15.10.15

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Catrawd y Meinars

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf. Y cyfnod Awst –Medi 1915 sydd dan sylw y tro hwn.

Diwedd mis Awst 1915 oedd y cyfnod pryd y gwnaed ymdrech i sefydlu carfan o fwynwyr 'Stiniog i fynd i dwnelu i'r Ffrynt. Fel a ddywedwyd yng ngholofn newyddion Blaenau Ffestiniog, yn Y Rhedegydd:
“Mae ymdrech arbennig yn cael ei gwneyd i gael nifer o fwynwyr profiadol i fyned allan i Ffrainc i wneyd gwaith arbennig mewn cysylltiad a'r frwydr. Mae y cyfaill ymroddgar Mr E.Jones, Rhosydd, wedi ymdaflu i'r gwaith ac nis gellir cael ei well..”
Lifftenant Evan Jones
Hwn oedd yr Evan Jones a fu'n rheolwr ar chwareli Rhosydd a Chroes Ddwy Afon ym mhlwyf Ffestiniog. Roedd yn ddyn adnabyddus yn y fro, ac fe ddyrchafwyd ef yn farchog yn ddiweddarach, oherwydd ei wasanaeth i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Mawr, ac am  ei gyfraniad helaeth i sawl pwyllgor a chymdeithas yn yr ardal. Fel y cawn weld yn yr ysgrif hon, mae llawer o gyfeiriadau at Evan Jones dros yr wythnosau dilynol.

Bu i fwynwyr 'Stiniog gyfrannu llawer tuag at yr ymgyrch i dyllu twneli dan ffosydd y gelyn dros gyfnod y rhyfel.

Roedd papurau wythnosol Cymreig eraill yn rhoi sylw i'r gatrawd arfaethedig newydd hefyd. Dyma ddywed Gwyliedydd Newydd ar 7 Medi 1915 am y syniad:
“Gwasgarwyd y newydd yma ddiwedd yr wythnos fod eisieu oddeutu 500 o fwynwyr (miners) profiadol i fynd allan i Ffrainc i gyflawni gwaith arbenig ynglŷn â'r rhyfel. Dywedir fod Mr Evan Jones, Rhosydd, yn mynd allan fel arweinydd iddynt, ac nis gellid ei gymhwysach”.
Rhaid cofio mai gwirfoddolwyr fyddai pob un o’r dynion oedd yn barod i ymuno gydag Evan Jones yn yr ymgyrch hon, fel ym mhob adran o’r lluoedd arfog. Yn Ionawr 1916, oherwydd prinder eneidiau ar gyfer y gyflafan fawr, gorfu i’r llywodraeth gyflwyno deddfau gorfodaeth.

Erbyn dechrau Medi 1915, roedd gan Y Rhedegydd hyn i'w ddweud am yr ymgyrch i ddenu meinars o chwareli 'Stiniog i ymrestru yn y cwmni arbennig hwnnw:
“Mae'r gwaith o ffurfio adran o feinars i fynd allan i faes y rhyfel yn Ffrainc yn awr mewn llaw ac yn prysur cael ei gario ymlaen. Llongyfarchiadau i Mr Evan Jones ar ei ddyrchafiad yn Lieutenant gyda'r Royal Engineers i ofalu am yr adran yma. Dymunwn pob rhwyddineb i gael gafael ar ddynion cymwys ac effeithiol i'r gwaith, a'r rhai hynny yn gynwysedig o wŷr Ffestiniog, yn unig, ac i'w hadnabod fel y cyfryw. Ni chaniateir i ni gyhoeddi llawer o fanylion am yr adran yn y papur, a hynny am resymau amlwg. Ond gallwn ddweud y cynygir telerau rhagorol i'r rhai ymunent a'r adran hon – gwell na rhai y milwr cyffredin, er y cyfrifir bod y perygl yn llai. Mae y glowyr eisoes wedi gwneud yn dda yn y mater hwn...Yn wyneb hyn ni bydd ein chwarelwyr yn ôl o wneyd eu rhan. Deallwn fod nifer dda o ddynion rhagorol a gweithwyr medrus eisoes wedi ymuno, a diau y bydd llawer eto yn eu dilyn...”
Yr oedd ambell adroddiad o'r papur, fel uchod, yn tueddu i gefnogi'r ymgyrch recriwtio, ac fe ellid meddwl ar brydiau mai swyddog ymrestru fyddai'n ysgrifennu'r eitemau. Ond ar yr un pryd, cafwyd adroddiadau oedd yn pryderu am y bechgyn a oedd yn gwasanaethu ar y ffrynt. Ond beth bynnag fath o ohebiaeth a ymddangosai, byddai'r rhethreg arferol am ddewrder y milwyr, ac am eu haberth dros 'eu gwlad a'u brenin' yn gorlwytho'r adroddiadau. Prin iawn, os o gwbl, fyddai eitemau neu lythyr yn beirniadu'r Swyddfa Rhyfel a'i chefnogwyr yn ymddangos yn ystod misoedd cyntaf Rhyfel Mawr. Roedd Y Rhedegydd, fel pob un papur newyddion y cyfnod, yn gweithredu fel siop siarad ar ran swyddogion y Swyddfa Rhyfel ar y pryd.

------------------------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2015.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon