29.11.15

Llyfr Taith Nem -'eisiau llonydd mae crwydryn'

Pennod arall o Lyfr Taith Nem, hanesion rhyfeddol Nem Roberts, Rhydsarn yn ‘Merica, a llythyr at y golygydd gan un a gyfarfu Nem yno.


1929
Unwaith yr oeddwn yn teithio mewn cerbyd modur o Los Angeles, Califfornia. Cychwynasom am hanner dydd er mwyn cyrraedd anialwch y Mojova. Nid oedd y ffyrdd mewn cyflwr da yr adeg honno, a theimlwn fod perchennog y cerbyd yn gyrru yn rhy wyllt ar ffyrdd cyffredin. Y canlyniad oedd cwympo i ffos ar ochr y ffordd a malu y pwmp tanwydd a’r ffenestr flaen. Bu fy mhrofiad yn gynhorthwy a llwyddasom i fynd ymlaen, ond erbyn tua dau o’r gloch y bore yr oedd y gyrrwr wedi blino, a rhaid oedd aros a cheisio cysgu yn y modur ar ochr y ffordd.

Y peth nesaf oedd clywed drws y cerbyd yn cael ei agor a gŵr gyda hances boced am ei wyneb a gwn yn ei law yn gorchymyn i ni godi ein breichiau wrth ein pennau. Yr oedd lleidr arall yr ochr arall i’r cerbyd. Dychrynais yn enbyd, wedi’r cyfan nid peth dymunol ydyw i ddyn gael ei ddeffro o drwmgwsg i wynebu llawddryll.

Pwysodd un o’r lladron ei lawddryll yn fy meingefn, a rhoddodd law yn fy mhoced a chymerodd bum dolar, yr oll oedd yn y boced honno. Dechreuais fynd drwy’r pocedi eraill, ond dywedais wrtho mai pum dolar oedd yr oll feddiannwn. Yn rhyfedd iawn coeliodd fi, ond pe tae wedi chwilio yn fanwl mi fuasai wedi dod o hyd i gant a hanner o ddoleri mewn poced yn fy nghrys. Llwyddodd y lleidr arall i gymeryd $200 o boced fy nghyfaill, ac ugain doler oddi ar frawd oedd yn eistedd y tu ôl. 

“Penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler”

Tra yn sefyll a’m breichiau i fyny meddyliais am geisio taro y lleidr a fy mhenelin, ond penderfynais fod fy mywyd yn werth mwy na phum doler. Penderfyniad doeth oedd hynny, mae’n debyg, gan y buasai y lleidr wedi gallu fy saethu yn hawdd cyn i mi ddod a’m braich i lawr. Wedi dwyn yr arian gorfododd y lladron i’r gyrrwr bwyntio ei gerbyd tua’r gorllewin a’i siarsio i beidio ei dilyn, neu fwled fuasai’r atebiad! Am weddill y siwrnai 3000 milltir, rhaid oedd i mi dalu’r costau i gyd o LA i Philadelphia, ac yna i Efrog Newydd. Buasai yn well i mi fod wedi teithio gyda’r trên – ac yn llawer rhatach!

Cefais brofiad rhywbeth yn gyffelyb yng nghanol dinas Efrog Newydd: un diwrnod yr oeddwn yn cerdded yn araf ac yn edrych o gwmpas yn ddigon didinwed. Yn sydyn cerddodd dau ddyn i’m hwyneb, a gafaelodd un yn fy ngôt, gan fygwth fy lladd yn y fan a’r lle os na roddwn fy holl arian iddo. Rhaid oedd penderfynu mewn amrantiad beth i’w wneud yn yr argyfwng. Ceisiais yr hen ‘bluff’, yr oeddwn yn meddwl mai dau rodresgar oeddynt, ond rhoddasant fygythiad terfynol i mi, yr arian neu fwled. Penderfynais ymddangos fel pe mewn dychryn, yn wir yr oeddwn wedi dychryn, ac wn i ddim sut olwg oedd arnaf, ond dywedodd un rhywbeth wrth y llall, a gollyngodd fi, ac ar yr eiliad honno neidiais rhwng dau gerbyd ar ochr yr heol. Mae’n debyg mai dyna’r symudiad cyflymaf wnes erioed yn fy mywyd. Aeth y ddau ymlaen ac anadlais yn rhydd drachefn.

Mae’r crwydryn gan amlaf eisiau llonydd, ond hefyd, camgymeriad mawr i unrhyw grwydryn ydyw rhoi ei drwyn ym musnes rhywun arall. Y gyfrinach ydyw i’r crwydryn feindio ei fusnes ei hun, a gadael i bawb a phob peth arall weithio eu hiachawdwriaeth eu hunain. Mae yn bwysig iawn cadw allan o bob helynt, oherwydd nid oes fawr o gydymeimlad â dieithryn mewn unrhyw fan. Fel mater o ffaith anhawdd ydyw cael y gwir grwydryn i son am ei brofiad. Y gŵr sydd yn cymeryd arno ei fod wedi crwydro llawer ydyw’r mwyaf awyddus i siarad am ei deithio. Mae’n debyg bod llawer o resymau am hyn. Yn y lle cyntaf, unigolyn ydyw’r gwir grwydryn, a gwyr nad ydyw ei ddiddordebau ef yn ddiddorol i eraill. Yn yr ail le mae llawer o hanes bob crwydryn yn gyfryw na ellid yn hawdd eu hadrodd na’u croniclo; ond mae’n debyg bod hynny’n wir yn hanes yr helyw o blant dynion. Hefyd profiadau personol sydd gan y crwydryn ac nid llawer o brofiadau cymdeithasol.

------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1998. 
Yn yr un rhifyn oedd llythyr at y Golygydd:

Annwyl Olygydd,
Wrth ddarllen Llafar Bro y mis yma a gweld hanes Nem Roberts ynddo fe ddaeth llawer o atgofion i’m meddwl. Yn y flwyddyn 1930 yr oeddwn yn byw yn Los Angeles, Califfornia, ac yn mynychu’r Capel Cymraeg ar 12th Vanenski. Ymysg yr aelodau yno yr oedd Nem Roberts o Ffestiniog a chefais aml sgwrs ag ef a llawer hwyl wrth iddo son am rhai troeon yn ei fywyd. Yn y flwyddyn 1932 yn 23 oed yr oeddwn yn gadael LA ac yn dychwelyd i Gymru gan deithio fy hunan ar y trên i Efrog Newydd, taith o filoedd o filltiroedd ac a gymero rhai dyddiau.

Erbyn hyn yr oedd Nem Roberts wedi gadael LA ac yn Efrog Newydd felly dyma gysylltu ag ef a bu yn garedig iawn. Fe ddaeth i’r orsaf yn Efrog Newydd i fy nghyfarfod a mynd a fi i dŷ ffrindiau yr oeddem ni’n dau yn eu hadnabod gan eu bod hwythau wedi byw yn LA. Bu hen siarad a bwyta ar ôl cyrraedd cartref Mr a Mrs Wright a daeth Nem hefo nhw drannoeth i fy rhoi yn ddiogel ar fwrdd y ‘Sythia’ ar y fordaith yn ôl i Gymru.

Ymhen rhai blynyddoedd wedyn a finnau wedi priodi ac yn byw yma daeth Nem drosodd i Ffestiniog a daeth i’m gweld. Cefias y fraint o roi croeso iddo i dalu tipyn bach am ei garedigrwydd i mi yn Efrog Newydd.

Rwyf yn mwynhau darllen Llafar Bro ac wedi cadw barddoniaeth o waith Rhagfyrun Pierce (gynt) oedd yn gefnder i mi.

Bessie Glyn Williams. Porthmadog.

--------------------------

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

27.11.15

Colofn y Pigwr -aros mae'r peilonau mawr

Ein colofnydd pigog yn gollwng rhywfaint o stêm am bwnc lleol arall.

Gwrando ar y radio un bore, a chlywed y newyddion syfrdanol bod y Grid Cenedlaethol am wneud cymwynas fawr â thrigolion cefn gwlad. Y gymwynas mewn golwg oedd i’r cwmni weld synnwyr cyffredin, wedi’r holl flynyddoedd o beidio â gwrando ar leisiau’r trigolion, a phenderfynu dymchwel y peilonau hyll sydd wedi hagru golygfeydd godidog ein bröydd.

Dyffryn Maentwrog *

Roedd y llinellau trydan am gael eu claddu yn y ddaear, meddai’r sylwebydd, yn llawn ffydd. 

Yr oedd rhagolygon am Ddyffryn Ffestiniog, a’r olygfa o ben yr Allt Goch tua’r Ddwyryd yn glir o erchylltra’r peilonau hynny yn freuddwyd i unrhyw un sy’n caru’r ardal hyfryd hon. Wedi dros hanner canrif o orfod diodde’r hyllbethau hyn yn effeithio ar olygfa oedd wedi rhyfeddu teithwyr dros y blynyddoedd cynt, edrychid ymlaen am weld diwedd ar y peilonau.

Ond, och a gwae! Camargraff a roddwyd ar y cyfrwng. Nid yma mae’r chwalfa i fod, ond i lawr yn aber y Ddwyryd ger Penrhyndeudraeth, a dim ond yno.

Anghofiwch am y lein o bwerdy Tanygrisia’ i Drawsfynydd, a phellach, mae honno’n aros yn union yn yr un fan, heb newid o gwbl. Anghofiwch am y llinell dros y Migneint unigryw, mae honno’n aros hefyd, fel pob un arall yng ngogledd Cymru, a mannau eraill.

Dim ond y lein sy’n hagru ardal Cilfor a Phenrhyn sy’n cael ei chladdu, a dyna hi.  Mae’n costio gormod i gladdu milltiroedd o linellau trydan, meddai uchel-swyddogion y Grid Cenedlaethol, a diolchwch am be’ ‘dach chi’n gael.

Felly, anghofiwn linellau anfarwol yr Arglwydd Lyttleton, am yr olygfa i lawr o dop yr Allt Goch yn 1756, (yn yr iaith fain wrth gwrs, a chyn dyfodiad trydan!):
‘Gyda gwraig serchog, cyfaill cywir, a chasgliad da o lyfrau, gall dyn dreulio oes yn y dyffryn hwn, a meddwl mai diwrnod ydoedd…’. 
Llinellau tra gwahanol fu’n ein poeni ni ers tro, sydd yn ein poeni'r dyddiau hyn, ac am amser maith eto, mae’n beryg’. Trueni na fyddai cais cynllunio yn cael ei gyflwyno am Atomfa neu bwerdy newydd yn yr ardal hon heddiw ynte? Yn sicr, ni fyddai pobl 2015 mor barod i gyfaddawdu â’r rhai diniwed y 1950au a’r 60au.

Yn siŵr i chi, byddai sicrhau fod pob llinell drydan mewn ardaloedd o harddwch naturiol o dan y ddaear, yn rhan o amodau'r oes hon. Power to the people ddeudsoch chi?


[Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015. ]
* Llun gan PW 21ain Tachwedd 2015
-------------------------

Darllenwch erthyglau eraill Y Pigwr gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

25.11.15

Sgotwrs Stiniog -Gamallt

Erthygl arall o gyfres reolaidd Emrys Evans, y tro hwn o rifyn Tachwedd 1998.

Llynnoedd y Gamallt.
Mae yna gryn dipyn o bysgota wedi bod ar y ddau Lyn Gamallt ers pan agorwyd hwy i’w pysgota yn 1994.

Fel y cofir cauwyd Llynnoedd y Gamallt rhag cael eu pysgota rhwng 1986 ac 1993, er mwyn i’r Awdurdod Afonydd (yr adeg hynny) gael edrych i mewn i gyflwr y llynnoedd ac i geisio gweld beth a ellid ei wneud i’w hadfer, fel bo pysgod yn medru byw a magu ynddynt eto.

Gwariodd yr Awdurdod lawer o arian ac o amser ar y gwaith yma, ac fe roddwyd calch ar y tir sydd ym mhen uchaf y Llyn Mawr ac ym mhen isaf y Llyn Bach, i wella ansawdd y dŵr.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd (sydd wedi dod yn lle yr Awdurdod Afonydd) yn awr angen cael gwybod sut mae’r ddau lyn wedi pysgota ers pan y’u hagorwyd, sef, cyflwr y pysgod, natur y pysgota, ac yn y blaen. Cyn y gellir llunio adroddiad i’r Asiantaeth rhaid yw cael gwybod gan y rhai sydd wedi pysgota Llynnoedd y Gamallt faint o bysgod y maent wedi eu dal ynddynt, a beth yw eu barn am y pysgota ac am y pysgod.

Apeliwn, felly, ar i bawb sydd wedi pysgota Llynnoedd y Gamallt ers 1994 i lenwi un o’r taflenni yn siop Frank Roberts, Stryd yr Eglwys.

Llyn a Chraig Goch Gamallt. Llun PW

Yn y rhan o’r Afon Ddwyryd sydd rhwng Pont Maentwrog a gwaelod tir Dol y Moch, mae yna bwll yn yr afon sy’n cael ei alw yn ‘Llyn Deg-ar-Hugain’. Pwy fedr ddweud rhywbeth amdano? Beth yw ei hanes? Pam y mae’n cael ei alw yn ‘Llyn Deg-ar-Hugain’? Buaswn yn falch iawn o gael unrhyw wybodaeth amdano, waeth pa mor fychan. Anfonwch air os oes gennych unrhyw beth i’w ddweud amdano.
---------------------------------
Cwtogwyd yr erthygl wreiddiol, gan adael allan fanylion gweithgareddau oedd i ddod yng ngaeaf 1998.

Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


23.11.15

Colofn Yr Ysgwrn – Cartref Hedd Wyn

Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect Yr Ysgwrn, yn cychwyn cyfres o erthyglau yn cofnodi'r hyn sy'n digwydd yn Yr Ysgwrn.
(Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015)

Creu Campwaith gyda phlant lleol

Mae’n gyfnod cyffrous yn Yr Ysgwrn ar hyn o bryd gyda’r gwaith o warchod a datblygu cartref Hedd Wyn wedi cychwyn.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw perchnogion Yr Ysgwrn bellach, ac mae cadw naws arbennig y safle’n bwysig iawn iddynt. Mae’n her a braint i minnau gael gweithio ar ddatblygiad mor ddifyr ac amrywiol, ac un sy’n agos iawn at fy nghalon fel hogan o’r Traws.

Mae’r adeiladwyr yn cychwyn gweithio ar y safle’r mis yma, ac er bod cryn dipyn o waith i’w wneud i atgyweirio’r tŷ a’r adeiladau, mae ‘na fyrdd o agweddau eraill i’r prosiect, a does yr un diwrnod yr un fath!

Oherwydd y gwaith datblygu bydd drysau’r Ysgwrn yn cau dros dro i ymwelwyr ddiwedd mis Tachwedd. Er hynny rydym yn gobeithio parhau i ddweud stori Hedd Wyn a’r Ysgwrn ym Mhlas Tan-y-bwlch mewn arddangosfa bwrpasol. Cawsom help plant o rai o ysgolion y fro i greu deunydd i’r arddangosfa, sydd bellach yn werth ei gweld.

Bu plant ysgolion Edmwnd Prys, Bro Hedd Wyn a Bro Cynfal yn gweithio’n ddiwyd efo’r artist Luned Rhys Parri cyn gwyliau’r haf i ail greu cegin Yr Ysgwrn mewn ‘papier mache’. Gan ddefnyddio hen botiau iogwrt, glud a phaent aethant ati i greu campwaith! Mae’r dresel, y cloc mawr a’r lle tân bellach wedi eu gosod yn yr arddangosfa ym Mhlas Tan-y -bwlch, drws nesaf i replica’r Gadair Ddu. Gwelir rhai o’r plant yn y llun.


Cafodd y plant wahoddiad i agoriad swyddogol yr arddangosfa ddechrau mis Medi, ac wedi sgwrs ddifyr am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf gan yr awdur Haf Llewelyn, torrwyd y rhuban gan Gerald Williams a’i chwaer Malo (sef nai a nith Hedd Wyn). Cafodd pawb gyfle wedyn i weld y gegin, replica’r gadair ddu a’r cynlluniau sydd ar droed, cyn cael digonedd o frechdanau a chacennau yn y Plas ei hun.

Braf oedd gweld cymaint o rieni a phlant wedi troi allan i gefnogi, ac mae 'nghydweithwyr a minnau’n edrych ‘mlaen at wneud llawer mwy efo pobl a phlant yr ardal ar wahanol agweddau o’r prosiect.

Mae croeso i unrhyw un daro mewn i weld yr arddangosfa, a gallwn gynnig  sgyrsiau ar Yr Ysgwrn a hanes Hedd Wyn a’r cyfnod yn y Plas, yn ogystal â theithiau o gwmpas y gerddi a lluniaeth o bob math i grwpiau a chymdeithasau.

llun APCE
Dyma rai o’r digwyddiadau sydd gennym ar y gweill rhwng rŵan a’r 'Dolig:


Tachwedd 28ain, diwrnod agored yn Yr Ysgwrn - y cyfle olaf am gyfnod.


Os oes unrhyw un yn awyddus i gael gwybod mwy am unrhyw un o’r digwyddiadau yma, neu os oes rhywun yn awyddus i wirfoddoli i’n helpu efo’r datblygiad mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â mi Sian Griffiths neu Jess Enston ar 01766 770274/ e-bost:  yrysgwrn{at}eryri-npa.gov.uk

Mae’r gwaith i warchod a datblygu’r Ysgwrn sy’n brosiect gwerth £3.4 miliwn ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru wedi dechrau Hydref 5 eleni.
-------------------------


Gallwch weld be' arall sydd ar y wefan am Yr Ysgwrn a Hedd Wyn trwy glicio'r dolenni isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

21.11.15

Atgofion Gosodwr

Dafydd Roberts sy'n adrodd ei hanes yn nyddiau cynnar Llafar Bro.

Anodd credu bod 40 mlynedd wedi mynd heibio ers ymddangosiad cyntaf 'Llafar Bro' yn Hydref 1975.  Roedd dalgylch 'Stiniog yn un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i fentro cynhoeddi papur bro misol yn y Gymraeg.  Papur yn llawn hanesion lleol, atgofion y darllenwyr a barn am wahanol bynciau llosg y dydd -  ac felly y mae hyd heddiw.

Ychydig flynyddoedd yn ôl bu Iolo Williams a Shân Cothi yn recordio rhaglenni o'r enw Bro.  Wrth wylio'r rhaglen o ardal Caernarfon, a gweld grŵp mawr o wirfoddolwyr wrthi'n 'gosod' eu papur hwy daeth llu o atgofion melys yn ôl am y cyfnod y bûm innau'n 'gosod' Llafar Bro yn fisol rhwng 1979 a 1984.

Dechreuai'r gwaith fel arfer ar nos Wener gydag ymweliad gan y golygydd ar y pryd – y Parch Emlyn Williams neu Bryn Jones – gyda'r deunydd ar gyfer y rhifyn cyfredol.  Roedd gan Emlyn Williams bob amser dair amlen A4.

Cynnwys y gyntaf oedd y dudalen flaen a'r darnau pwysicaf – rhaid oedd sicrhau eu bod hwy yn y papur yn ddi-feth; yn yr ail roedd darnau y colofnau misol a'r lluniau i gyd-fynd oedd yn llenwi crynswth y rhifyn; a'r drydedd yn llawn pytiau wrth gefn pe tae angen rhagor i lenwi'r rhifyn dan sylw. Roedd cyfrifoldeb edrychiad y papur wedyn yn syrthio i ddwylo'r gosodwr.  Byddai'r golygydd yn gweld y rhifyn gorffenedig am y tro cyntaf ar noson y plygu yn Siambr y Cyngor.  Dipyn o gyfrifoldeb felly!

Y dasg gyntaf oedd mesur canol chwe darn o gerdyn gwyn 30 modfedd wrth 21 modfedd.  Yna mesur tair colofn 4 modfedd o led o bopty'r canol.  Marcio wedyn, yn ysgafn â phensil y colofnau i gyd.  Yr ail dasg oedd torri'r tudalennau teip yn golofnau.  Y teipyddesau'r adeg honno oedd Laura Price a Heddus Williams.  Ond cyn eu gludo rhaid oedd gwneud penawdau gyda 'Letraset' - tudalennau plastig maint A4 gyda llythrennau'r wyddor mewn amrywiol faint a theip, yn ogystal â rhifau a phatrymau.

Llun o Gronfa Comin Wikimedia
I greu pennawd rhaid oedd gosod y dudalen letraset ar gerdyn gwyn annibynnol, rhwbio'r llythyren angenrheidiol yn galed â phensil er mwyn ei throsglwyddo ar y cerdyn. Roedd rhai penawdau angen bod yn fwy na'i gilydd, ac felly'n cymryd rhagor o amser.

Penderfynu wedyn ar ba dudalen roedd newyddion y gwahanol ardaloedd yn mynd cyn eu gludo'n ofalus ar dop y colofnau penodedig gyda Cow Gum - glud arbennig ar gyfer gosod penawdau papur newydd.  Yna'n ôl i'r dudalen flaen a gosod pennawd arbennig Llafar Bro gyda'r un glud.  Defnyddid y Pritt Stick  bondigrybwyll i ludio'r holl golofnau a deipiwyd, megis newyddion yr ardaloedd, chwaraeon, Sgotwrs 'Stiniog, erthyglau, ac yn y blaen.  Roedd hysbysebion yn cael dos o'r Cow Gum.

Y lluniau oedd y dasg nesaf – penderfynu faint o le i'w roi iddynt.  I wneud hynny rhaid oedd gweld faint o ofod oedd rhwng y colofnau.  Weithiau gellid chwyddo llun, neu os yn rhy fawr, ei leihau trwy osod papur du o'r maint cywir ar y cerdyn gwyn.  Rhaid oedd rhifo'r darn du a rhoi'r un rhif ar gefn y llun oedd i gyd-fynd ag ef.

Y dasg olaf oedd rhifo'r tudalennau â'r letraset.  Roedd y cyfan i'w gwblhau cyn noswylio ar y Sul. Bore Llun aed a'r cardiau gwyn gorffenedig i'r wasg ym Mhenygroes i'w hargraffu.  Ymhen yr wythnos, ar noson y plygu, dychwelid y cardiau gwyn a'r lluniau gyda rhifyn y mis i Siambr y Cyngor tref. Roedd un dasg fach ar ôl.

Rhaid oedd tynnu'n ofalus y penawdau a ludiwyd â'r Cow Gum oddi ar y tudalennau a'u cadw tan y rhifyn nesaf.  “Arf” da oedd yr hen Cow Gum! A dyna ni.  Ddeugain mlynedd yn ôl dyna'n fras waith misol gosodwr Llafar Bro


---------------------- 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn penblwydd Llafar Bro yn 40 oed, Hydref 2015.
Dafydd oedd yn gyfrifol am ddylunio 'bathodyn' cyntaf Llafar Bro. Gweler y dudalen 'Cefndir' am fwy o'r hanes.


19.11.15

Bwrw Golwg

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro.  
Dyma’r ail bennod yn  hanes  
TAIR CENHEDLAETH PANDY’R DDWYRYD 
gan W.Arvon Roberts.

Yr oedd William Jones (g.1788), Pandy’r Ddwyryd, yn drydydd mab i Rowland ac Anne Jones, ac yn ŵyr i Lowri Williams.  Gŵr dysgedig, un a adrychid arno fel cynghorwr gan y bobl leol, ac un oedd yn adnabyddus i weinidogion a phregethwyr ei sir.

Yn 1824, yn 36 oed, ymfudodd i Utica, un o fannau prydferthaf canolbarth talaith Efrog Newydd, ar lan ddeheuol Afon Mohawk.  Mae’n siwr bod enw Utica yn fwy adnabyddus i’r Cymry Cymraeg yng Nghymru ac America nac unrhyw ddinas arall yr ymsefydlodd y Cymry ynddi yn yr Unol Daleithiau.

Ystyr yr enw Utica yw “o amgylch y bryn”.  Ond aeth un mor bell a dweud mai ar ôl gŵr o’r enw Huw Tŷ Cae, pwy bynnag oedd hwnnw, y mabwysiadwyd yr enw – sy’n swnio’n debyg iawn i’r gair Utica o’i dorri fesul sill.

Ymsefydlodd y Cymry cyntaf yn Utica yn 1800 ac ambell un cyn hynny.  Gadawodd William Jones, Pandy’r Ddwyryd, o Lerpwl, 22 Mai, 1824, a glaniodd yn Efrog Newydd ymhen naw wythnos.  Er mai ond tua pedair blynedd yr arhosodd yn America gwenodd y byd arno i gryn raddau – casglodd gyfoeth.

Daeth yn ôl i Gymru gyda thystiolaeth o’i aelodaeth, yn ogystal â gair da oddi wrth Gapel Utica.  Ymunodd â’r achos ym Maentwrog ac adeiladodd amryw o dai, a chododd gapel bychan yn 1843, ynghyd â mynwent wrth ei ochr gyda chymorth ychydig “frodyr sanctaidd”...

Capel a mynwent Utica, Maentwrog Uchaf. Llun W.A.Roberts
Yr oedd y tir ganddo cyn iddo ymfudo i’r America.  Rhoddodd yr enw Utica ar y capel “o barch mawr i’r lle hwnnw ar gyfrif iddo dderbyn yno y daionus bethau...”  (‘Dysgedydd’ 1867 + ‘Y Cenhadwr Americanaidd’ Tach. 1867).  Braf nodi fod yno achos o hyd heddiw yn Utica, Maentwrog.

Peidiodd Bethesda, Utica, Efrog Newydd, a bod yn eglwys Gymraeg yn 1960, a daeth yr achos i ben yn 1963 pan ymunodd y gynulleidfa â Chapel Plymouth, i ffurfio Capel Plymouth-Bethesda.

Gwraig rinweddol iawn oedd Mari Williams, Glanllynyforwyn, Ganllwyd a briododd â William Jones yn 1843, ac a fu farw 7 Mehefin 1860.  Ganwyd iddynt dair o ferched.  Ar fore Sadwrn, 16 Mehefin 1866, yr oedd William Jones yn mwynhau ei frecwast fel arfer ond erbyn y prynhawn yr oedd wedi ei gymryd yn wael, ac ymhen yr awr bu farw ym mreichiau ei ferch hynaf, Anne, o glefyd y galon, yn 78 oed.  Gadawodd berthnasau yn yr America.

Y mis nesaf cawn bennod olaf y gyfres, yn olrhain hanes Anne.

-------------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Hydref 2015.


Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

17.11.15

Mil Harddach Wyt -paratoi am y gaeaf

Yn yr ardd efo Eurwyn.
Tachwedd.


Yn yr ardd lysiau.
I’r rhai ohonoch sydd a bresych haf yn dal yn yr ardd, cofiwch eu tynnu fel bo’r angen yn awr. Hefyd tynnu dail sydd wedi crino oddiar blanhigion Ysgewyll Brusels i atal pydredd.
 
Edrych drwy nionod sydd yn cael eu cadw mewn storfa a thynnu allan rhai sydd yn mynd yn ddrwg.

Os am gael riwbob cynnar, rhowch wreiddyn rwan mewn potyn, mewn lle cynnes a chadw’r coesau mewn lle tywyll fel maent yn tyfu.

Mae hefyd yn amser i blannu coed ffrwythau hefyd a chymryd toriadau eto o Eirin Mair.

Yn yr ardd flodau.
Os am flodau cynnar pys pêr, rhaid hau y mis yma a chofio ar ôl hau bod llygod bach yn hoff iawn o’r had, felly cadwch y potiau allan o'u cyrraedd. Cadw’r planhigion mewn potiau a gofalu nad ydynt yn rhewi.

Codi tatws y Dahlia yn awr a’u sychu er mwyn eu cadw dros y gaeaf. Gwneud yr un fath efo blodau’r Cleddyf.

Rhoi llai o ddŵr i blanhigion tŷ ond dal i roi gwrtaith i’r rhai sydd yn dal i flodeuo. Dod a bylbiau sydd wedi eu plannu mewn potiau i mewn i’r tŷ, hefyd plannu rhagor. Torri i lawr blodau Mihangel (Chrysanthemums) i ryw 6 neu 8 modfedd a chodi y gwreiddiau, glanhau y pridd oddi arnynt a’u rhoi mewn bocs gyda phridd newydd (potting compost) a’u cadw mewn lle oer (mwy am hyn ddechrau’r flwyddyn nesaf).

Yn gyffredinol, mae angen glanhau yr ardd o hen blanhigion a dail a’u rhoi ar y domen gompost neu eu llosgi. Hefyd golchi’r tŷ gwydr gyda rhywbeth fel Armillatox neu Jeyes Fluid.

Mae angen hel dail sydd wedi disgyn oddiar goed rhosod a’u llosgi yn enwedig pan mae y smotyn du arnynt gan gofio os y gadewch hwy, eu bod yn debygol o heintio'r coed y flwyddyn nesaf eto.

Hefyd rhaid dyfrio o dan y coed efo Armillatox, a phlannu coed rhosod newydd rwan.
-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 1998.

[Lluniau PW]

15.11.15

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Medi 1915

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Yr oedd yr adroddiadau am rai o ddynion yr ardal yn ymadael tua'r brwydro  yn cynyddu bob wythnos, ynghŷd â gohebiaeth am glwyfedigion yn cyrraedd adref o'r ffosydd. Cafwyd hanes ambell un 'wedi ei analluogi am oes', ac yn derbyn tâl wythnosol gan y llywodraeth.

Erbyn y cyfnod hwn roedd nifer o lythyrau gan filwyr, ynghyd â rhestrau o glwyfedigion wedi ymddangos ar dudalennau'r Rhedegydd, fel ym mhob un o wythnosolion Cymru. Caed llawer iawn o wybodaeth ddiddorol parthed bywyd milwr ar faes y gad trwy gyfrwng y llythyrau hynny, a'r darlun o'r peryglon a wynebwyd gan y milwyr yn dod yn fyw i lygaid y darllenwyr.

Llythyrau a dderbyniwyd gan aelodau o deuluoedd y rhai oedd yn gwasanaethu gyda'r fyddin oedd y rhain, a'r derbynnydd wedi eu trosglwyddo i'r wasg i'w cyhoeddi. Dros gyfnod y Rhyfel Mawr anfonwyd, a derbyniwyd miloedd o lythyrau gan filwyr, o bob rhan o Brydain, ac mae sawl ffynhonnell werthfawr o gasgliadau o'r llawysgrifau ledled Cymru. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth cedwir casgliad o 50 o lythyrau a anfonwyd gan rai o aelodau Capel Rhiw (MC), Blaenau, oedd yn filwyr y Rhyfel Mawr. Llythyrau i weinidog y capel, y Parchedig John Hughes oedd y rhain, ac yn diolch iddo, ac aelodau'r capel am anfon anrhegion a llythyrau atynt i'r Ffrynt.

Cafwyd presenoldeb y Bugle Band, Seindorf Frenhinol yr Oakeley, y milwyr lleol, a gafr mewn gorymdaith fawr trwy'r dref, oedd yn arwain i gyfarfod mwy yn y Neuadd Gyhoeddus yn ystod wythnos gyntaf Medi 1915. Pwrpas y cyfarfod oedd i ddenu recriwtiaid i'r cwmni newydd o dwnelwyr oedd yn cael ei sefydlu ym Mlaenau Ffestiniog, dan ofal Evan Jones, Rhosydd.


Wedi i'r Bugle Band ganu It's a long way to Tipperary, amlinellodd y cadeirydd, yr ustus heddwch, William Owen, y rheswm dros y cyfarfod, ac aeth yn ei flaen i longyfarch Evan Jones ar ei ddyrchafiad fel Lieutenant. Byddai ef a'r naw arall ar y llwyfan oedd wedi ymrestru yn cychwyn drosodd i Ffrainc yr wythnos ddilynol. Atgoffodd pawb yno o'r cyfrifoldeb oedd yn gorffwys ar ysgwyddau'r is-gadben newydd, gan y byddai'n uchel-swyddog pwysig iawn yno. Ychwanegodd y gallai pob un oedd am ymuno fod yn dawel eu meddwl dan ei ofal.


Roedd un sylw a wnaeth y cadeirydd cyn terfynu yn agoriad llygaid. Dywedodd nad oedd Evan Jones, er ei ddyrchafiad yn Lieutenant, wedi cael dillad swyddogol. Mi fyddai hynny'n ddealladwy, efallai, wrth sylweddoli nad oedd prin bythefnos wedi mynd heibio ers ei apwyntiad. Mae'n amlwg nad oedd iwnifform swyddogol ar ei ffordd iddo o gwbl o gyfeiriad yr awdurdodau, wrth ddarllen y canlynol:
...Nid oedd wedi cael dillad swyddogol. Mae swm sylweddol wedi ei chasglu at eu cael. Mae Col.Milner wedi cyfrannu £5, ac aelodau y Cyngor Dinesig £9, a Mr Greaves swm sylweddol. Mae ganddynt mewn llaw dros £20.
Yn dilyn, cafwyd braslun gan y Cyrnol Milner o'r gwaith oedd yn wynebu'r meinars, a'r tâl a geid am ei wneud. Roedd disgwyliadau'r Swyddfa Rhyfel am i weithwyr 'Ffestiniog uno â'r adran yma yn uchel, meddai Milner, a'r bwriad oedd ei galw'n Festiniog Corps. Felly, dyma gyfle i wneud y lle yn fyd-enwog, meddai.

Wedyn cododd Evan Jones ei hun, a chael 'derbyniad brwdfrydig' chwedl y gohebydd, ac apeliodd ar rai i ymuno. Ni ddisgwyliai fwy na hanner cant, ac roedd yn falch fod Llywodraeth Prydain wedi cydnabod Ffestiniog, er i lawer o, leoedd eraill gynnig yr un gwasanaeth. Meinars 'Stiniog oedd Cyrnol Milner eisiau, meddai, gan fod y profiad a'r cymwysterau ganddynt.

Daeth Greaves, Llechwedd ymlaen i ddweud ei fod yn hyderus y byddai mwynwyr 'Stiniog yn ymateb i gais y llywodraeth. Roedd yn sicr o'r farn na ellid cael gwell - ac yn wynebu peryglon yn ddewr pob dydd.. Apeliai at y chwiorydd i beidio sefyll yn erbyn y dynion i fynd.

Dilynwyd hwn gan Robert Pierce, Newborough Street, un oedd wedi ymrestru gyda'r garfan o fwynwyr, a apeliai'n daer ar y bobl ifainc i ymuno, ac i wrando mwy ar eu dyletswyddau nag ar eu teimladau. Daeth y cyfarfod i ben gydag 'araith ragorol' gan y Parch. John Jenkins, a chyflwyniad o God Save the King i orffen.

---------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2015.



13.11.15

Pobl ‘Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 4 yng nghyfres Steffan ab Owain.
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Stolpia, yn rhifyn Mawrth 1995

Un o’r cymeriadau mwyaf doniol i adael ‘Stiniog a rhoi tro yn y Wladfa oedd Robert Jones, Swch, neu ‘Robin Sion Bach’, fel y’i gelwid.  Ar ôl bod yno am ysbaid penderfynodd Robin ddychwelyd adref ‘i Stiniog .... ac mi gewch wybod pam yn nes ymlaen.

Ymhen ychydig wedyn, dechreuodd Robin weithio yn Chwarel Lord, a ‘gweithio o dan y Co’, fel y dywedid sef gwneud hyn a’r llall i’r stiward a’r goruchwyliwr.  Pa fodd bynnag, byddai ei gydweithwyr yn y chwarel wrth eu boddau yn clywed Robin yn adrodd ei hanes yn Y Wladfa.  ‘Roedd yn un digrif ar adegau, a cheid hwyl iawn yn ei gwmni, yn enwedig o’i holi am ei anturiaethau ym Mhatagonia. 

'Sut le oedd yno Robin?'  gofynnodd un o’r chwarelwyr wrtho un tro yn y caban.
“Wel, ‘roeddwn i’n byw mewn hen dŷ mwd a’i lond o chwain", medda fo.  “Wyddost ti beth arall, prin y medrwn i stwffio i mewn iddo gan gymaint y chwain ynddo!  Methais yn lân a chysgu un noson tra bues i yno".  
'Sut fwyd oedd yno ‘ta Robin?' gofynnodd cyfaill arall iddo.
“Creda fi neu beidio” meddai Robin, “ond mi fues i’n byw ar ddail te am fisoedd yno.  Hen wlad felltigedig oedd hi,"  ychwanegodd.
'Pwy welaist ti yno?' holodd un o’r gweithwyr drachefn.
“Wel, mi welais i ‘Twm Huws Casl Acs’ a ‘Guto Ebrill’ yno" meddai -h.y. Thomas Hughes, Castle Rags, a Gutyn Ebrill y soniais amdano yn y rhifyn diwethaf.
Ceir llawer stori ddigrif am Robin, rai ohonynt am ei amser yn Chwarel Lord ac yn y dref .... ond bydd yn rhaid eu gadael at ryw dro eto.  Hoffwn yn y cyfamser droi at ‘Stiniogwyr eraill a ymfudodd i’r Wladfa dros y blynyddoedd.

Ym mis Chwefror 1931 bu farw Hugh John Hughes (Pengelli gynt) yn y Wladfa.  ‘Roedd ef yn un o’r arloeswyr a baratodd y wlad ar gyfer ei ddisgynyddion a’r rhai a ymfudodd yno yn ddiweddarach.

Ychydig iawn a wn i am y gŵr hwn, ond yn ddiweddar deuthum ar draws y cofnod yma am un o’i wyrion yn y gyfrol ‘Atgofion o Batagonia' (1980) a olygwyd gan R. Bryn Williams.  Dyfynnaf ohonno rwan:
“Glyn Ceiriog Hughes (Chupat) – Ganwyd ef yn y Wladfa,  yn Trelew, ym 1905, yn fab i John ap Hughes, yntau yn fab i Hugh John Hughes, yntau yn fab i Hugh John Hughes o Flaenau Ffestiniog a’i wraig Mary Thomas o Fangor.  Daeth tri o hynafiaid Glyn i’r Wladfa gyda’r fintai gyntaf yn 1865.”
A oedd ei daid yn ‘Stiniog yn un ohonynt?  Tybed pwy all ddweud mwy am hanes y teulu hwn wrthym?

Yn yr un gyfrol ceir cyfeiriad at ŵr o’r enw Egryn Williams (Aridino), yntau hefyd a chysylltiad â ‘Stiniog.  Fel hyn y disgrifiodd y golygydd y gŵr hwn;
“Ganwyd Egryn yng Nghwm Hyfryd, talaith Chubut, yn y flwyddyn 1913, yn wythfed plentyn i Richard Hugh Williams o Flaenau Ffestiniog, a aeth i’r Wladfa yn bum mlwydd oed yn y flwyddyn 1875.  ‘Roedd ei fam yn ferch i Aaron Jenkins, a aeth i’r Wladfa gyda’r fintai gyntaf ac a fu’n un o’r pennaf arloeswyr hyd nes y llofruddiwyd ef yn 1878.  Sonnir amdano fel ‘merthyr cyntaf y Wladfa.”
A oedd gan y teulu hwn gysylltiad â Bryn Egryn yn ‘Stiniog yma? A oes yna berthnasau iddynt yn dal ym Mlaenau Ffestiniog heddiw?  Hoffwn glywed oddi wrthych os oes gennych unrhyw wybodaeth amdanynt ...  Deallaf fod un neu ddau o berthnasau Robin Sion Bach yn dal i breswylio yn ein plith ... onid oes Billy?


11.11.15

Tanygrisiau Ddoe

Pennod un mewn cyfres o atgofion gan Mrs Mary Jones (gynt Evans), Dyffryn Ardudwy, am gymuned Tanygrisiau rhwng 1920-36. 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.


Ar y radio y bore o’r blaen roedd y Brodyr Gregory yn canu'r gân ‘I Mrs Jones a’i deg o blant – mae dyddiau gwell i ddod.’ Aeth y gân a fi yn ôl i’r dau ddegau cynnar pan oeddwn yn blentyn, hefyd yn un o ddeg o blant. Daeth hen hiraeth ataf a meddwl am fy mam a fyddai wrth ei bodd yn cael clywed fod dyddiau gwell i ddod iddi hi a’r deg o blant.

Petasai ddoe yn fory heddiw a heddiw yn fory ddoe. A oes gwir na ddychwel Ddoe? Yr oeddwn tua chwech oed pan sylweddolais fy mod yn un o ddeg o blant mewn cyfnod tlawd ymhob ystyr.
Ddoe roeddym yn deulu o dri o fechgyn a saith o enethod a oedd diolch i’r drefn, i gyd yn iach, yn feddyliol ac yn gorfforol cyffredin yn ein hagwedd tuag at ein bodolaeth.

Ein hamgylchedd oedd ardal y llechi. Y cartref yn dŷ bychan tair llofft dwbl ac un llofft fach, parlwr bach a thwll-dan-staer rhwng y gegin a’r parlwr. Roedd grât ddu ‘Ecselsior’ yn y gegin a’r popty yn cael ei gadw yn boeth bron drwy y dydd. Os oedd y gwynt o ryw gyfeiriad roedd mwg yn taro a huddug a mwg bron a’n tagu a byddai raid agor y drws cefn i greu drafft.

Roedd fy nhad yn gweithio yn y chwarel, o dan ddaear yn greigiwr. Wedi ei fagu yn un o saith o fechgyn ar fferm fechan cyfagos – Tŷ’n Ddôl. Ar ôl iddo briodi a’r plant yn dwad naill un ar ôl y llall, rhoddodd ei dad gae iddo a chwt mochyn a chwt ieir.

Roedd y ‘tŷ bach’ i lawr llwybr yr ardd at ochor y domen ludw, ac yn lwcus iawn, roedd mod cons yno. Bu un gŵr a gweledigaeth ganddo i dorri ffos o gyflenwad dŵr yr afon (oedd yn troi olwyn ddŵr y Ffatri Wlan ar ben y rhiw) i redeg o dan bob tŷ bach y ddwy res o dai tuag at ein tŷ ni. Ail-ymunai’r ffos a’r afon heibio’r llyn chwiad ‘rochor arall i’r clawdd llanw. Diolch byth.

Doedd fawr o le i ni gyd eistedd o flaen y tân ar dywydd oer ond byddai mam yn dweud fod digon o le i ni i gyd eistedd o gwmpas y bwrdd ac ni rewodd heb erioed wrth fwyta nag yfed.

Roedd digonedd o le i ni chwarae allan ar y tywydd braf ond wfft i ni ar dywydd gwlyb a clywais hi yn cwyno wrth fy nhad amryw o weithiau mewn geiriau a phwyslais arnynt, “mae’r plant yma fel y cnafon eu hunain ar y tywydd yma, maent ar draws eu gilydd yn y tŷ”. Roedd yn fyd tlawd, a chyflog bach i’r dynion, rhaid oedd bod yn gynnil hefo tanwydd a bwyd, felly hefyd dillad ac esgidiau. Prinder o’n cwmpas ym mhobman.

Ond ar ôl y gaeaf deuai y gwanwyn a dyfodiad adar yr haf, a hefyd y gog yn canu. Roedd y tymor yma yn adeg hapus, a braf oedd cael casglu blodau yn y caeau. Dyddiau yr haf yn golygu gwyliau ysgol, a phwysicaf oll – cael mynd ar drip y capel i Bwllheli mewn siarabang.

Er y dyddiau di-gysur roedd hefyd ddyddiau hapus a roeddym yn cael ein dwyn i fyny gydag arweiniad a charedigrwydd.

Roedd chwe dosbarth yn Ysgol y Pentref ac yno bedair o athrawesau a’r Prifathro (Jôs Héd), Mr R.E. Jones. Roedd dau gae chwarae yno, un i’r hogiau ac un i’r genethod.



I'w barhau...

[Llun- E.D.Roberts]

9.11.15

Ysgoloriaeth Patagonia

Mae Cyngor Tref Ffestiniog, yn sgil trefeillio gyda Rawson, yn cynnig ysgoloriaeth i berson ifanc sydd rhwng 16-30 ac sy’n byw o fewn ffiniau'r cyngor tref i ymweld â Phatagonia. Penderfynwyd yng nghyfarfod Gorffennaf 2015 i gynnig swm o £1,500 fel ysgoloriaeth o flwyddyn ariannol 2016/17 ymlaen.

Cyfle gwych
Pwrpas yr ysgoloriaeth yw cefnogi a chryfhau’r berthynas rhwng y ddwy dref, yn enwedig ymysg yr ifanc. Drwy gynnig yr ysgoloriaeth, gobeithir annog yr ifanc i feithrin perthynas hirdymor gyda’r Wladfa a’i phobl a fydd yn arwain at y gymuned ehangach yn elwa o’r berthynas.

Cynigir yr ysgoloriaeth ar ffurf cystadleuaeth traethawd ysgrifenedig ac ni ddylai unrhyw gais fod yn fwy na 1,500 o eiriau. Rhoddir marciau am y rhesymau pam yr ydych yn awyddus i ymweld â Phatagonia, beth yr ydych yn bwriadu ei wneud yno a sut ydych yn bwriadu rhannu eich profiadau gyda’r gymuned wedi ichi ddychwelyd adref.

Rheolau ac amodau
•    Rhaid bod rhwng 16-30 oed i ymgeisio a dylech fyw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog
•    Dylai unigolyn o dan 18 oed dderbyn caniatâd rhiant neu warcheidwad cyn ymgeisio
•    Dylech nodi ar y ffurflen gais os oes cysylltiad rhyngoch â Chynghorydd Tref neu un o’r beirniaid (y beirniaid sydd yn annibynnol o’r Cyngor Tref yw Mrs Elsi Jones, Mr Tecwyn Vaughan Jones a Mrs Anwen Ll. Jones)
•    Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i Gynghorwyr
•    Pe byddech yn llwyddiannus bydd angen ichi deithio i Batagonia yn ystod y flwyddyn ariannol 2016/17 ac ‘rydych yn cytuno i brynu yswiriant teithio safonol
•    Mae croeso i’r enillydd ddefnyddio’r Ysgoloriaeth i deithio’n unigol, gyda theulu, gyda chlwb neu gyda ffrind/ffrindiau. Medr defnyddio rhan o’r ysgoloriaeth i gyfrannu tuag at gostau ffrind pe ddymunir
•    Ni dderbynnir ceisiadau ar ôl y dyddiad cau, sef 15/01/2016
•    Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Ni fydd y beirniaid na’r Cyngor Tref yn gohebu gyda chystadleuwyr aflwyddiannus

Dyddiadau pwysig:
  
  
Ionawr 15fed, 2016    - dyddiad cau'r gystadleuaeth
  
Mawrth 1af, 2016         - cyhoeddi'r enillydd ar ddydd Gŵyl Dewi!
  
Ebrill 2016         - rhoi’r Ysgoloriaeth (Ysgoloriaeth 2016/17)



Dyma gyfle unigryw i berson ifanc i ymweld â Phatagonia Gymraeg. Cysylltwch gyda’r Clerc am fwy o wybodaeth a ffurflen gais.


Dyddiad cau: Ionawr 15fed, 2016

Cyngor Tref Ffestiniog,
Swyddfa’r Cyngor,
5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog,
LL41 3ES
01766 832398
cyngortrefffestiniog[at]yahoo.co.uk


7.11.15

Rhandir mwyn

Ydych chi awydd tyfu llysiau a ffrwythau? Neu flodau i'w torri ar gyfer y tŷ?
Dim lle? Beth am gadw rhandir?

Oes, mae angen buddsoddi 'chydig o amser a nerth bôn braich a chwys, ond gall fod yn weithgaredd buddiol iawn.

Bwyd iach, a'r boddhad o ddweud "fi dyfodd hwnna"!
Treulio mwy o amser yn yr awyr iach.
Cadw'r corff a'r meddwl yn heini.
Cwmni da a digon o hwyl.

Paul, Elfed, a Gillian, wedi mentro allan ar fore glawog. 7fed Tachwedd 2015. Llun- PW.



Be' sy' gennych chi i'w golli?

Mae dau randir ar gael ar hyn o bryd ar safle'r gors fach, o dan Ysgol Glanypwll.
Dim ond £25 y flwyddyn ydi rhent.




Awydd?

Cysylltwch ag unrhyw aelod o bwyllgor Cymdeithas Randiroedd Bro Ffestiniog: galwch i mewn i siop Eifion stores, neu cysylltwch trwy dudalen Gweplyfr/Facebook Slate to plate.



Os fyddai'n well gennych gael sgwrs yn gyntaf efo un sydd wedi cadw rhandir ers tair blynedd, gyrrwch neges i dudalen gweplyfr Llafar Bro, neu yrru ebost at Paul (manylion ar y dudalen PWY 'DI PWY).

Edrych ymlaen i'ch gweld!





PW.

6.11.15

O Lech i Lwyn- adar y Migneint

Pennod arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a'r awyr agored ym Mro Ffestiniog.
Erthygl gan y diweddar Emrys Evans o rifyn Hydref 1998.

Hanner milltir, fwy neu lai, yw hyd y ffordd oddi wrth y Tŷ Ciper (a welir ar ochr y ffordd fawr rhwng Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan) hyd at lan Llyn Conwy. Ar bob llaw mae’r Migneint maith a’r rhan yma ohono yn rugog iawn. Torrir ar yr undonnedd yma gan ambell i bant corsiog a chlwt gweiriog, tra gwthia ambell i faen a chreigan lwydaidd i olau dydd drwy’r mawn. Pantiog a thyllog a digon garw yw’r fordd yma at y llyn, ac nid doeth, os oes gan rhywun rywfaint o feddwl o’i gar, yw mynd yn rhy wyllt ar hyd-ddi. Felly, pwyll piau hi. Ac, mae gan hynny ei fanteision. O fynd yn araf y mae rhywun yn sylwi mwy ar yr hyn sydd o’i gwmpas. Er yn undonog ac er yn unlliw iawn ar bob llaw i’r olwg, eto ...

Un diwrnod ychydig flynyddoedd yn ôl, wrth araf ddilyn y ffordd a cheisio osgoi y tyllau mwyaf, a rhyw daflu golwg o gwmpas yr un pryd; o ganol y grug ar ychydig o godiad tir ac o fewn rhyw bumllath i’r ffordd, cododd aderyn mawr brown-dywyll ei liw. Aderyn ysglyfaethus, heb amheuaeth. Golwg cwta, brysiog, yn unig a gafwyd arno, nad oedd wedi diflannu dros gefnen o’r tir. Roedd yn fwy na’r un aderyn ysglyfaethus a welais i o’r blaen. Eryr euraidd? Rwy’n credu mai dyna ydoedd, wedi crwydro o’i gynefin yn y gogledd. Gwelwyd, hefyd, gan gyfaill, yn ystod yr un dyddiau, a’i ddisgrifiad ohono yn cydfynd â’r hyn a welais innau.

Tair blynedd yn ôl crwydrodd rhai  o farcutiaid coch canolbarth Cymru, wedi rhywfaint o lwyddiant ar fagu eu cywion, yn fwy i’r gogledd. Gwefr oedd gweld rhai ohonynt o gwmpas Llynnoedd y Morwynion a’r Gamallt, ond eu gweld o bell, yn unig, wrth iddynt hedfan. Yna, un diwrnod, wrth fynd ar hyd y ffordd am Lyn Conwy a dod i olwg hen faen llwyd-ddu rhyw gan-llath o’r ffordd, canfod barcud yn gorffwys arno.

Stopio’r car heb ei ddychryn na’i anesmwytho, a chyda’r gwydrau ei wylio’n hir ac yn hamddenol. Cael cyfle i nodi patrymwaith ei liwiau a’i blu; gwledda’r llygaid ar yr aderyn hardd a phrin yma, aderyn dieithr i’n hardal. Yna, fel pe wedi rhoi digon o gyfle imi gael golwg iawn arno, heb unrhyw ffwdan na brys lledodd ei adain a chodi i ehedeg. Yn osgeiddig, yn feistr perffaith ar ei gyfrwng, difalannodd i gyfeiriad y llyn. Gwefr ar wefr yn wir.

Mis Awst diwethaf, wrth falwena ar hyd y ffordd, y tro yma oddi wrth y llyn a thuag at y Tŷ Ciper, cododd adernyn o ochr y ffordd. O’r cip arno a gefais gwelais mai aderyn ysglyfaethus ydoedd, ond un bychan, maint brych y coed, sef un o’r bronfreithod. Symudai’r car mor araf fel yr arhosodd yn ei unfan bron ohono’i hun.

Disgynnodd yr aderyn ar garreg rhyw ddecllath tu draw, gan ymroi i fwyta rhywbeth yr oedd wedi’i ddal. Fedrwn i ddim gweld beth oedd ganddo, ond roedd yr aderyn ei hun yn berffaith eglur drwy’r gwydrau. Y cefn yn llwyd-las gweddol dywyll; y frest yn felynaidd gyda stribedi tywyll ar hyd-ddi, a’r gynffon yn las-lwyd a bariau tywyll arni. Iar y cudyll bach heb unrhyw amheuaeth. Y lleiaf o’r holl hebogiaid. Aderyn prin iawn. Bu yno, fel petai hi ddim yn ymwybodol o gwbl fy mod i’n ei gwylio, am rai munudau, gan roi cyfle heb ei ail i’w gweld y glir a medru nodi ei lliwiau, ei maint a phopeth ynglŷn â hi. Munudau o hyfrydwch pur, a’r rheini’n rhai gwefreiddiol.

Os mai ond bob yn hyn a hyn y mae ‘sêr’ fel y rhain i’w gweld, y mae rhai mwy cyffredin i'w gweld yn aml, aml. Hyd yn oed ym mhwll y gaeaf, pan mae y rhan fwyaf o adar yr ucheldir wedi cilio dros dro i lawr gwlad neu dros y môr, y mae y cigfrain i’w gweld fel rhyw garpiau duon uwchben y grug. Nid yw noethwynt y gaeaf na brathiad y rhew yn ei gyrru hwy ym mhell o’u cynefin. Ond, fel mae’r gaeaf yn gorfod rhoi lle i’r gwanwyn, mae yna ailboblogi ar y rhannau ‘diffaith’ yma o’r Migneint.

Yn ei ôl y daw gwas y gog, o dir is, ac yna tinwen y garn o dros y môr; yn ei amser daw pibydd y dorlan, neu Wil dŵr i rai ohohom, wedi treulio’r gaeaf yn aber rhyw afon neu o dramor. Wrth eu cwt, ‘Daw gwennol lwyd a gwanwyn’ i nythu ac i fagu yn y Tŷ Ciper.

Rhyw hanner milltir o ffordd bantiog a thyllog y mae’n anoeth gyrru’n rhy wyllt arni....


----------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Llun- cudull bach,  Comin Wikimedia. 
Cydnabyddiaeth:  Ómar Runólfsson (Merlin - Falco columbarius - Smyrill) [CC BY 2.0 (http://creativecommons.org/licenses/by/2.0)], via Wikimedia Commons

4.11.15

Pobl y Cwm- gwaith a gwewyr

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.    
Rhan 6 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.

Y chwareli oedd prif ddiwydiant y cyfnod hwnw. Dechreu yn fore ar ei gwaith tan yn hwyr y nos. Doedd dim llawer o wyliau yr adeg hono, ond dydd Sadwrn pen mis. Byddai y rhan fwyaf o honynt ddim yn gweld goleu dydd am agos i saith mis mewn blwyddyn, y rhai hyny oedd yn gweithio yn bell tan y ddaear. Gwaith caled i chwarelwyr yw troi y graig yn fara i gynnal eu teuluoedd.

Roedd trên pwrpasol i'r gweithwyr  o Trawsfynydd i'r Blaenau, trên gweithiwrs oedd ei henw. Byddai pob un dyn yn ei le yn yr un carage bob amser. Dyna olygfa na wnaf fi ei anghofio, gweld y dynion yn dod oi gwaith fin nos yn dyrfa a'i gwynebau a'i dillad yn llwyd wyn o laid y gareg. Yn eu hesgidiau hoelion trymion yn clecian ar y ffordd fel swn taranau. Byddai torf yn cyrhaedd o giat y stesion i cornol Engedi, bob un yn dri a pedwar rheng. Byddai gwahanu yn fan hono am Belleview a Highgate a'r gweddill yn cyrchu i bob ran o'r Llan. Roedd rhan fawr o'r dyrfa wedi mynd am Pant Llwyd a Chwm Cynfal. Gweithwyr y chwareli oeddynt hwythau bron i gid. Dynion y chwareli welid ar y ffordd tua pump or gloch y dydd yr adeg hono yn sgwrsio yn braf am helyntion y dydd, nid ceir fel sydd heddyw yn gwibio heibio dyn fel mellden.

Byddai damweiniau yn digwydd yn fynych yn y chwareli y pryd hyny, a doedd fawr iawn o gyfleusderau at wella i'r bobl. Os oedd rhaid cael llawfeddygyniaeth, roedd yn rhaid hefyd i'r arian fod ar law yn barod cyn y gwnai y meddyg ddechreu ar y gwaith, a chofio y cyfnod, yn mhob gwaeledd roedd yn rhaid i laweroedd o deuluoedd ddioddef y canlyniadau am fod yr arian yn brin.

Ychydig iawn o bobl cyffredin fydda yn mynd at y meddyg. Os na fyddai rhyw salwch neillduol o fawr arno. Byddai pawb yn gofalu fod pethau at wella wrth law yn y ty ganddynt. Os byddai anwyd ar rhywun Tinti-Riwbob a Baragoric fyddai ffisig. Os byddai caethder yn y frest rhoi gwlanen coch a camphor arni. Os dolur gwddw, rhoi sligen o gig moch gwyn yn draed yr hosan fyddai chwi yn ei wisgo y diwrnod hwnw, a'i lapio fo am y gwddf a rhoi safty pin iw ddal yn saff. Os byddai ddim archwaeth bwyd arnoch, rhaid cymeryd llwyaid fawr o Wermod lwyd y peth cynta yn y bore.

Os yn ddi-fywyd ac yn isel ysbryd, cymeryd tri dropyn o Asipheta bob bore, wedi ei roi ar lwmp o siwgr gwyn. At boen cefn, gwasgu gwlan o ddwr camimel berwedig a'i lapio am y cefn. Os oedd cur pen arnoch roedd hyn yn arwydd nad oedd y bowels ddim yn dda, dose o Natur Herbs. Os byddai gofid fel cryd cymalau ar ryw ran or corff, wel dyna fo, rhwbio hefo Oil Morris Evans nes byddech chwi yn cynhesu a'r boen yn diflanu yn llwyr. Ond cofiwch roedd o yn drewi.

Dechreu y gaua cymeryd llond llwy o triogl  a brwmstan wedi ei cymysgu i gadw gwaed yn lân rhag cael plorod. Byddai gan fy nhad eli llosg wedi ei wneyd cartre, ac un i tynu cyrn oddiar draed ac i wella llosg eira. Rhaid oedd cael rywbeth i stopio ddanodd, clap bach o soda yn y dant, neu halen, neu ddwr oer. Doedd fawr o ddeintyddion ar gael yr adeg hono. Os yn pesychu yn galed rhaid oedd cymeryd llefrith poeth gyda mwstard, neu fenyn ynddo.

Doctor Roberts rwyf fi yn ei gofio cynta. Un o deulu Dr Roberts Isallt, sydd a'i hanes yn hyddysg trwy'r wlad. Y clefydau oedd yn brawychu y trigolion y pryd hyny oedd Diptheria, Ticáu, Clefyd Ysgyfaint, Frech Goch a Clwy Coch a Frech Wen. Bu Dr R.Lloyd, un o fechgyn Ffestiniog yn feddyg yn y Llan am gyfnod. Daeth Dr D.M.Evans ar ol hyny, am gyfnod o ryw bymtheg mlynedd ar hugain.
--------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

 

2.11.15

Peldroed. 1951-1954

Parhau'r gyfres yng ngofal Vivian Parry Williams. 
Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau. (Allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones)

1951-52
Ym 1951-52 gwnaeth y Blaenau yn well yn y Gynghrair ac yn salach yn y cwpannau.  Lluchiodd Pwllheli nhw allan o ddwy gwpan.  Roeddynt yn methu â sgorio dim mwy nag un neu ddwy gôl yn y gemau cwpan, ond yn y Gynghrair roeddynt yn sgorio gyda rhwyddineb.

Arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
Cafodd y tîm saith gêm heb golli ar ddiwed y tymor;  roedd hynny yn dipyn o gamp ar y pryd ond yr oedd campau cryfach i ddilyn.  Hwn oedd y tymor y sgoriodd Stiniog 14 gôl mewn dwy gêm yn erbyn Caernarfon.

Roedd gan Wrecsam dîm yn y Gynghrair erbyn hyn.  Adref yn erbyn Porthmadog cawsant sgôr o 5-5;  meddyliwch, sgorio bum gwaith oddi catref a methu ennill!  Y cysur mawr yn 1951-52 oedd cael curo Pwllheli 9-0 mewn gêm gartref.  Ond ym Mhwllheli medru sgorio tair gôl heb gael pwynt.

Sgoriodd Stiniog gant o goliau yn y Gynghrair.  Orthin Roberts oedd golgeidwad y Blaenau erbyn hyn.  Roedd Orthin yn fachgen lleol a'i dad wedi chwarae yn y gôl i Stiniog yn y dau a thridegau.  Daeth John Weaver yn lle Jack Griffiths.  Roedd Gilmour, Eddie Cole, Bagnall, Shepherd a Meirion Roberts yn dal ati, ond tua chanol y tymor bu'n rhaid cael Tommy Welsh yn lle Meirion.  Eraill o'r newydd oedd Walter Roberts, Tom Howshall a Forsythe.

Cafodd Meirion Roberts 21 gôl mewn 22 o gemau.  Nid oedd Welsh mor llwyddiannus y tymor hwnnw ond cymerwyd mantell Meirion gan Shepherd a sgoriodd ugain gôl.  Yr oedd Billy McMinn, Rhyl, yn creu dychryn gyda'i gicio cryf am gôl o bellter.

Chwaraewyr lleol a ymddangosodd yn achlysurol oedd David W.Thomas, Gwyn Morgans, Reg Roberts.  Sgoriodd Meirion Roberts chwe gôl pan gurodd y Blaenau Wrecsam 9-1. 

1952-53
Cafodd Stiniog 127 o goliau yn 1952-53 ond tymor go gyffredin a gawsant ar y cyfan.  Yn ymuno â'r Gynghrair yr oedd Tonfannau ac yr oedd Cei Connah yn ychwanegol hefyd.

Roedd hi'n dechrau mynd yn arferiad i Stiniog wneud yn wael yng Nghwpan Cymru ac fe'u curwyd 6-2 gan y clwb newydd o sir Fflint.  Ddwywaith yn ystod y tymor hwn fe enillodd y Blaenau oddi cartref gyda sgôr o 11-2, yng Nghyffordd Llandudno ac yng Nghei Connah.  Tom Welsh oedd yn sgorio fwyaf erbyn hyn, gydag Albert Shepherd yn dal i sgorio'n drwm.  Fred Corkish oedd yn y gôl i'r Blaenau yn 1952-53.  Chwaraewr  profiadol arall a fachwyd oedd Bill Bassett.

O'r hen lawiau oedd yn aros, Eddie Cole, McMinn ac Ellis Jones.  Bu cryn gyfnewidiadau yn y tîm ac yr oedd chwaraewyr lleol yn medru hawlio eu lle yn fwy arhosol, megis Gwyn Morgans, R.E.Jones, Cyril Davies.  O'r newydd o du allan i Stiniog ymunodd Watkin Hughes, Molyneux, Alan Gordon a Ron Radcliffe.

1953-54
Ni chafodd y clwb fawr o hwyl ym 1953-54.  Saith deg tri gôl a sgoriwyd mewn 41 gêm ac adlewyrchir hyn gan y ffaith mai Tony Roberts (12) oedd y sgoriwr uchaf.  Daliai Billy McMinn yn deyrngar i'r Blaenau, ac yr oedd Fred Corkish hefyd yn dal gyda hwy.

Wynebau newydd oedd McFarlane, Dick Jones (Llanrwst), Feeney, Richie Lloyd, Hugh Wyn Williams, Black, a D.J.Williams.  Bechgyn lleol a ymddangosodd oedd Alun Powell, (Dolwyddelan), Jim Morris, Jack Morris, David Morgan, Arwyn Tibbott Williams.

Dau frawd lleol a chwaraeodd unwaith oedd John Arthur Jones a Vernon Jones.  Bu'n rhaid i'r pwyllgorddyn Harry C.Williams chwarae yng Nghei Connah.
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Mai a 
Mehefin 2005.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.