13.4.24

Stolpia- Tywydd Gaeafol (III)

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Wel, mi gawsom ychydig o rew ac eira ym mis Ionawr, ond diolch i’r drefn nid oedd dim byd tebyg i’r hyn a gawsom yn ystod gaeafau 1962-63 ac 1981-82. Yn ôl yr arbenigwyr ar y tywydd, er nad oedd  gaeaf 1963 gyda chymaint o eira ag un 1947 roedd yn un o’r rhai oeraf a brofwyd yn y wlad ers 1740, ac yn ambell le aeth y tymheredd cyn ised a -20 °C. Sut bynnag, dywed eraill bod gaeaf 1929 wedi bod yn oerach a’r tymheredd wedi gostwng i -22 °C a bod yr eira yn rhewi arnoch fel y disgynnai o’r wybren.

Yn 1963 roeddwn yn gweithio yn Ffatri Metcalfe yng Nglan-y-pwll ac yn  ffodus mai’n Rhiwbryfdir yr oeddwn yn byw ar y pryd, ac felly, nid oedd llawer o waith cerdded trwy’r eira o’m cartref i’m gwaith. Cofier, roedd hi wedi dechrau bwrw eira ar 22 o Ragfyr 1962 a pharhaodd yr oerni hyd at yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth. Rhewodd y ffynhonnau, yr afonydd, y llynnoedd fel ei bod yn anodd cael dŵr ar gyfer anifeiliaid y ffermydd a llawer iawn o gartrefi’r wlad. Yn wir, rhewodd y môr, hyd yn oed, mewn sawl lle, fel ei bod yn anodd iawn i bysgotwyr hwylio eu cychod.

Stryd yr Eglwys dan eira trwm, ond pa flwyddyn oedd hi?

Yma yn y Blaenau roedd y chwareli yn cael trafferth cael dŵr i’r peiriannau gan fod y peipiau wedi rhewi’n gorn, ac yn ôl un o hen chwarelwyr Llechwedd nid oedd yn cofio gaeaf mor oer yn ei fywyd, a bu’n ddadl rhyngddo ef ag un o’i gydweithwyr parthed yr oerni. Dywedodd y cyntaf nad oedd wedi gweld ei ddannedd gosod yn rhewi yn nŵr y gwydr erioed o’r blaen a bod hynny yn profi ei osodiad! Roedd tramwyo’r ffyrdd yn waith peryglus a chynghorid pobl i beidio a mentro gyrru cerbydau tros Fwlch Gorddinan (Y Crimea). Hen stori oedd cwyn y Parchedig Cledwyn Parry, Capel Ebeneser (W), sef bod y palmentydd a’r ffordd gerllaw’r capel yn llithrig ac nad oedd y cyngor yn clirio’r eira.

Yn ddiau, y mae mwy ohonoch yn cofio gaeaf 1981/82. Dechreuodd fwrw eira i ddechrau ar y noson cyn Nadolig 1981. Yna, ar y 7 Ionawr bu wrthi yn ddi-baid am 36 awr mewn llawer o ardaloedd yng Ngwynedd. Roeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg Harlech ar y pryd a chael a chael oedd hi i gyrraedd adref heb fynd yn sownd yn yr eira. Syrthiodd y tymheredd yn is nag 20 gradd C a bu’n lluwchio’n  drwm fel ei fod mor ddwfn a 15 troedfedd ar dir uchel, ac yn wir, ar lawr gwlad hefyd, fel rhannau o Benrhyn Llŷn. Roedd papur Daily Post gyda phennawd Saesneg a llun o’r awyr–‘Nid yr Alpau ond Blaenau Ffestiniog’. 

Dyma lun arall o’r Daily Post gydag eira i fyny ar Fwlch Gorddinan. Credir mai gaeaf 1982 y tynnwyd hwn. Wel, o leiaf cyrhaeddodd y car i fyny at y bwlch. Aflwyddiannus a fu amryw a fentrodd drwy’r rhew a’r eira tros y blynyddoedd.

Er ei bod yn bosib’ inni gael eira mawr yn ystod y mis hwn hefyd, rwyf fel y gweddill ohonoch yn ddiau, yn gobeithio mai tyneru a wnaiff y tywydd a chawn wanwyn hyfryd a haf hirfelyn i’w ddilyn.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2024

10.4.24

Gweithio Efo'r Dref Werdd

Megan Elin, Gweithiwr Prosiect Addysgol

Cychwynais hefo'r Dref Werdd yn gweithio rhan amser yn Chwefror 2022 yn gynorthwyydd amgylcheddol hefo Meg Thorman, ein gweithiwr prosiect amgylcheddol. Mi wnes i ddysgu lot yn fy mlwyddyn gyntaf a mwynheais fy hun hyd yn oed mwy! 

Yn fy wythnos gyntaf ddysgais am Rododendrons, ag ers gweithio hefo nhw dwi’n cael trafferth i beidio'u gweld ym mhobman dwi’n mynd. 

Diolch i ariannu gan y gronfa gymunedol loteri genedlaethol mae wedi bod yn bosib i fi weithio gyda'r Dref Werdd a dwi bellach yn weithiwr prosiect addysgol ers blwyddyn, ac yn hapus iawn yn fy rôl newydd hefyd! Mae fy rôl Newydd wedi bod yn hyblyg iawn, a dwi wedi gallu arbrofi a chynllunio rhaglen o ryw fath hefo ysgolion cynradd yn yr ardal leol. 


Hyd at hyn mae pum ysgol wedi cytuno i weithio hefo fi. Rydw i efo disgyblion blwyddyn 3 o bob ysgol bob hanner tymor am flwyddyn, ac mae pob sesiwn yn cynnwys ffocws gwahanol o fewn yr amgylchedd ag y byd rydym yn byw ynddo. 

Dwi’n gobeithio bydd y sesiynau yma yn rhoi'r wybodaeth a’r rhyddid i’r plant ymateb ei hunain ar sut rydym yn gofalu a pharchu’r blaned hon. 

Rydw i hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau Dod Nôl At Dy Goed - dwi wrth fy modd efo’r sesiynau yma, ac wedi helpu trefnu rhai o’r sesiynau casglu sbwriel. Mae gen i dudalen ar Facebook, ‘Casglu a Chysylltu’ sydd yn cynnwys lluniau ‘cyn ac wedyn’ a gwybodaeth am ein digwyddiadau yn yr ardal leol. 

Y nifer gorau rydan ni wedi’u cael hyd yn hyn yw 27 o wirfoddolwyr o bob math o lefydd gwahanol fel Llwybrau Llesiant, Gisda a phob man arall! 

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn, ag mi fydd yna mwy yn dod fyny blwyddyn yma!
- - - - - - -

Erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2024


Capel y Gorlan yn Dirywio

Mae Dafydd Linley yn crwydro llwybrau'r fro yn rheolaidd ac yn ymddiddori yn ein hanes lleol. Roedd yn drist iawn felly i sylwi yn ystod wythnos olaf Ionawr eleni fod wal orllewinol Capel y Gorlan yng Nghwmorthin, wedi dymchwel. 

 

Gwnaed ychydig o waith ar rai o adeiladau'r Cwm gan griw Cofio Cwmorthin a Chymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog, er mwyn gwarchod rhag adfeilio'n llwyr, ond anodd iawn ydi rhwystro dirywiad yn llwyr yn y fath le. Mi fuon nhw'n cyfarfod tra oedd Llafar Bro yn y wasg i weld os oes rhywbeth y gellid ei wneud ar y cyd efo'r perchennog tir yno i sicrhau bod y cyhoedd yn cadw'n glir.

Capel i'r Methodistiaid Calfinoedd oedd o, ac mae o wedi dirywio'n araf ers i rywun ddywn y llechi oddi ar y to yn y 1970au. Yn ôl gwefan Cofio Cwmorthin, 'galwyd y capel yn Gapel Cwmorthin ac yn ddiweddarach yn Gapel Conglog, ond credir mai Capel Golan oedd yr enw gwreiddiol'. Mae rhai, gan gynnwys ambell fap, yn ei alw'n Gapel Rhosydd hefyd.
- - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2024


9.4.24

Hanes Rygbi Bro- 1990-91 a 1991-92

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams 

28 Rhagfyr 1990 Mewn gêm i ddathlu Atomfa Traws yn 25 oed y sgôr oedd Bro 6- Tîm y Llywydd 25

1991
16 Ionawr Rhaid torri’r coed o flaen Hafan Deg a Fron Haul i lawr. Plannwyd rhain gan aelodau’r clwb a Jake -Pant Tanygrisiau.

22 Mai Cyfarfod Blynyddol 1990/1991 (Presennol 20)
Tîm 1af, Glyn Jarrett (c): Ch 27; E 14; C13.
2ail dîm, Bryan Davies (c): Ch21; E 10; C11
Nant Conwy enillodd Gwpan Traws 21. Athrofa De Morgannwg enillodd Dlws 7 Bob Ochr Tom Parry. Elw £529 33. Gwynedd 5 a 3 yn chwarae Cyn Derfynol Cwpan Howells yn Bro.
Chwaraewr y Flwyddyn: Glyn Jarrett; Chwaraewr Mwyaf Addawol: Hayden Williams; Chwaraewr y Flwyddyn II: Ian Evans; Clwb-berson: Sharron Crampton. Ethol: Llywydd Gwilym Price / Ll Anh RH Roberts/Dafydd E Thomas / Cad Dr Boyns /Ysg RO Williams / Trys Robin Davies / Gemau Michael Jones / Aelod Caradog / Cae Mike Osman / Cad Tŷ Glyn C / Capten 1af Glyn Jarrett /  Capten 2il Richard James / Hyfforddwr Gwilym James. Eraill Jon H / Gwynne / Derwyn Williams. Cyfethol Bryan /Tei Ellis /Morgan Price /Hayden Williams. Aelodau Anrhydeddus am Oes Glyn E Jones / Dr Boyns / Mike Smith /Aelod am Oes Deulwyn Jones. Ymddiriedolwyr Merfyn / Glyn E / Dr
Aelodaeth: Chwaraewr £7 / Cyff £ 8 / Cym £8 

Traws 21: 18fed Medi Harlech v Porthmadog; 25ain Bangor v Machynlleth; 9fed Tach Nant Conwy v Tywyn; 16eg Tach Bro v Dolgellau.

1992     
18 Ebrill Aduniad Pont y Pant; 28ain Cwpan Gwynedd- Bala 19 v Bro 5. Tîm: Geraint Roberts / Ken Roberts / Marc Atherton / Dafydd Jones / Keith Williams /Danny McCormick / Richard J / Hayden / Alun Jones / Garry Hughes / DylanT Kevin Griffiths / Gwilym James / Rhys Williams. Eilyddion Adrian Dutton /Alan Thomas / Mark Thomas / Dilwyn Williams /R O Williams / Glyn Jarrett
Cyfarfod Blynyddol 1991/1992. Penderfynu atyweirio to’r Clwb –ar frys! Wedi gwneud cais am grant.
5ed yn y gynghrair Ch10 E2 C 8
Trysorydd - Derbyniadau yn fwy na’r taliadau o £5,103.68 Aelodaeth £562
Chwaraewr y Flwyddyn Hayden Williams; Chwaraewr y Flwyddyn II Dilwyn Williams; Clwbddyn Gwynne Williams.
Ardal Gwynedd v Ardal Llaneli (Gwynedd> Ennill) Gwilym James (Capt) / Rob Atherton. Eilydd Hayden Williams / Danny McCormick
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2024


Senedd Stiniog- Detholiad Dechrau'r Flwyddyn

Pytiau o'r Cyngor Tref

Derbyniodd y Cyngor gais cynllunio i godi naw o dai ger Y Wenllys, Llan Ffestiniog, a bu dipyn o drafodaeth am y cynllun.  Dywedwyd fod tai eisoes yn cael eu codi yn y pentref ac y byddai’r rhain yn mynd i asiantaeth dai o Glwyd!  Amhosib fyddai cefnogi’r cais ar hyn o bryd gan nad oes sicrwydd mai i bobl leol oedd y tai am fod.  Dywedodd y ddau Gynghorydd o’r Llan, sef Marc Lloyd Griffiths a Linda Ann Jones, eu bod ill dau wedi derbyn nifer o gwynion gan drigolion y pentref ac nad oedd digon o wybodaeth am y prosiect ar gael.  Gwrthodwyd y cais, ond fe benderfynwyd ar ofyn wrth y Parc Cenedlaethol am fwy o gyngor a gwybodaeth.

‘Rhybydd o Gynnig’ – Cytunwyd yn unfrydol i gefnogi cynnig y Cyng. Mark Thomas i chwifio baner Llywelyn ap Gruffudd yng nghanol y dref pob mis Rhagfyr.  Disgyn Dydd Llewelyn yr 2il, ein Llyw Olaf, ar Ragfyr yr 11fed pob blwyddyn, dyddiad ei lofruddiaeth.

Codwyd wrychyn sawl cynghorydd gyda gwaith blêr, diog ac esgeulus Cyfoeth Naturiol Cymru, o ddeall fod Ceunentydd Cynfal a Llennyrch wedi cael eu disgrifio ganddynt o fod, “ger Porthmadog”.  Penderfynwyd e-bostio i fynegi siom y Cyngor Tref am hyn ac i’w hannog i gywiro’r disgrifiad a rhoi “ger Ffestiniog” yn ei le.  Daethom i ddeall fod y Dref Werdd, Cwmni Bro a Llafar Bro am wneud hyn hefyd

Cafwyd cais am gymorth ariannol gan Fudiad yr Urdd. Toedd dim gwrthwynebiad o ran egwyddor ond fe siomwyd rhai cynghorwyr gan y cais.  Dywedwyd fod y mudiad newydd gael pres da o werthiant eu hadeilad yn y dref i Antur Stiniog.  Adeilad yw hwn a godwyd, amser maith yn ôl, o bres prin chwarelwyr ‘Stiniog.  Dywedodd yr Urdd eu bod angen y pres i helpu cynnal yr Eisteddfodau a ballu yn y cylch.  Penderfynwyd cyfrannu at y rheini drwy roi pres yn uniongyrchol i’r ysgolion ar eu cyfer.

Rhai o’r prif faterion a godwyd yn y Pwyllgor Mwynderau oedd gyrru llythyr i Network Rail i ofyn sut oedd eu trefniadau’n siapio ynglŷn â chlirio’r lein.  Cadarnhawyd fod cytundeb bellach yn bodoli ar waith arfaethedig yn y Parc i dorri gwrychoedd a phlannu planhigion a ballu; a bod mwy o holi angen ei wneud cyn parhau ar y gwaith i greu maes parcio ym Mhant yr Ynn.

Gan fod y Cyngor wedi cysylltu’n mynegi siom fod staff Plas Weunydd yn colli eu gwaith oherwydd bod y Gwesty wedi derbyn trefniant bloc; daeth Michael Bewick, un o gyfarwyddwyr y cwmni i egluro’r sefyllfa. Esboniodd nad oedd neb am, nac wedi colli eu swyddi. Roedd un aelod o’r staff
wedi gadael ei swydd ar liwt ei hun, meddai. Derbyniodd y busnes y trefniant bloc am fod yr incwm amdano yn dda, a byddai’r elw’n mynd tuag at Gynllun Ynni Gwyrdd y cwmni. Diolchodd y Cyngor iddo am fynychu’r cyfarfod ac am ateb cwestiynau’r Cynghorwyr.
Diolchwyd hefyd i Andrew Williams a ddaeth i annerch y cyfarfod ar ran Hen Eglwys Llan Ffestiniog.
Eglurodd fod y cynlluniau darpariedig i ddatblygu’r adeilad bellach wedi cael eu pasio, sef codi wal ddringo ac agor caffi, ac y disgwylir ddechrau ar y gwaith yn fuan.

Ffair Llan. Ystyriwyd gohebiaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Gwynedd ynglŷn â phroblemau iechyd a diogelwch yn sgil lleoliad y Ffair y llynedd. Cynigodd Y Cyng. Mark Thomas ac eiliodd Y Cyng. Dafydd Dafis y dylem lythyru’n ôl i’r Cyngor Sir yn diolch am yr wybodaeth, ac yn dweud nad yw’r Cyngor Tref eisiau cymeryd y cyfrifoldeb am drefnu’r Ffair na’r costau sy’n gysylltiedig â hi. Cytunodd pawb eu bod yn awyddus i weld y Ffair yn parhau.

Soniwyd mis neu ddau’n ôl fod y Cyngor wedi cytuno i gyfrannu at gais am arian gan Theatr Bara Caws. Trafodwyd hyn eto a chytunwyd y dylid cefnogi ceisiadau sy’n hybu’r celfyddydau os yn bosib, yn enwedig rhai drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal. Cynigodd Y Cyng. Dafydd Dafis ac eiliodd Y Cyng. Gareth Davies bod y Cyngor yn rhoi £100 at yr achos, a chytunodd pawb ar hyn.
David Jones a Sioned Graham-Cameron
- - - - - - - - -

Detholiad o newyddion y Cyngor Tref, o rifynnau Chwefror a Mawrth 2024