26.2.15

Clwb Nofio Bro Ffestiniog

Cyfnod prysur i Glwb Nofio Bro Ffestiniog

Mae hi wedi bod eithaf prysur i aelodau'r Clwb yn ddiweddar, gyda nofio noddedig 24 awr a'r gala gymunedol gyntaf erioed.


Fel diolch am waith caled ac ymroddiad y bobl ifanc, cafodd 38 o aelodau gyfle yn ddiweddar i fwynhau diwrnod o weithgareddau llawn hwyl mewn atyniadau lleol gyda chinio yn Antur Stiniog a chyffro wedyn ar linellau ZipWorld gyda hwyl Bounce Below i ddilyn.

Meddai Paul Williams, Rheolwr Pwll Nofio Bro Ffestiniog a Hyfforddwr y Clwb Nofio: ‘Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r plant anhygoel hyn. Mae gweithio gyda nhw, a’u gweld yn datblygu, wir yn anrhydedd. Eu gweld yn ennill y gala nofio diweddar oedd uchafbwynt fy ngyrfa hyfforddi. Hoffwn ddiolch i'r rhieni am eu cefnogaeth gyson, ac i Gymuned Bro Ffestiniog am eu haelioni. Mae gennym le i fod yn falch iawn o'r nofwyr bach gwych.’

Daw’r ganmoliaeth yn sgîl yr her nofio noddedig 24 awr diweddar lle gwelwyd plant o chwech i 15 mlwydd oed yn nofio hyd y pwll 4,380 o weithiau - cyfanswm o 75 milltir. Llwyddwyd i godi'r swm anhygoel o £3,272 a fydd yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y clwb i wella datblygiad nofwyr lleol.

Yn ogystal â’r gamp arbennig yma, mae Clwb Nofio Bro Ffestiniog wedi ennill eu Gala Gymunedol cyntaf erioed, sy'n dangos pa mor bell y mae'r nofwyr wedi dod yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gwynedd Iach: ‘Mae'n wych gweld y clwb nofio ym Mro Ffestiniog yn gwneud mor dda. Llongyfarchiadau mawr iddynt. Mae'n amlwg eu bod wedi datblygu yn sylweddol, a chyda'r offer newydd, pwy a ŵyr pa mor bell y gallant fynd?’

Os am wybodaeth am y clwb nofio, yna ffoniwch 01766 831066.

[Darn a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2015]

21.2.15

O'r Archif -Trem yn ôl

Pegi Lloyd Williams yn dewis pigion o’r archif. Y tro hwn, darn a ymddangosodd yn wreiddiol ugain mlynedd yn ôl, yn rhifyn Ionawr 1995.

Dathlu Canmlwyddiant Ysgol y Moelwyn 1895-1995
Agorodd Ysgol y Moelwyn ei drysau am y tro cyntaf ar 15 Ionawr 1895, ond nid o dan yr enw yna, na chwaith yn yr adeilad y mae hi ynddo fo heddiw. Yr enw gwreiddiol arni oedd Ysgol Ganolraddol Ffestiniog, neu’r Ffestiniog Intermediate School. Roedd y Llywodraethwyr wedi prynu tir yn 1894 ond doedd dim arian i adeiladu’r ysgol newydd ar y pryd. Dyna pam mai yn festri Capel Rhiw y cychwynodd pethau – 37 o ddisgyblion yng ngofal y Prifathro ifanc, Frank Paul Dodd, ac athrawes o’r enw Miss Dobell.

Roedd Capel Rhiw yn derbyn rhent o £15 y flwyddyn ar y festri ond aeth honno’n rhy fach yn fuan iawn a symudwyd y merched i gyd i festri Capel Garreg-ddu yng ngofal yr athrawes. Yn 1897 daeth pawb o dan yr un to unwaith eto, yn festri Capel Bowydd y tro yma.

Yn y cyfamser roedd y gwaith o godi arian yn mynd yn ei flaen. Roedd angen dros £7,000 i gyd a doedd y Llywodraeth yn Llundain ddim yn barod i gyfrannu ceiniog! Ond casglodd y chwarelwyr £650, swm sylweddol iawn ar y pryd, a daeth £100 oddi wrth Bwyllgor Lleol Eisteddfod Genedlaethol y Blaenau 1898. Agorwyd yr ysgol newydd ar 15 Ionawr, 1901, chwe mlynedd i’r diwrnod ar ôl dechrau yng nghapel Rhiw, ond gyda £1,646 o ddyled yn aros i’w chlirio. Roedd hi wedi’i hadeiladu ar gyfer 100 o ddisgyblion ond roedd hi’n rhy fach o’r diwrnod cyntaf!

Daeth hi’n fuan iawn i gael ei galw’n Ysgol Sir Ffestiniog (neu’r Cownti) ac yna’n Ysgol Ramadeg. Yn 1953, pan ddaeth A.O. Morris yn brifathro, cafodd y Cownti a’r Central eu huno ond bu’n rhaid aros tan 1969 cyn i’r ysgol gyfan ddod o dan yr un to.

Ddiwedd y ganrif ddiwetha’ ac yn ystod hanner cynta’r ganrif yma roedd pobol ’Stiniog yn enwog led-led Cymru am eu sêl dros addysg i’w plant, ac fe welwyd y plant hynny’n manteisio’n llawn ar y cyfle oedd yn cael ei gynnig iddyn nhw. Daeth llawer ohonyn nhw’n adnabyddus yn genedlaethol.
Yn y County School Magazine 1906, er enghraifft, mae rhestr o enillwyr gwobrau am y flwyddyn honno. Ar y rhestr mae enwau’r tri brawd o’r Manod – William Morris a ddaeth ymhen amser yn Brifardd ac yn Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, John Morris a wnaeth waith gwerthfawr yn casglu alawon gwerin Cymreig ac a ddaeth yn Arolygwr ar ysgolion Cymru, a Joseph Morris a roddodd oes o wasanaeth fel doctor i’w dref enedigol. Yno hefyd mae enwau John Jones Roberts, darlithydd ac ymgeisydd seneddol dros y Blaid Lafur a Kate W. Roberts, y ferch dalentog a fyddai’n wraig iddo ryw ddiwrnod a’r fenyw gyntaf i gael ei phenodi ar Gomisiwn Brenhinol yng Nghymru.

Ac yno hefyd mae enw cyn-ddisgybl go arbennig, sef Edwin A. Owen a enillodd barch mawr fel Athro Ffiseg yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor. Roedd hwnnw’n amlwg yn gyfnod da.
Ymhen ychydig flynyddoedd, roedd Margaret Lloyd Jones, Quarry Bank, yn mynd i fod y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei chofrestru’n ddeintydd ac yn ein cyfnod ni, John Elfed Jones yn Gadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Yn ystod y ’30au roedd yr Executive & Trustees Branch o Fanc y Midland ym Mangor yn lle prysur iawn; yn 1937 roedd pob un oedd yn gweithio yno yn gyn-ddisgybl Ysgol Sir Ffestiniog!

Mae’r Ysgol wedi cynhyrchu’i siar o ysgolheigion yn ogystal a llu o feirdd a llenorion – Peter Macaulay-Owen, O. M. Lloyd, James Walker, Huw Llywelyn Williams, O. Trevor Roberts (Llanowain), T. R. Jones, Gwyn Thomas, Bruce Griffiths, John Rowlands, Eigra Lewis Roberts, Geraint Wyn Jones, Twm Miall ... Mae’r rhestr yn un faith. A llwyddiannau ym myd busnes – Eddie Rea, R. Hefin Davies, Eifion ac Owen Glyn Williams, Meirion Roberts, Idris Price ... Arlunwyr a naturiaethwyr fel Gareth Parry a Ted Breeze Jones a Malcolm Humphreys (Mumph) cartwnydd presennol y Western Mail. A’r llu o actorion ac eraill sydd mor amlwg bellach ym myd y cyfryngau! – Grey Evans, Gwyn Vaughan, Arwel Griffiths, Iwan Roberts, Pauline Williams, Medwen Roberts, Dylan Williams, Garfield Lewis, Ynyr Williams, Huw Eurig .... Cyn ddisgybl hefyd ydi John Ellis Roberts, Prif Warden Parc Cenedlaethol Eryri, gŵr a enillodd lu o fedalau am ei ddewrder dros y blynyddoedd. Ac mae amryw byd o rai teilwng eraill y gellid eu henwi.

Mae llawer o newid wedi bod yn ystod y chwarter canrif diwethaf ac efallai nad ydi manteision addysg mor amlwg bellach yn y byd sydd ohoni, ond braf gweld cyfran dda o blant y cylch yn dal i raddio o’r colegau a’r prifysgolion flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Dalier ati a phob dymuniad da i Ysgol y Moelwyn yn ail ganrif yn ei hanes.


14.2.15

O’r Pwyllgor Amddiffyn

Drannoeth y cyfarfod yn Ysgol y Moelwyn daeth cyfaill ar y ffôn o Gaerdydd:

    ‘Gawsoch chi’ch plesio?’ medda fo.
           ‘Wrth gwrs!’ medda finna.
    ‘Oeddat ti’n synnu gweld cymaint yno?

Chwerthin wnes i cyn ateb:
   ‘Dim o gwbwl! Dyma’r union fath o gefnogaeth mae’r ardal yma wedi’i ddangos i’r ymgyrch ers deng mlynadd bellach, nid yn unig mewn cyfarfodydd cyhoeddus fel neithiwr ond i bob deiseb a rali hefyd. Ein problem fwya ni ydi cael swyddogion y Betsi a gwleidyddion hunanbwysig i wrando arnon ni.

Llun gan Alwyn Jones
...........................
Ond fedar y bobol hynny, chwaith, mo’n hanwybyddu ni am byth!

Ar y 19eg o Chwefror, bydd cyfle i bobol Blaenau a Llan a Dolwyddelan fwrw pleidlais arall, a honno fydd y bleidlais bwysig rŵan!  Ond fe wyddoch chi hynny’n barod, wrth gwrs, a go brin bod raid annog neb ohonoch i ddefnyddio’ch pleidlais.

Yn y cyfamser gair o ddiolch i bawb ohonoch, unwaith eto, am fentro’r oerni ac am ddangos y fath amynedd cyn y cyfarfod yn Ysgol y Moelwyn. Pwrpas y cyfarfod hwnnw oedd cael 150 o etholwyr yr ardal i ddod at ei gilydd i alw am refferendwm ar ddyfodol yr Ysbyty Coffa ac fel y gwelsoch chi, fe ellid bod wedi llenwi’r neuadd deirgwaith drosodd. O ganlyniad, bu’n rhaid i lawer ohonoch aros am hydoedd am eich cyfle i bleidleisio – allan yn yr oerni ac yna yn y cyntedd ac yn y ffreutur. Roedd y fath gefnogaeth yn wirioneddol anhygoel, a’r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud ydi ymddiheuro ichi am yr oedi a’r anhwylustod. A rhaid cydymdeimlo hefyd â’r nifer a ddaeth yno o ardal Gellilydan a Thrawsfynydd gan dybio bod ganddyn nhwtha hefyd bleidlais ar y noson. Mae eich cefnogaeth chitha’n cael ei gwerthfawrogi lawn cymaint.

Yn ôl pob sôn, fe ohiriodd tîm Bro eu hymarfer rygbi er mwyn cael mynychu’r cyfarfod. Os gwir hynny, yna diolch o galon i chitha hefyd hogia. Mae’n braf gwybod bod y genhedlaeth iau yr un mor unol a thaer yn y frwydyr.

Rydym, wrth gwrs, yn ddiolchgar i’r Cyngor Tref am eu rhan yn trefnu’r cyfarfod. Doedd y gwaith hwnnw ddim yn hawdd o bell ffordd, o ystyried yr anhrefn ar y rhestrau pleidleisio. Bydd pethau yn siŵr o fod yn dipyn rhwyddach ar Chwefror 19eg (gweler manylion ar y dudalen flaen).

......................

A gair, rŵan, o Ddolwyddelan
Ar noson rewllyd, braf oedd gweld tyrfa luosog yng Nganolfan Gymdeithasol Dolwyddelan ar gyfer Cyfarfod Arbennig i bleidleisio ar gael Pôl Cymunedol i bwyso am gael gwlâu, gwasanaeth pelydr-x ac uned mân anafiadau yn ôl i Ysbyty Coffa Ffestiniog. Da iawn chi, PAWB o blaid felly! Ymlaen bo’r nôd!
.....................

PLEIDLEISIO:

Os ydych yn rhagweld problem trafnidiaeth ar ddydd y pleidleisio (rhwng 4.00 y pnawn a 9.00 yr hwyr), yna cysylltwch yn ddigon buan ymlaen llaw efo Gwilym Price ar 830294 neu Geraint V Jones ar 762429.

Dyma fydd y cwestiwn ar y papur pleidleisio, ac mi fydd yn ddwyieithog –

‘A ddylai gwlâu ar gyfer cleifion, gwasanaeth pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau fod yn rhan o unrhyw gynlluniau ar gyfer Ysbyty Coffa Ffestiniog?’

PWYSIG – Peidiwch â rhoi dim byd ond croes neu dic yn y blwch cywir. Os rhowch chi unrhyw sylw neu farc arall ar eich papur pleidleisio, yna mae peryg ichi ddifetha’ch pleidlais.

Os yn cefnogi’r ymgyrch, cofiwch ddangos y daflen felen yn ffenest eich tŷ neu ar eich car. Ffenestri’r ardal yn fôr o felyn, gobeithio!

GVJ.
[Ymddangosodd gyntaf yn Llafar Bro, Chwefror 2015]


Ymateb ar noson y cyfarfod yn Ysgol y Moelwyn yn fan hyn.





9.2.15

Rhod y Rhigymwr -awdl 1922- Y gaeaf

Rhan o golofn RHOD Y RHIGYMWR, gan Iwan Morgan, a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2015.

Ymysg y llyfrgell o lyfrau sydd ar silffoedd stydi Tŷ’n Ffridd acw, deuthum ar draws cyfrol fechan ddifyr y diwrnod o’r blaen - Y FLWYDDYN YNG NGHYMRU (detholiad a wnaed dan nawdd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg a Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru - 1943).

Un o’r beirdd y dyfynnir o’i waith yn y gyfrol ydy’r ysgolhaig disglair, John Lloyd-Jones, Dulyn (1885-1956). Cofir amdano’n bennaf fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru. Un o Ddolwyddelan ydoedd. Daeth yn ddarlithydd maes o law mewn Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Dulyn.

Ym Mhrifwyl Rhydaman (1922), cipiodd Lloyd-Jones y gadair am ei awdl ‘Y Gaeaf.’
Canmolwyd hi gan y tri beirniaid - John Morris-Jones, J.T. Job a J.J.Williams, a nododd ei bod yn ‘gyfanwaith glân ac urddasol.’

Adrodd hanes dau gariad a wna, sef Geraint ac Enid. Rhennir hi’n dri chaniad - ‘Gaeaf yr Oed’, ‘Gaeaf yr Ôd’ a ‘Gaeaf yr Oes'. Cyfarfu’r ddau gariad yng nghanol oerni’r gaeaf, a noda Geraint fel y bu’n danfon ei anwylyd i’w chartref yn ‘Hafodunnos.’ Torrodd iechyd Enid yn yr ail ganiad, a bu’n rhaid i Geraint ei danfon i Davos, yn Y Swistir i geisio cael adferiad. Oherwydd ei hiraeth am Gymru, dychwela Enid a’i chariad i’r hen gartref, a daw’r awdl i ben gyda’i marwolaeth hi a’i alar yntau.

Rhyw wynfyd ofer i ni fu Davos,
A dug alarnad o gôl ei hirnos.
Adref dôi Enid i’r Hafodunnos
A’i thirion diroedd, - eithr nid i aros! -
Darfu hud o drefi’r rhos, - a’r miri
A’i frau fawrhydi fu oer farwydos.

Awdl ramantaidd ydy hi, ond un gywrain ddigon gan gynganeddwr medrus o ysgolhaig. Rhamantaidd felly ydy’r eirfa a’i chywair, ond mae’r tair cadwyn o englynion a geir ynddi (12 ymhob caniad), yn dangos cryn feistrolaeth.
Mae’n agor fel yma:

Mynd a dod yw rhod a rhan - yr einioes
        Am ryw ennyd fechan;
   Aros dro wna’r oes druan
   A lle’r llu fydd llawr y llan..... (1)
 
Gwên a gormes, gwin a gwermod - yw’r oes
    Orau un ei chyfnod;
  Chwiliwch hi, haul a chawod,
  Munudau Duw’n mynd a dod.  (12)

Ewch i chwilio am yr awdl yn Siop yr Hen Bost - ‘Awdlau Cadeiriol Detholedig y Ganrif Hon’ (1900-25)  - golygydd Eurys Rowlands (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol 1959).

Pob hwyl!
I.M.




[celf gan Lleucu Gwenllian]


Swyddi newydd efo'r Dref Werdd

Ydych chi eisiau cyfrannu at wneud amgylchedd Blaenau Ffestiniog a bywyd ei thrigolion yn well?

Mae Cwmni Y Dref Werdd wedi llwyddo i sicrhau cyllid oddiwrth Cronfa'r Loteri Fawr i weithredu rhaglen  o weithgareddau amrywiol fydd yn helpu i wella amgylchedd yr ardal,  datblygu sgiliau rhai o’i thrigolion a chynnig cymorth ymarferol i nifer sylweddol o’i phobl i leihau eu costau ynni a gwastraffu llai o fwyd.

‘Rydym yn chwilio am unigolion fyddai a diddordeb yn y swyddi iso:

Rheolydd Prosiect, cyflog £26,000 + cyfraniad pensiwn cyflogwr. Wythnos waith 37 awr. Y person hwn fydd yn gyfrifol am redeg y cynllun o ddydd i ddydd ac yn atebol i fwrdd y cwmni. Cynigir cytundeb  3 blynedd.

2 x Swyddog Prosiect, cyflog £20,000 y flwyddyn +cyfraniad pensiwn cyflogwr. Wythnos waith 37 awr. Bydd y ddau berson yma yn gyfrifol am brosiectau penodol o fewn y cynllun ac yn atebol i’r Rheolydd Prosiect. Cynigir cytundeb  3 blynedd.

Swyddog Cyswllt a Gweinyddol (rhan amser) cyflog £8,900 +cyfraniad pensiwn am wythnos waith 23 awr. Bydd y person hwn yn gyfrifol am y gweinyddiaeth a chadw cyswllt gyda’r gymuned trwy ddulliau y cyfryngau newydd a rhai mwy traddodiadol.

Lleolir y swyddi ym Mlaenau Ffestiniog. Disgwylir derbyn copi o CV yr ymgeisydd ynghŷd â llythyr yn esbonio pam mae diddordeb yn y swydd.

Am fwy o fanylion a swydd ddisgrifiad llawn cysylltwch â – Dafydd Wyn Jones,
dafyddwynjones [at] hotmail.co.uk

Dyddiad Cau ar gyfer ymgeisio Gwener 27 o Chwefror 5pm Cyfweliadau i’w cynnal Gwener 6 o Fawrth.
Plannu yn y parc, Mehefin 2010. Llun Gwydion ap Wynn
Fe fu prosiect y Dref Werdd yn rhedeg yn llwyddiannus yn y Blaenau rhwng 2007 a 2013.

Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddwyd cymorth i lawer o deuluoedd i leihau eu biliau tanwydd trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Bu'n gweithio gyda'r clwb rygbi hefyd i sicrhau arbedion sylweddol ar ei ddefnydd o ynni. Hefyd, fe wnaeth y prosiect  helpu i ddarparu 22 o randiroedd i bobl leol gael tyfu eu llysiau eu hunain, yn ogystal â chydlynu ymdrechion i wella ansawdd afonydd lleol, ac i reoli lledaeniad y llwyn ymledol Rhododendron ponticum. A llawer mwy, fel gwella'r parc lleol, rhedeg clwb natur, a gofalu am golofn fisol ar faterion amgylcheddol yn LLAFAR BRO.

Rhandiroedd Bro Ffestiniog. Llun PW
Mae cynlluniau i ddatblygu'r prosiect ymhellach yn canolbwyntio ar helpu pobl leol i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon yn eu tai, a lleihau gwastraff bwyd hefyd, gan dorri biliau. Yn ei gyfnod blaenorol fe helpodd prosiect y Dref Werdd helpu nifer o bobl yn gwneud hyn trwy ddarparu cyngor a chefnogaeth ar sut i ddefnyddio eu system wresogi bresennol yn fwy effeithlon, a lle bo'n bosibl, i gynorthwyo gyda pobl i hawlio grantiau i osod technoleg fwy modern.

Mae llawer o bobl yn Ffestiniog yn wynebu ergyd ddwbl o ran biliau gwresogi, gan fod llawer o'r tai wedi'u hadeiladu o gerrig ac felly nid oes cavity yn y waliau y gellir ei inswleiddio. Mewn rhai ardaloedd, fel Tanygrisiau, nid oes modd cyflenwad nwy trwy bibelli, felly rhaid dibynnu ar ddulliau gwresogi drutach.

Cadeirydd y prosiect yw Rory Francis. Mae’n dweud: "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gronfa Loteri Fawr am eu cefnogaeth. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i holl aelodau ein bwrdd prosiect a chyn-staff y prosiect, sydd wedi gweithio'n galed iawn i lunio cais mor gryf, ac yn enwedig i’n hysgrifennydd cwmni Dafydd Wyn Jones. Rydym wedi siarad â gwahanol grwpiau o fewn y dref a’r tu hwnt ac wedi casglu ugeiniau o enwau pobl sy'n awyddus i gael cymorth i leihau eu biliau ynni er mwyn dangos yr angen ar gyfer y prosiect.

"Erbyn hyn mae gennym dair blynedd prysur o'n blaenau a fe fydd yna gyfle mawr i wirfoddolwyr gymryd rhan yn ogystal â staff cyflogedig. Os hoffech chi gymryd rhan y prosiect, rhowch ganiad i fi ar 01766 830328."

4.2.15

Stiniog a'r Rhyfel Mawr - y chwareli

Vivian Parry Williams yn parhau'r gyfres sy'n cofnodi canmlwyddiant y rhyfel mawr. Ymddangosodd y darn yma'n wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2015.

Roedd yr argyfwng yn achosi trafferthion mawr i’r chwareli, a’r oriau gweithio’n cael eu cwtogi ym mhob un ohonynt. Erbyn diwedd Awst 1914, yr oedd wythnos waith Chwarel yr Oakeley i lawr i dridiau. Oherwydd hyn, roedd rheolwyr y chwarel yn annog y gweithwyr ifainc i chwilio am waith arall, neu i ymuno â’r fyddin neu Frigâd yr Ambiwlans.

Fel y dywedodd gohebydd y Rhedegydd ar y pryd yn ei adroddiad ‘Effeithiau’r Rhyfel’, yn ieithwedd y dydd, fel ym mhob dyfyniad yng ngweddill yr ysgrifau hyn:

 '...Parodd hynny don o brudd-der mawr trwy yr ardal a’r cylch, gan fod hon yn un o brif chwarelau lle y gweithia o 700 i 800, ac ofnir mai dyna fydd hanes rhai eraill o’r chwarelau, a hynny yn fuan.'

Yn Chwarel Bwlch Slatars, lle'r oedd tua chant yn gweithio ar y pryd, roedd y rheolwr, Mr Bowton, wedi bod draw yn ceisio cysuro’i weithwyr. Roedd yn addo gwneud ei orau i’w cadw mewn gwaith am ddau fis, o leiaf, a daeth hynny â boddhad mawr iddynt.

Mewn cyfarfod o Fwrdd Undeb Ffestiniog ddiwedd Awst, dywedodd Cadwaladr Roberts fod rhagolygon am dlodi mawr yn ardaloedd Ffestiniog os byddai'r rhyfel yn parhau. Awgrymwyd y dylid anfon at berchenogion y chwareli i ofyn iddynt beidio gostwng y cyflog, ac i gadw'r gwaith i fynd cyn hired ag y gallent. Nodwyd yn ystod y cyfarfod for Cronfa Tywysog Cymru wedi ei sefydlu i gyfarfod ag anghenion a achoswyd oherwydd y rhyfel.

Cafwyd hanes yr argyfwng chwarelyddol yn Y Genedl Gymreig tua'r un adeg. Dyma ddywedir yng ngholofn 'Llith o Ffestiniog' y papur ar 1 Medi:

'Difrifol iawn oedd yr olwg ar heolydd y Blaenau ddiwedd yr wythnos ar finteioedd o weithwyr Chwarelau Oakeley, lle nad oedd ond gweithio tridiau yr wythnos ddiweddaf. Mae llu mawr eisoes wedi ymadael am y De a mannau eraill, gan dystio mai y cam cyntaf yw y goreu i geisio ffon bara eu teuluoedd lluosog...'

Yr oedd pryderon am y sefyllfa weith yn achosi poendod i’r trigolion, a nifer o deuluoedd, yn amlwg, wedi gadael yr ardal i ennill eu tamaid. Canlyniad hyn oedd nifer o dai gweigion yn y fro. Bu hysbyseb am rai wythnosau ar dudalennau’r Rhedegydd gyda’r teitl TAI AR OSOD yn datgan fod pedwar o dai ar gael ‘mewn lle iach, yn West End Terrace, Dolrhedyn, am rent hynod o isel yn ystod y Rhyfel.’

Arwydd o ewyllys da rhai o bobl Blaenau Ffestiniog tuag at ddioddefwyr y rhyfel oedd yr wybodaeth fod nifer o ferched yr ardal yn gwneud crysau ar gyfer clwyfedigion y rhyfel. Milwyr o wlad Belg oedd y clwyfedigion hynny. Roedd y gwaith o wneud y crysau dan ofal Miss Smart, o ardal Dorfil o’r dref. Tua’r un adeg fe sefydlwyd cangen o Women’s Voluntary Aid Detachment dan nawdd Cymdeithas y Groes Goch hefyd.

Daeth awgrym am farn rhai o weinidogion yr Efengyl lleol yn rhifyn 5 Medi 1914, cwta fis wedi cychwyn y brwydro. Roedd y Parch. John Hughes, Capel Jerusalem (A), y Blaenau, yn pregethu mewn capel yng Nghaernarfon pan ddywedodd o'r pulpud ei fod wedi bod yn erbyn y rhyfel yn Ne Affrica, ond roedd 'yn bendant dros hon' meddai. Cafwyd lleisiau nifer eraill o weinidogion ac offeiriaid yn dangos eu cefnogaeth i'r rhyfel dros y pedair blynedd o frwydro. Byddai pwysigion yr ardal hefyd yn manteisio ar bob cyfle i ddangos eu teyrngarwch i'w gwlad, Prydain, nid Cymru, ran amlaf, a'u brenin. Un o'r rhai hynny oedd rheolwr chwarel Rhosydd, yr ustus heddwch, Evan Jones. Cymaint ei frwdfrydedd dros y rhyfel, mentrodd ar gyfansoddi cerdd, yn Saesneg i ddarllenwyr Y Rhedegydd, 5 Medi 1914: Dan bennawd 'MR EVAN JONES, U.H. ymysg BEIRDD Y RHYFEL', dyma ddywed y gohebydd:

'Mae yspryd rhyfel, fel dwfr dilyw, yn codi dros bennau'r mynyddoedd. Clywsom fod bannau Chwarel Rhosydd yn llawn ohono, a bod y Goruchwyliwr rhadlon ei hun, yr hwn fuasai'n gwneyd General dan gamp, yn cael ei ysu ganddo. Enynnodd yspryd "Cadben Morgan" ynddo y dydd o'r blaen a throes i ganu:
    
    We, British soldiers, are going to fight
    For King and country with all our might,
    Shoulder to shoulder we will win our way,
    Loyal to duty night and day,
    Facing fire, we all will bravely stand
    Like true British soldiers in every land.
'

Ar ddiwedd y pennill, ychwanegwyd y canlynol:  'Iaith fain neu beidio, mae sŵn y rhyfel yn y pennill yma, a choelia' i byth na ddylai yr awdur gael ei wneyd yn Recruiting Sergeant am ei waith.'

Yn sicr, fe dalodd yr ymddangosiad o wladgarwch ar ei ganfed i Evan, fel y gwelwn yn nes ymlaen yn yr ysgrifau hyn.

(i'w barhau)
Celf gan Lleucu Gwenllian