11.2.13

Capel Jerusalem

Dyma ddarn o erthygl gan Gwyn Thomas ar ddiwedd pennod arall yn Stiniog.
Gallwch weld yr erthygl yn llawn yn rhifyn Ionawr. Mae ambell gopi wrth gefn gan y dosbarthwr os na chawsoch afael ar un hyd yma, a gan y trysorydd hefyd i'r rhai fyddai'n hoffi tanysgrifio am flwyddyn gyfa'. Ewch i'r dudalen tanysgrifio am fanylion pellach.

Cofiwch am noson blygu rhifyn Chwefror y nos Fercher yma yn neuadd y WI am 6.30. Croeso mawr i bawb ymuno yn yr hwyl!

Cofiwch hefyd am y rali a gynhelir y Sadwrn hwn i ddangos yn glir be' mae pobl y dalgylch yn feddwl o benderfyniad cywilyddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau'r ysbyty.





JERUSALEM YN DOD I BEN



Yn Rhifyn 31 o Rhamant Bro  y mae Robin Davies yn rhestru 39 o gapeli ac eglwysi ym mro Ffestiniog. Y mae hyn yn dystiolaeth i’r argyhoeddiad a fu yma unwaith. Pobol gyffredin, ddigon tlodaidd eu byd a dalodd, yn ddrud, am godi’r holl gapeli hyn. A oedd eu hangen nhw i gyd sy’n fater arall. Y mae’n siŵr fod yna rywfaint o falchder enwadol yn yr holl adeiladu, a’r holl adeiladau. 

Nodaf dair enghraifft o gapeli sydd wedi eu dymchwel dros y blynyddoedd diwethaf. Pan oeddwn i’n hogyn bach yn Nhanygrisiau roedd yna glamp o gapel gan y Methodistiaid yno, sef Bethel. Y mae o wedi hen fynd. Pan symudais i fyw i Wynne’s Road (fel y dywedem ni), pan oeddwn i fymryn yn hŷn, yr oedd capel anferth y Methodistiaid, sef y Tabernacl,  i’w weld o’n stryd ni. Y mae hwnnw hefyd wedi hen fynd. Pan oeddwn i’n naw oed fe fudodd ein teulu ni i Benar View, ac yng ngheg y ffordd at y fan’no roedd gan yr Annibynwyr gapel sylweddol ei faint, sef Brynbowydd. Y mae hwnnw, yntau, wedi mynd. A rŵan y mae Jerusalem, capel anferth yr Annibynwyr, a fu’n bresenoldeb amlwg yn y Stryd Fawr, yn mynd i gau.


Yr oedd ein  teulu ni’n aelodau yn Jerusalem. Rydw i’n cofio gwasanaeth dau weinidog yno, sef Brython M. Davies a John Elwyn Davies, yn bennaf – ar ddiwedd fy amser i yn y Blaenau y daeth Elwyn Jones yno.  Roedd yna ddwy oedfa bob Sul, un am ddeg y bore a’r llall am chwech yr hwyr, ac oedfa’r hwyr oedd y brif oedfa ers talwm. Am ddau y prynhawn cynhelid Ysgol Sul, un i blant yn y Festri Fawr o dan y capel, ac un i oedolion yn y capel ei hun. Bob blwyddyn, tua mis Mai, cynhelid Cymanfa Ganu, un i blant ar brynhawn Sadwrn, ac un i oedolion ar nos Sadwrn. Byddai plant Ysgolion Sul Annibynwyr y cylch yn gorymdeithio, gan gychwyn wrth ymyl capel Jerusalem, mynd i lawr Stryd Glynllifon, i lawr Wynne’s Road heibio Ysgol y Moelwyn, heibio’r Parc ac i fyny tros bont y lein heibio Neuadd y Dref (roedd honno’n ffordd fawr yr adeg honno), ac yna i fyny’r Stryd Fawr am Jerusalem eto. Byddai yna gario baneri mawr lliwgar, a byddai’r plant lleiaf yn cael eu cario mewn ceir neu lorïau wedi eu haddurno’n grand. Gwisgai hogiau Jerusalem fedalau llwyd-ddu, a gwisgai’r genethod roséts lliwgar. Byddai Jerusalem dan ei sang, a byddai canu bendigedig yno ( neu dyna’r oeddem ni’n ei feddwl), a rhannu tystysgrifau am basio arholiadau ysgrythurol. Ac wedyn byddai yna de parti joli iawn yn y Festri Fawr.
Gwyn Thomas

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon