18.11.12

"Llifa amser..."



Darn arall o rifyn Tachwedd:

Bydd teyrnged i’r diwydiant llechi yng Nghymru, y chwarelwyr fu ac sy’n parhau i fod yn rhan greiddiol ohono, yn ganolbwynt teilwng i gynllun adfywio’r dref.

Mae’r gwaith trawiadol yn cynnwys Afon Dwyryd, yr afon a ddefnyddiwyd i gludo’r llechi o Flaenau i’r arfordir cyn adeiladu Rheilffordd Ffestiniog. 

Y bardd Gwyn Thomas sy’n gyfrifol am gyfansoddi darn o farddoniaeth arbennig ar gyfer yr afon lechi.

“Llifa amser yn ei flaen,
 A llifa dŵr:
 Ni lifa bywyd creigiwr.”


Hefyd mae enwau dros 360 o chwareli llechi wedi cael eu hengrafu gan Alan Hicks o gwmni Llechen Las. Mae'n defnyddio nifer o lechi lliwiau gwahanol o chwareli ar draws Gymru, gyda phob enw wedi ei osod ar lechen lliw gwahanol.

Yn y llun mae'r artist Howard Bowcott, Alan, y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, a Gwyn. 

Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn Llafar Bro. 


Llun diweddarach gan PW:




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon