1.10.15

Hir oes i’r Moelwyn Mawr !

Peidiwch â choelio be’ dach chi’n ddarllen yn y papurau gyfeillion: mae’r Moelwyn Mawr yn fynydd! Efallai mai arwydd o safon y wasg a’r cyfryngau Cymraeg a Chymreig ar hyn o bryd, oedd y stori ddwy-a-dima yn nyddiau cŵn mis Awst, am y Moelwyn Mawr.

Mi gawson ni ddyddiau o falu awyr a rhincian dannedd nad oedd y Moelwyn Mawr yn ‘fynydd’ bellach, ac enghreifftiau lu o bapurau a gwefannau yn atgynhyrchu yr un erthygl wallus (gair-am-air mewn rhai achosion), heb ofalu bod y ffeithiau’n gywir.

Y Moelwyn Mawr ar y chwith, a'r Garn Lwyd mewn cylch. Llun Paul W. 13eg Medi 2015

Yr hyn oedd wedi digwydd mewn difri’ oedd bod y rhestr o fynyddoedd sydd dros ddwy fil o droedfeddi yng Nghymru yn arfer cynnwys dau ‘gopa’ gwahanol ar y Moelwyn Mawr, ond ar ôl ail-fesur eleni fe benderfynwyd israddio’r isaf ohonynt, sef y Garn Lwyd, ar y grib ogleddol. Felly dim ond un copa sydd ar y rhestr rŵan.  Hynny ydi, mae prif gopa’r Moelwyn Mawr dal ar restr mynyddoedd 2000’ Cymru.


Meddyliwch am y peth mewn difri’, bod newyddiadurwyr yn fodlon ail-adrodd stori anghywir mor ddall, na fedran nhw hyd yn oed edrych ar fap am ychydig eiliadau a meddwl: os ydi’r Moelwyn Mawr ddim yn fynydd, sut fod y Moelwyn BACH heb ei israddio?!

A’u bod yn rhy brysur i wneud ymchwil hanner munud i weld bod uchder y ddau Foelwyn yn 770m a 710m –sydd ymhell  dros y trothwy o 610m sy’n gwneud mynydd yn fynydd!

Dau doriad papur newydd o ganol Awst eleni: rwtsh a lol-botas-maip anfaddeuol. Does yr un o'r ddau gyhoeddiad (Golwg. Y Cymro) wedi cywiro'u camgymeriad nac ymddiheuro.
Aros mae'r mynyddau mawr.

Fel hyn y canodd William Jones am ‘Y Moelwyn Mawr a’r Moelwyn Bach’:

   Gwnaeth Duw’r ddau Foelwyn, meddant i mi, 
   O garreg nad oes ei chadarnach hi.
   Ond wrth syllu arnynt ambell awr, 

   Ar fore o wanwyn, amheuaf yn fawr
   Mai o bapur sidan y torrodd o, 

   Y ddau ohonynt ymhell cyn co’,
   A’u pastio’n sownd ar yr wybren glir,

   Rhag i’r awel eu chwythu ar draws y tir.

Ar ôl gyrru gohebydd yno yn ddiweddar, gall Llafar Bro gadarnhau mai o gerrig cadarn iawn y creuwyd y Moelwynion, a’u bod nhw yma o hyd i warchod ein bro rhag rwdlian.
PW

-------------------------
Yr erthygl uchod yn seiliedig ar ddarn a ymddangosodd ar dudalen flaen rhifyn Medi 2015.

O ddiddordeb hefyd efallai: Cyfres 'Mynydd' 2017



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon