dan y categori ‘llafur cariad’ ac mae’r cyflog hwnnw yn werth tipyn may nag ambell i bunt neu fwy!

Ymunwch â ni ar dîm Llafar Bro ac fe gewch chithau gyfle i wneud gwahaniaeth mewn perthynas i newyddion y Fro. Byddwch yn rhan o fudiad Cymraeg sydd wedi gweddnewid y ffordd mae newyddion yn cael ei ddosbarthu … Dowch atom heddiw …


* [ac ar y wefan yn fan hyn]