1.6.15

Sgotwrs Stiniog- cyfoeth Llyn Morwynion

Erthygl o Ionawr 2003 yng nghyfres reolaidd Emrys Evans.

LLYN MORWYNION
Yr hyn yr ydw’i am ei wneud y mis yma yw sôn rywfaint am Lyn y Morwynion a’i gwmpasoedd, ond gan adael sôn am ei bysgota tan ryw dro eto. Yr hyn sydd wedi fy sbarduno i wneud hynny yw imi gael pwt o sgwrs hefo person a oedd yn weddol ddieithr i’r ardal.

Llyn Morwynion, Y Garnedd, a Charreg y Foelgron. Llun gan PW, Mai 2015

Roedd wedi bod am dro wrth Lyn y Morwynion, ac wrth ddisgrifio y lle a’r cwmpasoedd y geiriau a ddefnyddiodd oedd ‘unig, moel, llwm,’ a ‘fawr o ddim i’w weld yno’, ac yn y blaen. Yn amlwg doedd y lle ddim wedi gwneud  rhyw lawer o argraff arno.

Ceisiais innau, yn y tipyn sgwrs a gefais ag ef, roi ar ddeall iddo fod Llyn y Morwynion a’r ardal o’i gwmpas yn lleoedd diddorol iawn, iawn.

Wyddai’r gŵr yma ddim oll am chwedl Gwŷr Ardudwy a merched Dyffryn Clwyd, a sut y cafodd y llyn ei enwi yn Llyn y Morwynion yn ôl y chwedl yma. Doedd o chwaith ddim wedi clywed sôn am Feddau Gwŷr Ardudwy sydd yr ochr draw i’r Drum a’r Garreg Lwyd o’r llyn, nac am Fryn y Castell sydd yn ymyl y Beddau a chysylltiad hwnnw â phedwaredd ran y Mabinogion sy’n cael ei galw yn Fath fab Mathonwy, ac esboniad arall o sut y cafodd Llyn y Morwynion ei enwi.

Y llyn wedyn: mae yna bethau o ddiddordeb o gwmpas glannau hwnnw mewn rhannau ohono.
Llyn naturiol yw Llyn y Morwynion, ond iddo gael ei eangu. Fel y tyfodd y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog ac y cynyddodd y boblogaeth mewn canlyniad i hynny, gwnaed Llyn y Morwynion yn llyn dŵr i’r ardal er mwyn sichrau cyflenwad o ddŵr glân i’r cyhoedd. Gwnaed argae ym mhen isa’r llyn yn 1879, a chodwyd ei arwynebedd o rhwng 12 a 13 troedfedd, gan foddi rhannau o’r tir o’i gwmpas.

Ar un adeg yr oedd tŷ ar lan Llyn y Morwynion a rhai’n byw ynddo hyd at yr 1890au. Gwelir o hyd ychydig o’i olion wrth ymyl yr argae. Gweithio yn y chwareli cyfagos a wnai’r dynion y rhan amlaf, fel, er engraifft, Chwarel Bryn Glas sydd islaw pen isa’r llyn; Chwarel y Drum sydd yr ochr arall i’r gefnen o’r un enw; Chwarel y Foelgron sydd y tu ucha i’r llyn; a Chwarel Groes y Ddwy Afon sydd ond ychydig pellach na’r Foelgron.

Yn ôl cyfrifiad 1871 roedd teulu o un-ar-ddeg yn byw yn Nhŷ Llyn y Morwynion. Y penteulu oedd Cadwaladr Jones, chwarelwr 44 oed. Gydag ef yr oedd ei wraig, pump o ferched a phedwar o feibion.  

Eithr nid yn ystod y cyfnod diweddar y bu pobl yn byw ar lan Llyn y Morwynion. Ym mhen uchaf yr un ochr o’r llyn y mae y gongl a elwir gan y pysgowyr yn Badell Fawnog. Rhyw hanner can llath o’r lan, ar ychydig o godiad yn y tir, mae olion cwt crwn, neu Gwt Gwyddel, fel y’i gelwir hefyd. Mae hi’n amlwg fod yna rai’n byw ar lan hen Lyn y Morwynion ryw oes a fu, pryd bynnag oedd hynny.
Pan godwyd arwynebedd y llyn yn ôl yn 1879, a boddi’r rhan yma, dros y blynyddoedd wedi hynny bu dŵr y llyn yn araf erydu y glannau. Yn y man ac o dipyn i beth dechreuodd Cwt Gwyddel arall ddod i’r golwg. Erbyn heddiw tua’i hanner sydd i’w weld, gyda’r hanner arall yn dal o’r golwg o dan ddwy droedfedd neu fwy o fawn a oedd wedi hel arno dros y canrifoedd. Rhagor o dystiolaeth fod dyn a’i dylwyth wedi bod yn trigo ar lan yr hen Lyn y Morwynion.

Mae hi’n bosibl, ar bwys y trwch o fawndir sydd wedi casglu ar y Cwt Gwyddel yma, yn ôl barn archaeolegwyr, y gallai hwn ddyddio’n ôl i Oes yr Efydd. Ac roedd Oes yr Efydd yn dod i ben tua 500 mlynedd cyn geni Crist. Os yw’r damcanu hyn rywle o’i chwmpas hi, dyna fynd yn ôl oddeutu 2,500 o flynyddoedd beth bynnag, ac efallai mwy.

Os nad yw chwedloniaeth yn apelio, na hen hen hanes, beth am hanes mwy diweddar, sef hanes y diwydiant llechi sydd o gwmpas y rhan yma o’r ardal? Ychydig y tu isaf i’r llyn y mae Chwarel Bryn Glas. Bu rhai o aelodau Fforwm Plas Tan y Bwlch yn cofnodi ei hanes hi yn o ddiweddar.

Yn y tir y tu uchaf i’r llyn y mae rhagor o gyfle i ymwneud ag archaeoleg diwydiannol ar Chwarel y Foelgron. Chwarel Pen Llyn oedd yr hen enw arni, a does dim rhaid dweud pa ‘lyn’ a olygir. Mae nifer o olion chwilio am y gwely llechfaen i’w gweld yn y tir sy’n codi o lan Llyn y Morwynion.
Mae y tipyn ysgrif yma wedi  mynd yn rhy faith o lawer a rhaid yw rhoi pen ar y mwdwl rhag blino bawb.

Ond, Llyn y Morwynion a’i gwmpasoedd a ‘fawr ddim i’w weld yno’!!!
------------

[Ambell lun arall o ardal Llyn Morwynion ar wefan Ar Asgwrn y Graig]


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon